Hanes Côr Meibion y Penrhyn

Cyhoeddwyd gan

GÔR MEIBION Y PENRHYN

© Aelodau Côr Meibion y Penrhyn

 

Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu na throsglwyddo unrhyw ran o'r cyhoeddiad hwn mewn unrhyw ffurf drwy unrhyw gyfrwng, electronig, mecanyddol, ffotocopïo, recordio neu fel arall, na'i storio mewn unrhyw system gyfyngedig o unrhyw natur heb ganiatâd ysgrifenedig deiliad yr hawlfraint. Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig o'r fath hefyd cyn storio unrhyw ran o'r cyhoeddiad hwn mewn system adfer o unrhyw natur.

Cydnabyddiaethau

Hoffai pwyllgor y côr ddiolch i'r bobl ganlynol am eu cymorth wrth lunio'r hanes hwn am y côr.

Emyr Fôn Evans (B1) am gynorthwyo gyda'r ymchwil ac am roi trefn ar ddeunydd archifol y côr.

Emyr Roberts (T2) am ei gymorth wrth gydlynu gwahanol agweddau ar y gwaith, a Dr. Gwilym Owen (T2) am strwythuro ac ysgrifennu'r hanes hwn am y côr.

Dr. Catherine Jones am wneud ei thraethawd PhD ar gael i'r côr a'i goruchwyliwr, Mr. Wyn Thomas.

Miss Claire Burgess a Mr. Caleb Rhys Jones am wneud eu traethodau ymchwil israddedig ar gael.

Gwyn Burgess (T2), Dafydd Pritchard (T1), Idwal Jones (B1) a Gwil Owen (B2), sydd wedi bod yn aelodau o'r côr ers dros hanner can mlynedd, am ddarllen drafftiau blaenorol o'r gwaith ac am wneud sylwadau adeiladol.

Alun Davies (B1) am ei wasanaeth wrth gyflwyno'r hanes hwn ar wefan y côr, ac i Paul Rowlinson (T1) am ei wasanaethau cyfieithu.

Menai Williams, Brian Pritchard (T2), Dr. Frances Davies, Owain Arwel Davies, Raymond Roberts (T1), John Outram (B1), Tom Williams (T2), Dafydd Jones-Morris (B2), Hywel Thomas (T1), John Outram (B1) a Raymond Roberts (T1) am eu cyfraniadau unigol a nodwyd yn y gwaith hwn, a James Griffiths am ei gymorth wrth edrych dros yr adran am arweinwyr a chyfeilyddion y côr. Yn olaf, hoffai Gwilym Owen (T2) ddiolch i'w fab, Gwyn Owen, am sbarduno'r syniad a darparu'r ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect hwn.

 

Cynnwys

  • Cydnabyddiaethau
  • Cyflwyniad
  • Tystiolaeth gynnar o gloddio llechi yn yr ardal
  • Llinell amser dechreuadau'r côr
  • R.D.Griffith
  • Capeli Bethesda
  • Crynodeb o'r prif eisteddfodau a chyngherddau 1935-1984
  • Crynodeb o'r prif eisteddfodau a'r prif gyngherddau 1984-2025
  • Arweinwyr a chyfeilyddion
  • Unawdwyr cyfredol
  • Galwedigaethau aelodau'r côr
  • Atgofion am gyngherddau

XM2138.32a

XM2138.32b

Trwy ganiatâd caredig Archifdy Gwynedd

Y Côr tu allan i Gastell Windsor
Trwy ganiatâd caredig Archifdy Gwynedd
XS3364.5.jpg

Cyflwyniad

Ym mis Awst 1984 cyhoeddodd cyn-aelod o'r côr, Elfed Jones, lyfryn o'r enw Côr Meibion ​​Penrhyn Heddiw a Ddoe. Mae hwn yn adrodd hanes y côr o'i ddyddiau cynnar ar ddechrau'r 1880au ac yn adrodd hanes taith y côr i Ffair y Byd Chicago ym 1893. I osod y cefndir, mae'n disgrifio'r cyfraniadau a wnaed gan rai o'r cerddorion cynnar yn Nyffryn Ogwen cyn y 1880au: Robert Williams (Cae Aseth), David Roberts (Alawydd), Owen Davies Humphreys (Eos Llechid), ac Edward Stephen (Tanymarian). Nid yw ei lyfryn yn manylu ar Streic Fawr 1900-03 gan fod yr hanes hwnnw'n adnabyddus. Yn fyr, rhoddodd y côr y gorau i gystadlu ar ôl y Streic Fawr ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf 1914-18 a ddilynodd.

Ail- ffurfiodd y côr ym 1935 i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon y flwyddyn honno. Yna mae Elfed Jones yn mynd ymlaen i enwi’r prif eisteddfodau y cystadlodd y côr ynddynt wedi hynny. Mae'n nodi 1935 fel y dyddiad pan ddechreuodd y côr ac yna'n rhoi manylion am arweinwyr a chyfeilyddion y côr hyd at 1984. Mae straeon diddorol am brif deithiau a chyngherddau'r côr hefyd wedi'u cynnwys yn y llyfryn.

Nid nod y disgrifiad hwn o hanes Côr y Penrhyn yw disodli llyfryn rhagorol Elfed Jones, ond yn hytrach ychwanegu ato rai ffeithiau a ddaeth i’r amlwg am hanes y côr ers cyhoeddi ei naratif ym 1984. Nid oedd y ffeithiau hyn ar gael iddo ar y pryd, ac yn arbennig byddwn yn achub y cyfle i ailasesu hanes y côr gan ystyried y wybodaeth bellach hon.

Byddwn yn sôn am rai materion cyn 1935 a'r rhai wedi hynny. Bydd hanes y côr yn dechrau gyda hanes byr cloddio am lechi yn yr ardal yn y cyfnod cyn chwarel fodern y Penrhyn. Mae hanes chwarel y Penrhyn yn adnabyddus ac, yn ddealladwy, ni roddodd Elfed Jones sylw iddo. Fodd bynnag, mae’r chwareli llechi a hanes Bethesda yn mynd law yn llaw, ac mae wrth wraidd unrhyw beth sy'n ymwneud â chôr y Penrhyn. Yr hyn nad yw mor adnabyddus yw hanes cloddio am lechi yn yr ardal cyn chwarel bresennol y Penrhyn.

Yna bydd y stori’n symud ymlaen i ddadansoddi llinell amser y côr yn seiliedig ar dystiolaeth bellach sydd wedi’i darganfod. Mae rhagor o wybodaeth wedi dod i’r amlwg am y daith i Chicago ym 1893 a byddwn yn rhoi sylwadau ar hyn. Mae ymchwil bellach yn Archifau Gwynedd wedi datgelu rhai hen luniau o’r côr na chawsant eu cynnwys gan Elfed Jones ynghyd â hen raglenni cyngerdd, a gellir ychwanegu copïau o rai o’r delweddau hyn at y gwaith hwn yn y dyfodol. Fe gofiwn fod Elfed Jones wedi sôn am y cyfraniadau a wnaed gan rai cerddorion amlwg yn Nyffryn Ogwen cyn y 1880au. Ers cyhoeddi ei lyfryn, mae Claire Burgess wedi ysgrifennu traethawd hir am R.D. Griffith nad oedd ei gyfraniad i gerddoriaeth yn y dyffryn wedi cael llawer o sylw. At hynny, mae dirprwy arweinydd y côr, Caleb Rhys Jones, wedi ysgrifennu traethawd hir yn ddiweddar ynghylch hanes cynnar cerddoriaeth yn Nyffryn Ogwen a darperir manylion y ddau draethawd hir.

Mae 1935 yn rhyw fath o drobwynt yn hanes y côr am resymau a eglurwyd yn flaenorol. Mae'n bwysig nodi, er gwaethaf ymdrechion gorau pwyllgor Côr y Penrhyn i gael hyd i lyfrau cofnodion y côr, na chafwyd hyd i unrhyw gofnodion rhwng 1935 a 1967. Mae’r unig gofnodion sydd ar gael yn dechrau ym 1967, ac mae'r côr wrthi yn digideiddio pob cofnod sydd ar gael o gyfarfodydd pwyllgor y côr.

Er mai pwrpas y naratif hwn yw ychwanegu at waith Elfed Jones hyd at 1984, manteisir ar y cyfle i estyn y cyfnod mewn rhai meysydd. Er enghraifft, byddwn yn darparu rhestr o'r holl arweinyddion hysbys hyd at y presennol, gan gynnwys y rhai a nodwyd gan Elfed Jones. Rhestrir y prif eisteddfodau a chyngherddau rhwng 1935 a 1984 ac ers 1984 hyd at heddiw.

Rhwng 2020 a 2025 aeth rhai aelodau drwy hen ddogfennau sy'n perthyn i'r côr a'u dwyn ynghyd yn drefnus. Canfuwyd copïau o hen sgorau cerddorol, a ddefnyddid gan gyn-unawdwyr y côr mewn cyngherddau, a byddwn yn darparu manylion am yr unawdwyr presennol.

Mae rhai aelodau o'r côr wedi dweud y byddai o ddiddordeb ystyried sut mae galwedigaethau aelodau'r côr wedi newid dros amser, a bydd sylwadau ar hyn.

Mae'r naratif hwn yn cynnwys rhai o'r cyngherddau a'r teithiau mwyaf nodedig a wnaed gan y côr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sef Glastonbury, UDA, ac yn fwy diweddar, Canada.

 

Tystiolaeth gynnar o gloddio llechi yn yr ardal

Mae’r dystiolaeth gynharaf am gloddio llechi yng nghyffiniau Bethesda i’w chael mewn cywydd o’r bymthegfed ganrif gan Guto'r Glyn. Canwyd y cywydd i Ddeon Bangor ar ran uchelwr o Ddinbych, i ofyn iddo anfon ‘teils to’ o Aberogwen. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth bod y llechi a gafodd eu cludo i Aberogwen wedi dod o chwarel bresennol y Penrhyn yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r côr yn ddiolchgar i Dr. David Gwyn am ddarparu'r wybodaeth hon.

Mae map ystad rhagorol i’w gael, mewn cydraniad uchel, sy'n dangos lleoliad chwarel bresennol y Penrhyn a gellir ei weld ar-lein diolch i Archifau Prifysgol Bangor. Gellir cael mynediad iddo trwy fynd i Google Search ac yna teipio Bangor JSTOR. Yna, cliciwch ar Fapiau Ystadau Tiriog Cymru ac yna cliciwch ar y map gyda'r pennawd Map of Lower Part of Llandegai. Dyma MSS 2205 ac fe'i paratowyd ym 1768 yn fuan ar ôl i ystad y Penrhyn brynu'r chwarel. Oddi wrth y map gellir gweld bod chwarel y Penrhyn wedi'i lleoli mewn cae mawr o'r enw Cae Braich y Cafn. I'r dde o Gae Braich y Cafn mae Llyn Meyrick sydd bellach wedi diflannu, ar ôl cael ei lenwi â gwastraff llechi.

Nesaf, drwy fynd i Google Search a mewnbynnu llyfr Arolygon Archifau Ystad y Penrhyn, cyrhaeddir llyfr arolwg JSTOR. Cliciwch ar y llyfr arolwg (PENRA/2944) ac yna ewch i dudalen 14 o'r llyfr arolwg, map 112. Mae hyn yn dangos i bwy yr oedd Ystad y Penrhyn yn rhentu'r chwarel ym 1768 cyn i'r Penrhyn ddatblygu'r chwarel at ei ddibenion ei hun.

Mae hyn i gyd yn gysylltiedig ag ymchwil gan R. Merfyn Jones yn ei lyfr, The North Wales Quarrymen 1874-1922 (UWP 1981) t2. Yno, mae Merfyn Jones yn dweud:

“Cafodd llechi eu cloddio ar raddfa fawr gyntaf gan Richard Pennant…Roedd Pennant wedi caffael ystadau Penrhyn trwy ei briodas ym 1765 pan gymerodd Anne Warburton yn wraig iddo”.

Yna mae'n mynd ymlaen i ddisgrifio sut

“… roedd y chwarelwyr annibynnol a oedd wedi gweithio'r creigiau llechi yng Nghaebraichycafn wedi cael eu prynu allan a'u trawsnewid yn llafurwyr cyflog… a dechreuwyd adeiladu pentref model i gartrefu'r nifer cynyddol o weithwyr a gyflogwyd yn ei chwareli”.

Mae tair chwarel lechi arall, lawer llai, yn yr ardal sy'n werth eu crybwyll, pob un â hanes diddorol. Y gyntaf yw Bryn Hafod y Wern ym mhlwyf Llanllechid a beidiodd â gweithredu fel mwynglawdd llechi ymhell dros ganrif yn ôl. Mae hanes y mwynglawdd hwn wedi cael ei ystyried yn fanwl gan J.Ll. Williams a D.A. Jenkins mewn dwy erthygl yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 55 1994, 47-70, a Thrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 56 1995, 87-107. Yn ôl traddodiad lleol, y chwarel hon yw'r hynaf o'r holl chwareli llechi yn Nyffryn Ogwen ond nid oes tystiolaeth hanesyddol i'r honiad hwn. Gwnaed ymdrechion i ddatblygu'r chwarel gan Ystad y Penrhyn trwy brydles gan y Goron ym 1817 ond y cwmni cyntaf i ddatblygu'r chwarel oedd cwmni o Lundain, ac yna Cwmni Llechi Brenhinol Bangor a Chwmni Llechi Bangor (Trafodion, 55 t.49). Daliodd y cwmnïau hyn y chwarel trwy brydles gan y Goron. Caeodd y chwarel yn y pen draw ym 1889 (Trafodion 56 t.105).

Ymhen amser, aeth Ystad y Penrhyn ymlaen i brynu'r chwarel ym 1891, (Trafodion 56, t. 89), ond ni chafodd ei datblygu erioed gan y Penrhyn wedi iddynt ei phrynu. Bryd hynny, cafodd tair o'r olwynion dŵr ym Mryn Hafod y Wern eu datgymalu a'u symud i brif chwarel y Penrhyn (Trafodion 55 t.65). Y chwareli llechi eraill yn Nyffryn Ogwen y dylid eu crybwyll yw: Pantdreiniog a Thanybwlch. Trafodwyd hanes y ddwy chwarel gan J.Ll. Williams a D.A. Jenkins mewn erthygl yn Nhrafodion Cymdeithas Hanesyddol Sir Gaernarfon, 57 1996, 65-84.

Yn safle hen chwarel Pantdreiniog ar hen ystad Cefnfaes y tynnwyd y llun o'r côr sydd ar ein gwefan ychydig cyn yr ymweliad â Chanada yn haf 2025. Roedd y chwarel wedi'i lleoli yng nghanol Bethesda, ond cafwyd gwared â’r holl olion o'r chwarel ym 1974 (Trafodion 57 t.65). Agorwyd y chwarel gyntaf ym 1805 (Trafodion 57 t.68), a rhwng 1900 a 1910 fe'i datblygwyd gan North Wales Quarries Limited. Roedd yn bwysig gan fod gwaith i’w gael yno yn ystod y Streic Fawr 1900-1903 (Trafodion 57 t.70). Ysgrifennodd J.Ll. Williams a L.W. Williams erthygl arall ar hanes Pantdreiniog yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (Trafodion 79, 2023, tt.131-159). Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar hanes Pantdreiniog rhwng 1890 a 1907 sef y ddau ddegawd olaf y bu’r chwarel yn weithredol, a'r dylanwad a gafodd W.J. Parry ar y chwarel a'i ymdrechion i sefydlu Cronfa Apêl y Penrhyn yn ystod cyfnod y Streic Fawr.

Y drydedd chwarel yw chwarel Tan y Bwlch a leolir i'r de-ddwyrain o Lanllechid. Agorwyd y chwarel gyntaf ym 1805 ond yna aeth yn segur tan 1862 pan gafodd ei datblygu gan gwmni o Lundain o'r enw Cwmni Llechi Port Bangor. Ffynnodd rhwng 1862 a 1867 (Trafodion 57 tt. 74-75), ond fe gaeodd ym 1876 (Trafodion 57 t.82).

Llinell Amser Dechreuadau'r Côr

Un o'r darnau ymchwil mwyaf a wnaed ers i Elfed Jones ysgrifennu ei lyfryn ym 1984 yw traethawd ymchwil PhD a ysgrifennwyd gan Catherine Jones, sef Dyffryn Ogwen: microcosm cerddorol, Agweddau ar gerddoriaeth gorawl yn Nyffryn Ogwen 1840-1914 a'r rhyngweithio rhwng diwydiant, crefydd a chreu cerddoriaeth. Dyfarnwyd gradd doethur am y traethawd, sydd mewn dwy gyfrol, gan Brifysgol Bangor yn 2022.

Olrheinir y gwahanol linynnau a arweiniodd at ffurfio'r côr a gystadlodd yn yr ŵyl ryngwladol yn Chicago ym 1893 (sylwadau isod). Mae'r rhain yn cynnwys y corau ponc, h.y. y cabanau. (Traethawd ymchwil Catherine Jones t162 troednodyn 6).

Mae adroddiadau cynnar am gorau’r ponciau yn dyddio o 1876. Mae Catherine Jones o’r farn y byddai corau yn sicr i’w cael yn y chwarel cyn 1876 (gweler t162 troednodyn 7 o’r traethawd ymchwil) oherwydd cynhaliwyd eisteddfod gyntaf chwarelwyr y Penrhyn yn Neuadd y Farchnad Bethesda ar 3 a 4 Hydref 1876. Denodd hyn gorau o saith ponc wahanol, ac mae gennym enwau rhai o’r corau ponc ynghyd â’r caneuon a ganwyd ganddynt.

“Dechreuodd y corau hyn…gymryd rhan mewn eisteddfodau ledled y chwarel a symud allan i gymuned ehangach Dyffryn Ogwen i gystadlu a pherfformio i’r boblogaeth leol”. (Traethawd Catherine Jones t182)

“Er i’r côr meibion mawr ​​cyntaf yn Nyffryn Ogwen, sef Côr Meibion ​​Y Penrhyn, ymffurfio yn y 1880au a dechrau’r 1890au, parhaodd traddodiad y côr chwarelwyr llai i ffynnu, er nad yn ddi-dor”. (Traethawd Catherine Jones t190).

Nodir cyngerdd mawr cyntaf Côr y Penrhyn, sef ar 9 Tachwedd 1891, pan berfformiodd y côr yng ngwledd Maer Llundain yn Llundain (traethawd Catherine Jones t201). Cystadlodd y Côr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Rhyl am y tro cyntaf ym 1892 (traethawd Catherine Jones t201), gan ennill y gystadleuaeth, a pherfformiodd yng Nghastell Penrhyn ar 13 Medi 1892 ar gyfer Maer a Maeres Llundain (traethawd Catherine Jones t202).

Mae Elfed Jones yn ymdrin â ffurfio’r Côr Penrhyn enwog a gystadlodd yng ngŵyl ryngwladol 1893 yn Chicago. Ar 24 Awst 1893, “hwyliodd y côr o Ddoc Alexandra Bootle, Lerpwl, ar fwrdd y llong, Vancouver”. Yn y gystadleuaeth "collodd y côr o un marc i Gymdeithas Glee Rhondda" (traethawd Catherine Jones, tt209-10).

Y noson cyn iddynt hwylio, 23 Awst 1893, perfformiodd y côr mewn cyngerdd yn Neuadd Hope, Lerpwl (sydd bellach yn rhan o theatr Everyman). Mae manylion rhaglen y cyngerdd yn Archifau Gwynedd (XPQ 115a ac XPQ 115b).

XPQ115a

XPQ115b

Trwy ganiatâd caredig Archifdy Gwynedd

Yn dilyn gŵyl ryngwladol 1893, perfformiodd y côr llawn gerbron Tywysog a Thywysoges Cymru yng Nghastell Penrhyn ar 10 Gorffennaf 1894 (traethawd Catherine Jones t215). Mae manylion rhaglen y cyngerdd yn Archifau Gwynedd (XPQ 117a ac XPQ 117b). 

XPQ117a

XPQ117b

Trwy ganiatâd caredig Archifdy Gwynedd

Ar noson 11 Gorffennaf 1894, aethant i weld arddangosfa Tân Gwyllt mawr yn Rhos Hill Landygái - mae'r rhaglen i’w chael yn Archifau Gwynedd (PQ 118). 

Dilynwyd hyn gan ymweliad â Chwarel y Penrhyn ar 12 Gorffennaf 1894, y manylion unwaith eto yn Archifau Gwynedd (PQ 119). Cystadlodd y côr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1894, gan ennill y gystadleuaeth honno fel y nodwyd gan Elfed Jones. Meddai Catherine Jones:

XPQ.119

XPQ119b

Trwy ganiatâd caredig Archifdy Gwynedd

“Parhaodd Côr Meibion ​​y Penrhyn â’u perfformiadau drwy gydol 1894. Ond yn dilyn eu hymddangosiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol a dychweliad Edward Broome wedyn i Ganada, roedd perfformiadau cyhoeddus y côr yn llawer llai uchelgeisiol. Er iddynt ennill y gystadleuaeth, 1894 oedd y flwyddyn olaf i Gôr Meibion ​​y Penrhyn gystadlu ar lefel Genedlaethol”. (Traethawd Catherine Jones, t 218).

Mae Elfed Jones yn rhoi manylion am Streic Fawr 1900-1903 a sut y ffurfiwyd corau streic i godi arian i’r chwarelwyr. Mae Catherine Jones yn rhoi manylion streic gyntaf Penrhyn ym 1896 ac yn asesu ei heffaith fel a ganlyn:

“Chwalwyd y côr ym mis Tachwedd (1896) oherwydd ffactorau nad a wnelent â cherddoriaeth, gan ddileu sefydliad lleol iach, bywiog a oedd yn datblygu. Dyna ddinistrio bron draddodiad na fyddai’n cael ei adfywio am 40 mlynedd arall, gan danseilio’r gwaith arloesol a wnaed i ddatblygu cerddoriaeth gorawl meibion ​​Dyffryn Ogwen yn ystod diwedd y 19eg ganrif”. (Traethawd Catherine Jones, t 220).

Er na all Côr y Penrhyn ddangos hanes di-dor tan 1935, mae ei darddiad wedi’i wreiddio’n gadarn yn Nyffryn Ogwen ac yn deillio o ddiwylliant y caban ers o leiaf 1876 ac, o bosib, cyn hynny.


Dyfynir yr isod o lyfryn (tudalennau 24-26) a ysgrifennwyd gan Mrs Phyllis Jones am ei gŵr Dr Emyr Jones, a oedd yn brif feddyg yn Ysbyty Chwarel y Penrhyn 1931 - 1937.
Teitl y llyfr yw: “Doctor Emyr”, a gyhoeddwyd yn 1979 gan Gwasg Gee. Diolch i’w merch Nan Bate am ganiatâd i ddyfynu o’r llyfr.

“Roedd gan Emyr lawer o ddiddordebau.  Pêl droed oedd ei gariad gyntaf, wrth gwrs.  Ond, fel mae dyn yn heneiddio mae ei diddordebau yn newid, ac ar ôl i ni briodi, Côr Chwarel y Penrhyn aeth a’i fryd.
Gan y diweddar Hughie John Owen, ychydig cyn ei farw, y cefais beth o hanes dechreuad y Côr oherwydd yr oedd yn un o’r aelodau cyntaf.  Daeth Hugh i’m gweld un pnawn i ‘Cynefin” a chawsom sgwrs ddifyr.  Gofynnais iddo sut y daeth y Côr i fod, a dyma’r hanes a gefais ganddo.”

Fe ddois i gysylltiad a Dr. Emyr drwy’r Côr.  Rwy’n cofio yn iawn bod saith o gorau o bonciau’r chwarel yn cystadlu yn erbyn eu gilydd yn eisteddfod Llanllechid.  Meddyliwch, saith o gorau o’r chwarel!  Meddyliwch!  Mil yn gweithio yno ac rwy’n cofio hyd heddiw un darn sef “Gorffwysa Di”.  
Dywedodd y beirniad wrthym bod cywilydd inni na fuasai un côr meibion mawr yn y chwarel, ac felly cychwynodd “Côr y Penrhyn”.  

Y rhai cyntaf i ddod at eu gilydd oedd Dr. Emyr, Dafydd Lloyd Parry, yr ysgrifennydd, Dei Jones yr arweinydd a William Roberts Pant yn drysorydd a Rol o Dregarth i’w helpu.  Ond y ddau gymeriad yn y côr yr adeg honno oedd Dr. Emyr a Dafydd Lloyd.  

Yn ysgol y Cefnfaes oedd y practis cyntaf a rhyw hanner cant yn dod yn rheolaidd am flwyddyn nes daeth yr Eisteddfod i Gaernarfon.  Hogiau’r chwarel yn unig oedd yn y côr - mae’n wahanol iawn erbyn heddiw.  Penderfynwyd cystadlu yn eisteddfod Caernarfon ac i Dr. Emyr a Dafydd Lloyd wneud y trefniadau i gyd.   Hefo tren yr aethom yno - mae honno wedi stopio yn llwyr erbyn heddiw - ond mynd ddaru ni ac ennill y wobr gynta - a sôn am y croeso mawr a gawsom pan ddaethom yn ol i’r pentre y noson honno.  

Wedi hyn, roedd galw arnom i gynnal cyngherddau mewn llawer lle.  Cawsom hwyl garw yn mynd i Miles End yn Llundain i agor y “People’s Palace”.  Cychwyn hefo trên y noson cynt tua 11.00 p.m. a chyrraedd Llundain am chwech yn y bore a siars gan Dafydd i’w gyfarfod yn y “People’s Palace” am hanner awr wedi chwech ar ôl diwrnod o ryddid yn Llundain.  A chwarae teg iddynt, roedd pawb yno mewn pryd yn dwt ac yn ddel.  Ar ôl y cyngerdd, ras i ddal trên 11.00 p.m. yn ôl i Pesda yn y bore bach, ac i’r chwarel erbyn 7.30 a.m.  Dwy noson a diwrnod caled, ond ar y cyfan yn werth chweil.  

Yr amser, a fwynhaodd y Dr. fwyaf oedd pan enillodd y Côr ym Mhenybont Fawr.  ‘Roedd yna gôr mawr yn Neiniolen yr adeg honno a hwnnw wedi cystadlu yn y brif gystadleuaeth yn y genedlaethol.  A dyma ni yno.  Roedd saith o gorau yn cystadlu, rwy’n cofio yn iawn, ac er syndod i bawb, y ni yn ennill.  Cofiaf ni’n dod adra drwy ‘Stiniog a’r wawr yn dechrau torri.

Arweinydd cyntaf y Côr oedd David Jones o Rachub a chawsom gymorth gan Mrs. Ceridwen Lloyd Davies a oedd yn dysgu yn y Brifysgol ym Mangor.  Ei gŵr oedd y Ficar yn Llanllechid.  Yr ail arweinydd oedd Ffrancon Thomas ac o dan ei ofal daeth y Côr yn enwog.  Yna cawsom Mrs Menai Williams yn arweinydd, ond bydd rhaid iddi ymddeol oherwydd nad oedd ei hiechyd yn caniatáu.

Bu’r Dr. yn ffyddlon iawn i’r Côr a phawb yno yn ei barchu.  Biti iddo orfod ein gadael mor fuan.  Mi fyddai wedi bod wrth ei fodd hefo’r Côr sydd gennym heddiw, yn enwedig o weld cymaint o hogiau ifanc wedi ymaelodi.  

‘Rwyf yn aelod ers 40 mlynedd, a does on tri o’r rhai cyntaf ar ôl.  Ond ni fu’r Côr erioed yr un fath ag yr oedd pan nad oedd ond hogiau chwarel yn aelodau, a Dr. Emyr a Dafydd Lloyd wrth y llyw.”

“Wedi’r sgwrs uchod hefo Hugh John, gwelais y Côr Penrhyn presenol yn eisteddfod Dyffryn Ogwen, a daeth i’m meddwl fod yna gôr go dda yn yr ardal o hyd.”


R.D.Griffith (1877-1958)

‘Y Cerddor Dawnus a’r Ymchwilydd Diwyd’

Fel y soniwyd eisoes, ni wnaeth Elfed Jones sylwadau am gerddor enwog arall o Ddyffryn Ogwen, R.D. Griffith. Ers i Elfed Jones ysgrifennu hanes Côr y Penrhyn ym 1984, mae Claire Burgess wedi ysgrifennu traethawd hir, gyda’r teitl uchod, am fywyd a gwaith R.D. Griffith fel rhan o’i gradd anrhydedd gyfun a ddyfarnwyd gan Brifysgol Bangor ym mis Ebrill 2000 mewn Cymraeg a Cherddoriaeth. Claire yw merch Gwyn Burgess, ail denor yng Nghôr y Penrhyn, a grybwyllir gan Elfed Jones yn ei gyhoeddiad ym 1984. Crynhoir pwyntiau amlwg y traethawd hir yma trwy ganiatâd caredig Claire Burgess. Mae’r gwaith yn ymestyn i tua 70 tudalen gyda chwe atodiad ac mae wedi’i rannu’n chwe phennod, pob un yn ymdrin ag agweddau gwahanol ar fywyd a gwaith R.D. Griffith.

Mae ei stori yn nodedig gan na chafodd addysg uwch ac roedd i bob pwrpas yn hunanddysgedig. Ganwyd ef yng Nghwm-y-Glo ger Caernarfon ar 15 Mai 1877. Roedd ei fam yn gyfnither i David Roberts (Alawydd) a grybwyllir gan Elfed Jones. Symudodd y teulu i Fethesda ym 1890, a gweithiodd R.D. Griffith gyda'i dad yn chwarel y Penrhyn tan 1901. Felly, byddai wedi bod yn ymwybodol o rai o'r prif ddigwyddiadau yn ymwneud â chôr y Penrhyn a nodir uchod ac, wrth gwrs, Streic Fawr 1900-03. Roedd ganddo ddiddordeb mewn addysgu a rhoddodd wersi cerddoriaeth i blant lleol. Ffurfiodd gôr o wyth deg o leisiau yng nghapel Jerusalem ym Methesda a heriodd y côr i ddysgu'r Meseia a berfformiwyd yn y capel. Roedd yn llwyddiant, a daeth cyngherddau o'r fath yn ddigwyddiad blynyddol. Ym 1921 ffurfiwyd cymdeithas gorawl Bethesda gydag R.D. Griffith yn arweinydd. Dechreuodd hefyd gyfansoddi gweithiau cerddorol ei hun ac mae casgliad ei weithiau wedi'i gadw yn Archifau Prifysgol Bangor. Yn ogystal, trefnodd donau emynau, un ohonynt gan Edward Stephen (Tanymarian) a nodwyd gan Elfed Jones. Gwnaeth hyn i gyd wrth weithio i gwmni paent ym Manceinion a theithio yn ôl ac ymlaen i Fethesda.

Bu R.D. Griffith yn byw ym Methesda am bron i bum mlynedd ar hugain cyn symud i Fae Colwyn ym 1928 lle arhosodd weddill ei oes. Ym Mae Colwyn ffurfiodd gôr o’r enw Cymdeithas Gorawl Gymreig Colwyn a'r Cylch, fel y gwnaeth ym Methesda, i berfformio oratorios. Roedd wedi dechrau ei ymchwil i gerddoriaeth yng Nghymru yn ystod ei gyfnod ym Methesda a pharhaodd â hyn ym Mae Colwyn. Rhwng 1931 a 1935 cyhoeddodd ei ymchwil yn Y Cerddor ar ‘Hanes Dechrau Canu Cynulleidfaol yng Nghymru’. Ym 1948 cyhoeddodd ei gyfrol Hanes Canu Cynulleidfaol yng Nghymru a gafodd dderbyniad da iawn. Ym 1952 derbyniodd radd MA er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru am ei wasanaeth i hanes cerddoriaeth yng Nghymru.

Capeli Bethesda

Mae capeli Bethesda yn bwysig o ran canu corawl yn Nyffryn Ogwen oherwydd y traddodiad o ganu corawl a ddatblygodd yn y capeli ac oherwydd bod Côr y Penrhyn wedi rhoi cyngherddau yn y capeli hyn dros y blynyddoedd. Dadansoddwyd hyn yn llawn gan Caleb Rhys Jones, dirprwy arweinydd y côr, yn ei draethawd hir israddedig ar gyfer ei radd baglor, dan y teitl 'Canu'r Nefoedd'. Mae’n ystyried agweddau ar ganu corawl yng nghapeli Bethesda yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r côr yn ddiolchgar am ei ganiatâd i gynnwys crynodeb o’i ei waith yma.

Mae'r traethawd hir mewn tair rhan ac yn dechrau gyda'r capel yng Ngharneddi. Yma, mae Caleb Jones yn gwneud cysylltiad ag R.D. Griffith:

“Yng nghanol y ganrif ddiwethaf, daeth Bethesda yn un o'r canolfannau cerddorol pwysicaf yng Nghymru.”

(R.D. Griffith, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru, 58.)

Roedd y capeli'n bwysig gan nad oedd llawer o ysgolion ar yr adeg hon, a'r capeli a ddatblygodd addysg i bob pwrpas (t.4 o'r traethawd).

Yna dilyn hynny mae’n trafod Capel Jerusalem, a adeiladwyd ym 1842, ac a adnewyddwyd ym 1872, ac ar yr adeg honno roedd tua 3,000 o bobl yn gweithio yn y chwarel a 15,000 yn ddibynnol ar y diwydiant llechi. (t.21 o'r traethawd). Roedd Capel Jerusalem yn enwog am ei ganu corawl yn y degawdau yn dilyn ei agor (t. 25 o'r traethawd). John Griffiths oedd yr arweinydd côr mwyaf dylanwadol yn Jerusalem (t.28 o'r traethawd). Mae'r dadansoddiad yn gorffen trwy drafod Côr Capel Bethesda).

Isod mae crynodeb o'r prif Eisteddfodau a nodwyd gan Elfed Jones 1935-1984 lle bu'r côr yn cystadlu a chyngherddau gan y côr.

Eisteddfodau

1935 Eisteddfod Caernarfon

1937 Eisteddfod Machynlleth

1939 Eisteddfod Dinbych

1947 Eisteddfod Bae Colwyn

1948 Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr

1949 Eisteddfod Dolgellau

1955 Cyngerdd Festival Hall Llundain

1961 Rhosllanerchrhugog

1968 Eisteddfod Llangollen

1971 Eisteddfod Bangor

1972 Eisteddfod Môn

1972 Eisteddfod Dyffryn Conwy

1972 Eisteddfod Llanddeusant

1972 Eisteddfod Butlins 

1972 Eisteddfod Dyffryn Ogwen

1973 Eisteddfod Rhuthun

1979 Eisteddfod Caernarfon

1983 Eisteddfod Llangefni

1984 Pontrhydfendigaid

1984 Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

1984 Eisteddfod Pantyfedwen

Cyngherddau eraill

1970 1,000 o leisiau Neuadd Albert Llundain

1974 1,000 o leisiau Neuadd Albert Llundain

1976 Cyngerdd i Gymdeithas Gymreig Aberdeen

1977 Cyngerdd gyda band o Nötzingen

1977 Ymweliad â Notzingen

1980 Gŵyl Geltaidd Dolgellau

1980 Cyngerdd gyda Chymdeithas Gymreig Bury St Edmunds

1980 Ail ymweliad â'r Almaen

1983 Gŵyl Ryngwladol Toronto

Crynodeb o brif Eisteddfodau 1984-2025 y bu’r côr yn cystadlu ynddynt a chyngherddau eraill gan y côr:

Prif Eisteddfodau

Pontrhydfendigaid 1984 1986 1988 1995

Llangollen 1984 1986 2001 2003 2013

Eisteddfod Môn 1985 1988 1997 2007 2017

Bro Madog 1987

Llanrwst 1989

Cwm Rhymni 1990

Bro Delyn 1991

Bro Colwyn 1995

Y Bala 1997

Bro Ogwr 1998

Môn 1999

Y Faenol 2005

Y Bala 2009

Llanrwst 2019

Llŷn ac Eifionydd 2023

Prif leoliadau cyngherddau

Bae Colwyn

Bangor

Birmingham

Beverley

Blackpool

Caer

Caerdydd

Corby

Derby

Glasgow

Glastonbury*

Huddersfield

Lancaster

Lerpwl

Llandudno

Llanelli

Llundain

Machynlleth

Manceinion

Ymweliadau eraill

Yr Almaen

Y Ffindir

UDA (pedair gwaith)

Hwngari

Norwy

Canada

Iwerddon

Lloegr

Yr Alban

 

Nodiadau ar recordio gyda “The Good, the Bad and the Queen”

Yn fuan yn 2018 derbyniwyd ebost gan reolwr y canwr “Damon Albarn” a oedd yn brif leisydd mewn grŵp Saesneg o’r enw “Pulp”, grŵp llwyddiannus iawn ar draws y byd, wedi gwerthu dros 10 miliwn o Gryno Ddisgiau.

Drwy gysylltiad gyda Rhys Ifans a Gruff Rhys, fe ddaeth y canwr i gysylltiad gyda’r côr gan ei fod yn chwilio am gôr meibion i gyfrannu at ganeuon ar gyfer ei gynhyrchiad cerddorol newydd, gyda grŵp newydd o’r enw “The Good, the Bad and the Queen”.

Gofynnodd i’r côr a fyddent yn fodlon cyd-weithio, ac wrth gwrs, fe dderbyniodd y côr y gwahoddiad. Awgrymwyd y byddai’n dda gwneud y gwaith recordio yng Nghastell Penrhyn, hyn er mwyn dangos i’r grŵp y cysylltiad rhwng y castell a’r côr. ‘Roedd y grŵp yn awyddus iawn i gael defnyddio’r castell.

Fe dreuliwyd diwrnod ym mis Mai 2018 yn recordio yn neuadd fawr Castell Penrhyn, gyda’r band newydd i gyd yno, yn ogystal â’r cynhyrchydd Tony Viscotti (cyn cynhyrchydd David Bowie), ac fe recordiwyd darnau o gerddoriaeth ar nifer o draciau gwahanol.

Yn dilyn rhyddhau'r albwm “Merrie Land”, gofynnodd Damon Alban a fyddai’r côr yn fodlon dod i berfformio yn fyw gyda’r band, eto, wrth gwrs, fe gadarnhaodd y côr y byddent yn falch iawn o dderbyn.

Y perfformiad cyntaf oedd ar y “North Pier” yn Blackpool i lansio’r albwm, lle cafodd y band, a’r côr, dderbyniad byth gofiadwy, gyda’r theatr i gyd yn cofleidio’r gerddoriaeth.

Yn dilyn llwyddiant y perfformiad fe gafodd y côr y fraint o berfformio yn Gwyl Glastonbury, yn theatr y “Palladium” yn Llundain ac yn “Somerset House” yn Llundain.

 

Arweinyddion a Chyfeilyddion

Arweinyddion

Dr. Edward Broome (1891-1894)
Fe oedd yr arweinydd yn Chicago ym 1893. Cafodd wahoddiad i aros yng Nghanada yn dilyn Ffair y Byd Chicago ond dychwelodd i Gymru o bryd i'w gilydd wedi hynny i arwain y côr.

David Jones (1935-1938)

Ffrancon Thomas (1938-1970)

Menai Williams (1970-1973)

Rowland Wyn Jones (1973-1977)

Margaret Owen (1978-1987)

Alun Llwyd (1987-1994)

John Eifion Jones (1994-1997)

Mary S Jones (1997-2004)

Owain Arwel Davies (2004- )

 

Cyfeilyddion

Ieuan Llywelyn Jones (?-1965)

Menai Williams (1965-1970)

James Griffiths (1970-1986)

Menna Leyshon (1986-2004)

Frances Davies (2004- )

 

Dirprwy gyfeilydd

Brian Pritchard (1970-2010)

 

Menai Williams:

“Medi 1965: Dod yn gyfeilydd i'r Côr yn dilyn cais gan y Llywydd ar y pryd.

1969: fy chwaer, Ann Pritchard, yn cyfeilio yn fy lle yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint, gan fy mod yn feichiog.

1970: derbyn gwahoddiad i fod yn Arweinydd, yn dilyn ymddeoliad Ffrancon Thomas. Hoffwn nodi yma fy nyled aruthrol i Ffrancon - ganddo ef y dysgais mai nid gweiddi yw canu cyhyrog i fod, a bod angen disgyblaeth arbennig i ganu rhannau tawel yn ddeallus.

1973: ymddeol o fod yn Arweinydd y Côr. 

Dylwn nodi i mi ddod i'r adwy fwy nag unwaith pan oedd yr Arweinydd ar y pryd yn methu presenoli ei hun mewn ymarfer neu gyngerdd, gan gynnwys taith i'r Almaen cyn i Alun Llwyd gymryd yr arweinyddiaeth”.

 

Brian Pritchard

Doedd y syniad o ddod yn aelod o gôr meibion ​​erioed wedi dod i’m meddwl tan un diwrnod ym 1970. Roeddwn i a James Griffiths yn athrawon yn Ysgol Pant-y-Rhedyn, Llanfairfechan. Un bore gofynnodd a fyddwn i’n gwneud ffafr iddo. Gofynnais am fanylion a daeth i’r amlwg y byddai’n ofynnol iddo gamu i mewn fel arweinydd Côr Meibion ​​y Penrhyn am ychydig wythnosau. Roedd James eisiau i mi fod yn ddirprwy gyfeilydd! Ar ôl ychydig ddyddiau o feddwl, cytunais o’r diwedd a dechreuais ymarfer.

Roeddwn i’n ddirprwy gyfeilydd rhwng 1970-2010 ac wedi hynny gofynnais i aros yn aelod o’r côr yn yr ail adran tenor lle rwy’n parhau hyd heddiw.

Dr. Frances Davies

Ganwyd Frances yng Ngheredigion.  Fe’i magwyd yn Nihewyd a mynychodd Ysgol Gynradd Dihewyd o 1970 tan 1978.  Cychwynnodd wersi piano yn 4 oed gyda Nina Jones, ALCM, Cilrhyd Dihewyd cyn symud at Olwen Jones, Avondale, Llwyncelyn.  O 1978 tan 1985, mynychodd Ysgol Gyfun Aberaeron.  Bryd hynny, dechreuodd wersi piano gydag Eunice Jones, (LRAM, ARCM) Upper Bank, Llanbedr, Pont Steffan. Pasiodd ei Gradd 8  piano ag anrhydedd pan yr oedd ond yn dair ar ddeg.  Enillodd y wobr gyntaf am yr Unawd piano dan 15 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn 1981, a’r flwyddyn olynol ar yr unawd piano rhwng 15 a 19 oed yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Llŷn ac Eifionydd. Fe’i derbyniwyd i’r Orsedd fel Urdd Cerdd Ofydd, Frances Dalis, yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan yn 1984.

Rhwng 1985 ac 1988, darllenodd Fran Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a graddiodd gyda B Mus (Anrh) yn 1988.  Wedyn, gwnaeth gwrs T.A.R. cynradd cyn addysgu yn y sector am 17 o flynyddoedd.  Tra’n addysgu, fe astudiodd am MA (Addysg) gyda’r Prifysgol Agored.  Flynyddoedd yn ddiweddarach, aeth yn ôl, eto i Brifysgol Bangor, i astudio am MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol.  Roedd hon yn flwyddyn lwyddiannus, a arweiniodd iddi gael cynnig ysgoloriaeth ESRC i wneud doethuriaeth ar y defnydd o iaith yng Nghaernarfon, traethawd ymchwil a ysgrifennodd yn Gymraeg.  Graddiodd gyda Doethuriaeth yn 2013.  Yn 2018, derbyniodd  Fran Dip ABRSM mewn perfformio ar y piano, dan hyfforddiant Steven Evans.  Mae Fran nawr yn gweithio’n rhan amser fel tiwtor piano a chyfeilydd Côr y Penrhyn.

Owain Arwel Davies B.Mus M.C.G.I TAR - Cyfarwyddwr Cerdd

Graddiodd Owain Arwel Davies gydag anrhydedd o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn 1999, a bu’n Bennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Tryfan, Bangor o 2005. Yn 2017 fe’i penodwyd yn Bennaeth Addysg Gynhwysol Awdurdod Addysg Gwynedd a Môn, ac ar hyn o bryd mae’n Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Glan Clwyd, a gydnabyddir fel yr Ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru.

Dechreuodd fel arweinydd y côr ym mis Mai 2004 pan yn 26ain oed.  Roedd y côr wedi lleihau yn sylweddol mewn niferoedd yn y cyfnod hwn a dim ond oddeutu 40 aelod oedd ar y gofrestr weithredol a llai na hynny’n mynychu ymarferion.  Doedd y côr ddim yn cymryd rhan mewn llawer o gyngherddau ac roedd angen newid sylweddol er mwyn sicrhau fod y côr yn goroesi.  

Roedd Arwel yn allweddol wrth broffesiynoli pwyllgor ac agwedd y côr dros y blynyddoedd cynnar, a chwistrellu hyder yn ôl yn yr aelodau.  Erbyn heddiw mae bron i 70 ar llyfrau’r côr a dros 50 yn perfformio yn gyson mewn cyngherddau.  Mae’r côr yn cynnal calendr prysur bellach gyda thua 30 ymrwymiad yn flynyddol.

Mae wedi teithio ar sawl achlysur gyda’r côr yn cynnwys :

2006 Chicago, Rio Grand a Cincinnati UDA
2015 Washington, Efrog Newydd, Poultney a Columbus
2025 Toronto ac Ottawa

Mae hefyd wedi bod yn allweddol wrth greu partneriaethau gyda mudiadau cerddorol eraill yn cynnwys taith gyfenwid i Stavanger gyda band enwog Stavanger, a hefyd wrth feithrin y berthynas agos mae’r côr wedi ei gael gyda Band y Black Dyke dros y blynyddoedd.

Mae wedi cael y fraint o gynhyrchu, a pherfformio ar nifer o recordiau, yn enwedig CD’s y côr – GWLAD 2018, Anthem 2012 a Arwelfa 2006.  Mae CD Anthem wedi gwerthu dros 8000 o gopiau.

 Fel cerddor amrywiol mae hefyd wedi perfformio a recordio gyda rhai o fandiau Roc a Phop mwyaf blaenllaw Cymru gan gynnwys Band Pres Llareggub, Anweledig a Steve Eaves. Mae hefyd wedi ennill canmoliaeth uchel am ei gynyrchiadau cerddorol yn y Theatr Gerdd, recordiadau a chynyrchiadau teledu, gan gynnwys cyfarwyddwr cerdd y cyngerdd Nadolig teledu Cymreig (S4C) ‘Carolau Llandudno’ yn cyfarwyddo, trefnu ac arwain y gerddoriaeth a’r mil o leisiau oedd hefyd yn cynnwys artistiaid fel Wynne Evans, Peter Karrie, Russell Watson a Sioned Gwen. Fe’i comisiynwyd a bu’n gyfrifol am weithio ar gynhyrchiad cerddoriaeth newydd a gafodd ei berfformio a’i gyfarwyddo ganddo’i hun yn ‘Theatr Bryn Terfel’, fel rhan o Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor, Pontio, a agorwyd yn 2015.

Yn ddiweddar gwahoddwyd Owain Arwel i ysgrifennu a threfnu’r rhannau corawl ar gyfer Albwm newydd Damon Albarn (Formerly of Blur) gyda ‘The Good the bad and the Queen’ lle’r oedd Côr y Penrhyn yn gôr gwadd, a ddilynwyd gan berfformiadau yn The London Palladium a Gŵyl Glastonbury! Mae hefyd wedi perfformio ac arwain ensembles amrywiol mewn llawer o’n Neuaddau Cyngerdd mawreddog ledled y wlad gan gynnwys Neuadd Albert, Neuadd Symffoni Birmingham, Theatr Donald Gordon a Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Fel athro cerdd, mae Owain Arwel yn adnabyddus yng Nghymru am ei rinweddau wrth feithrin ac arwain myfyrwyr ifanc dawnus, sydd wedi mynd ymlaen i fod yn gerddorion proffesiynol. Hefyd fel beirniad uchel ei barch gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. 

Yn 2025, bydd Owain Arwel yn dathlu 21 mlynedd fel cyfarwyddwr cerdd Côr y Penrhyn ac o dan ei gyfarwyddyd. Mae’r côr wedi sefydlu ei hun fel un o ensembles lleisiol mwyaf blaenllaw Cymru ac mae’n enwog am ei gyflwyniadau bywiog a chyffrous.

UNAWDWYR CYFREDOL

Raymond Colin Roberts (T1)

Cefais fy ngeni a’m magu yn Fferm Pen-y-Gaer, Penisarwaun ac yn fy mlynyddoedd cynnar mynychais Ysgol Tan y Coed, Penisarwaun, Ysgol Gynradd Llanrug, ac Ysgol Segontium Caernarfon. Ar ôl gadael yr ysgol, gwnes i brentisiaeth dan gontract 5 mlynedd fel gwneuthurwr offer manwl cywir a mynychais Goleg Technegol Bangor, gan gymhwyso ar ôl 5 mlynedd.

Ar ôl cwblhau fy mhrentisiaeth, cefais fy nghyflogi gan Ferodo Ltd ac yn fuan symudais i’r Swyddfa Ddylunio gan ddod yn y pen draw yn Brif Ddrafftiwr Dylunio iddynt.

Yn gymdeithasol, roeddwn yn un o aelodau cyntaf Côr Meibion ​​Ferodo, a alwyd yn ddiweddarach yn Gôr Meibion ​​Caernarfon. Arwyddais i glwb pêl-droed Tref Caernarfon gan chwarae i’w tîm wrth gefn. Cefais fy nghyflogi fel Diffoddwr Tân Wrth Gefn yng Ngorsaf Dân Caernarfon ac roeddwn yn un o’r diffoddwyr tân a ymladdodd dân Pont Britannia.

Yn ystod yr amser hwn, gwasanaethais fel Ynad Heddwch yng Nghaernarfon. Ar ôl blynyddoedd lawer yng nghyflogaeth Ferodo, sefydlais fy nghwmni fy hun gyda Swyddfa Ddylunio Peirianneg ym Mangor, RCR Design, ac yna symudais y cwmni i Zurich.

Ar ôl blynyddoedd lawer yn gweithio a byw mewn sawl gwlad ledled y byd, hyfforddais fel Peiriannydd Dylunio a Chomisiynu yn y Swistir gyda W&A Umwelttechnik, Zurich, ym maes llosgi gwastraff amgylcheddol ar gyfer gwastraff gwenwynig a domestig (Gwastraff i Ynni). Yn ddiweddarach, cefais gontract i Sumitomo Heavy Industry, gan fyw yn Japan a Malaysia.

Yn y 2000au dychwelais adref i Benmaenmawr i ymddeol. Agorais siop garpedi i'm mab yn Llanfairfechan, (Carpedi Drapers) a dod i adnabod pobl leol a chwsmeriaid yn dda iawn. Un diwrnod, dechreuais sgwrsio gyda'r diweddar Davy Jones (arweinydd Côr Meibion ​​Maelgwyn a phianydd medrus). Gwahoddodd ef a'i wraig, Eirlys, fi i ymarfer ychydig o ganeuon a derbyn hyfforddiant llais gyda Sian Gibson yn eu cartref. Ymhen amser, gan ddilyn eu cyngor nhw, cefais fy nerbyn yn Academi Gerdd William Mathias yn y Galeri, Caernarfon, a threuliais ddwy flynedd a hanner yn cael fy hyfforddi gan Marian Bryfdir gyda gwersi ychwanegol gyda John Daniel a'r diweddar Colin Jones yn Rhosllanerchrugog, Wrecsam. Gyda mwy o anogaeth gan Owain Arwel Davies, arweinydd presennol Côr y Penrhyn, dechreuais ganu unawdau’n rheolaidd mewn cyngherddau gyda’r côr. Y rhai mwyaf cofiadwy oedd pan ganais yn y Grand Cathedral yn Washington DC, 2015 ac yn Toronto, Canada, 2025.

John Outram (B1)

Roeddwn i’n ddisgybl yn Ysgol Friars ac yn ddiweddarach yn athro. Roedd fy mywyd yn troi o amgylch chwaraeon nes i mi fod yn 40 oed pan ymunais â Chôr y Penrhyn. Rwy’n mwynhau her cân newydd a chanu unawd. Rwy’n ceisio cyflwyno cân mewn gwahanol ieithoedd. Ond mae bod yn aelod o gôr hefyd yn golygu cyfeillgarwch â phobl o wahanol gefndiroedd.

Hywel Thomas (T1)

Mae’n fraint gennyf ddweud fy mod wedi bod yn aelod o Côr y Penrhyn ers 47 mlynedd bellach, wedi ymaelodi yn 1979 ar ol i’r Côr ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Dechreuais yn yr ail denoriaid ond ar ol tua 2-3 mlynedd nes i symud i lais tenor cyntaf (T1).

Dros y blynyddoedd ‘rwyf wedi canu a chystadlu yn llawer lle, trwy’r byd, gan gynnwys Yr Almaen, Y Ffindir, Norwy, Iwerddon, Canada a’r Unol Daliaethau, ac wrth sgwrs yn Lloegr a Chymru. 

Mae’r côr wedi teithio llefydd na fyddwn wedi meddwl mynd i ar wyliau, ar rai teithiau ‘rydym wedi aros gyda theuluoedd ac trwy hynny gweld sut oedd pobl yn byw o ddydd i ddydd, a gwneud ffrindiau newydd.

Dros y blynyddoedd ‘rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau yn y Côr ac wedi cael llawer o hwyl a spri ar ein teithiau, ond fel maent yn dweud “what happens on tour, stays on tour” !

Mae rhai o’r teithiau a’r llefydd wnaethom ymweld yn sefyll allan, yn arbennig yr un  i’r Unol Daliaethau am y tro cyntaf (1993) lle ges i’r cyfle i ymweld lle'r oedd fy nhaid yn Weinidog yn Middle Granville, New York State rhwng 1914-1918 cyn iddo symud yn nol i Gymru. Dwi wedi ymweld a Rhaeadr Niagara dwywaith, wedi cael taith rownd ffatri Mercedes-Benz yn Stuttgart ac, yn nes at adra, canu yng nghyngerdd mil o leisiau yn yr Albert Hall, Y London Palladium ac yn Gwyl Glastonbury.

Mae rhaid i mi ddweud bod ymuno gyda’r Cor yn un o’r penderfyniadau gorau wnes i erioed!

Aelodau 50 mlynedd (a throsodd)

Mae'r côr yn lwcus iawn i gael aelodau selog, a rhai o'r aelodau presennol wedi bod yn ymarfer a pherfformio gyda'r côr am hanner canrif a throsodd. Mae Gwilym Owen wedi bod yn aelod ers dros 60 mlynedd ac ef yw Llywydd presenol (2026) y côr.
Yn 2022 fe ddathlwyd y garreg filltir o aelodaeth 50 mlynedd gan 5 aelod ac fe gyfansoddwyd cerdd / englynion gan feirdd lleol; Y Prifardd Ieuan Wyn, Derfel Roberts a Dilwyn Owen, ac fe gyflwynwyd anrhegion o lechi wedi'u ysgrythu gyda cherdd, o ddewis yr aelodau penodedig.
Yn y llun gwelwch 
Defrel Roberts, Arwel Owen, Walter Williams, Dilwyn Owen, Dafydd Evans, Gwyn Burgess, Elfed Bullock, Ieuan Wyn

Dyma'r cerddi:

Hanner canrif fu’n llifo – fel y gân,
Dyfal gamp perfformio;
Braint yr hirfaith gydweithio
A braint cynrychioli bro.
Ieuan Wyn

Er mwyn y gân fe roddaist,
Y cyfan a gefaist yn grwn,
Cerddi i’r bobol a genaist,
O’th ddoe hyd y dwthwn hwn.

Wrth ddathlu hanner cant o flynyddoedd,
Fel un o’r niferoedd a fu,
Yn sefyll yn enw Côr Penrhyn
A’r iasau a roddwyd i lu.
Codwn floedd fydd yn esgyn i’r nenfwd,
A chanwn dy glodydd yn llon,
Cyn dyblu’r hoff gytgan yn swynol
I aros am ganrif gron.

Derfel Roberts

Mor ddiddan yw cydganu---a mwynhau
Mynnu hwyl a dysgu;
 gwên daw rhain i ganu
Yn ffyddlon, llon gyda'r llu.

Dilwyn Owen

Bron yn flynddol ers hynny mae aelodau eraill yn dathlu aelodaeth 50 mlynedd, gan gynnwys:

Dafydd Pritchard
Idwal Jones
Brian Pritchard
Tom Owen Williams

Atgofion gan Gwilym Owen (B2)

Gwilym Owen (B2) aelod ers 66 o flynyddoedd (yn 2026)

Ymunais a’r côr yn 1960 gan fod dau o’m ffrindiau yn aelodau yn barod ac yn mwynhau.

Fy eisteddfod gyntaf oedd Rhosllanerchrugog yn 1961, gyda phractis yn y “stiwt” yn Rhos cyn cystadlu. Cofiaf inni gael bwyd wedi ei drefnu yn y Rhyl ac yna, wedi bwyta, aeth un bws yn syth adref (bws pobl capel a alwyd gennym!) ac un bws ar ôl i gael bywyd nos Rhyl.

Un o’r cyngerddau cyntaf i mi oedd yn Nhalybont, Harlech gyda Richard (Richie) Thomas (1906-1988), Penmachno, y tenor enwog a enillodd yr unawd Tenor yn Eisteddfod Ryngwladol llangollen yn 1951.

Y llais cyntaf i mi yn y côr, wedi cael prawf gan yr arweinydd Ffrancon Thomas, oedd Bas 1af.

Os cofiaf yn iawn, Mr Rolent Hughes, Braich Talog oedd y Cadeirydd a Mr Williams Roberts, Adwy’r Nant yn Ysgrifennydd, ac ef oedd yn casglu 6 cheiniog (2 ½ c) gan bob aelod ym mhob practis at y costau.

Yr adeg yma oedd “repertoire” y côr yn llawer gwahanol, caneuon fel a ganlyn yn boblogaidd:
Crossing the Plain (Croesi’r Anial)
Martyrs of the Arena (Laurent de Rillé)
Pilgrims Song of Hope (Msgr. Pierangelo Sequeri / Francesco Meneghello)
Salm23 (Crimond)
Llanfair (Robert Williams)
O Vos Omnes
Seren Bethlehem (Owen Jones), ymysg eraill.

‘Roedd rhyw 40 yn y côr, ond cofiaf y niferoedd yn mynd i lawr i 23 ar un adeg. Yn 1965 fe ymunodd Mrs Menai Williams â'r côr fel ein arweinydd, ac yn raddol fe gododd y niferoedd.

Cymerwyd rhan yn y rhaglen radio “Heart and Voice” am sawl blwyddyn o tua 1962, gan recordio’r rhaglen yn Neuadd y Penrhyn, Bangor, gyda James Williams yn arwain.

Ni chafwyd llawer iawn o gyngherddau, ond, cofiaf gyngerdd yn “Hotpoint’, Cyffordd Llandudno gyda David Lloyd (1912-1968), tenor enwog arall. Hefyd cystadlu cyson yn Eisteddfodau Môn, Llanrwst a “Butlins”, Pwllheli.

Un o uchafbwyntiau oedd cael  mynd i’r Almaen am y tro cyntaf ac aros gyda teuluoedd Band Pres Notzingen gyda Roland Wyn Jones yn arwain a James Griffith yn cyfeilio. I amryw, hwn oedd y tro cyntaf iddynt fynd dramor ac yn brofiad hollol ddieithr.

Ers hynny ‘rydym wedi bod yn yr UDA, Canada, Y Ffindir ac yn ôl i’r Almaen. Hefyd wedi canu ar draws Cymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban.

‘Rwyf yn teimlo yn freintiedig iawn o fod yn aelod o’r côr, a’r anrhydedd o fod wedi fy ethol yn Llywydd, gan gofio am yr holl brofiadau a gefais drwy'r blynyddoedd.

 

Asesiad o waith aelodau'r Cor:
 

  • Aelodau y Frigad Dân
  • Athrawon
  • Chwarelwyr
  • Darlithwyr a staff Colegau Addysg Uwch a Prifysgol
  • Ffermwyr
  • Fferyllwyr
  • Gweithwyr yn y Cyfryngau
  • Gweithwyr Telegyfathrebu
  • Heddweision
  • Meddygon Teulu
  • Peiriannwyr
  • Swyddogion Llywodraeth Leol
  • Staff Ambiwlans
  • Ymgynghorwyr  Ysirwrant
 

XD40.26.10
Trwy ganiatâd ceredig Archifdy Gwynedd


Atgofion am deithiau gan Tom Owen Williams a Dafydd Morris Jones:

“Tom Owen Williams, yn aelod o Gôr y Penrhyn, adran yr ail denoriaid ers dros 50 mlynedd bellach-yn ymuno yn hogyn bach diniwed pan yn 16!

Mae’r côr wedi bod yn rhan mawr o’n mywyd. Rydwyf wedi mwynhau bob munud a’r profiad a’r anrhydedd o gynrychioli’r côr, a phentref Bethesda ar hyd a lled y byd.
Wedi cael y siawns i drafeilio i nifer o wahanol wledydd-yn cynnwys Yr Almaen, America, Ffindir Norwy, Iwerddon Hwngari, Canada a llawer o lefydd ym Mhrydain hefyd.

Mae nifer o straeon i ddweud ynglŷn â’r teithiau yno. Rhai difyr a hwyliog-a rhai na ellir eu datgelu yma-neu fydd nifer o’r hogiau mewn trwbl adref (heb enwi neb!). Dim byd erchyll.
Straeon fel rhai o’r hogiau “golledig” a dim ar y bysiau. Henryd Jones (Tenor 1af) oedd yn gyfrifol o gyfri i wneud yn saff fod pawb yn bresennol. Gadael rhai ar ôl yn ystod trip i Dde Cymru ac hyd yn oed America!! Cofiwch fod Henryd yn athro mathemateg ar y pryd!

Stori arall a ddaw i’r côf ddigwyddodd yn ystod yr ymweliad a Chanada ym mis Mehefin 1983. (Nodwyd fod yno eto ar ôl 42 o flynyddoedd-lle mae’r amser yn mynd?)

‘Mond yr hogiau oedd yn mynd yno, dim gwragedd ac yn aros gyda theuluoedd. Y croeso fel arfer yn wych. Roedd y teluoedd wedi dweud y buasem ni fel gwesteion yn cael ffonio adra o’u cartrefi i ni gael gadael i bawb wybod ein bod yn saff a bob dim yn iawn. Un galwad am ddim a chroeso i ni wneud mwy, ond gorfod talu wrth gwrs.

Y diwrnod wedyn bu llawer o’r hogiau gyfarfod yn y Zanzibar- bar reit enwog yn Nhoronto. Heb ddatgelu llawer-roedd y genod yn gweini’r byrddau yn gwisgo llai o lawer o ddillad na merched barchus tai tafarnau Cymru fach. Llawer erioed wedi gweld ffasiwn beth (neu ddim yn datgelu hyn de!). Nes i ddim edrych wir, Karen, (y wraig)-dim eisiau edrych gormod rhag ofn i mi fynd yn ddall-mond edrych efo un lygaid nes i!

Pawb yn holi ei gilydd am eu galwadau ffôn adra, un o’r hogiau’n ddistaw yn dweud ei fod am ddisgwyl tan nos Iau oherwydd bod pawb o’r teulu yn y ty yn cael bwyd ar y noson honno.  Y diweddar Alwyn Parry oedd hwn-un o’r “cymeriadau” mwyaf i mi gwrdd-digon o hwyl a chwerthin pan oedd Parry o gwmpas. “Caf siarad efo pawb am hir heb dalu” meddai Parry-un craff a call oedd yr hen Al.

Bore Gwener cyfarfod wedyn yn y Zanzibar (mae’n rhaid bod y cwrw’n rhad yn wir) a phawb ond Al mewn hwyliau da. Hwnnw’n lloerig, neb yn deall pam a gofyn iddo be oedd yn bod. Yn ei wyllt dyma’n egluro ei fod wedi cael ffonio adref noson cynt. Pwy atebodd ond ei fam-yng-nghyfraith. Dweud “helo, Alwyn sy ‘ma”. Honno’n ateb a dweud “sori di Alwyn ddim yma, mae o wedi mynd efo’r côr i Ganada”,a dyma hi’n rhoi’r ffôn i lawr. Roedd Al yn lloerig bost creadur. 

Stori am ymweliad cyntaf a Chicago yn America yn Awst 1993. Roedd ymweld a chanu yn y ddinas anfarwol yma’n fythgofiadwy. Clywsom bod Elizabeth Taylor yn y ‘Chicago Hilton’ y gwesty drws nesaf i ni. Roedd ceir mawreddog yn mynd a dod yn aml a dyma rhai ohonom yn penderfynnu mynd i’w gweld a busnesu. Roedd yr enwog John Ogwen gyda ni ar y daith, fel un o is-lywyddion y côr ac i arwain cyngherddau. Fysa John yn cael mynd i mewn  os fysa ni’n cael ei gweld? O na! Fi oedd rhaid mynd i holi. Tu ôl i’r ddesg roedd dyn anferth. Dyma fi’n dweud yn ddiniwed bod ffrind i mi yn aros yno, sef ‘Elizabeth Taylor’. Gofyn nath o pwy oedd yn holi-‘Twm’ medda fi.

‘Yeah, she’s talked a lot about you Tym’ medda ynta. Ches i ddim mynd pellach-ond roedd Irish Bar yn y gwesty felly fanno y buom ni-colled Liz oedd o.

Ar y ffordd i ganu yn yr Alban-cafodd y côr aros a chael ‘noson arall’ yn Blackpool. Peint neu ddau amdani felly. Derek TV ac Alwyn Parry’n sefyll yn y bar a Derek yn sylwi fod na ‘porc peis’ neis i weld o dan lestr gwydr ar y bar. Derek yn helpu ei hun i un ond sylweddoli fod y ‘barman’ yn dod yn ôl o’r selar.
Parry yn gofyn i Derek, lle gafodd o’r bei, Derek yn dweud ei fod wedi ei phrynu ond yn llawn o buasai Parry’n ei chael. Roedd Alwyn yn hoff iawn o’i fwyd ac yn methu maddau, a chymerodd y bei heb oedi dim. 
Y barman yn gofyn ‘where did you get that pie sonny? Parry’n troi’n ddinewed at Derek ond roedd hwnnw wedi diflannu’n reit handi wrth gwrs. You’ll have to pay for that sonny! Lle roedd Derek? -rownd gornel i’r bar yn lladd ei hun yn chwerthin wrth gwrs.
‘Sonny’ oedd pawb yn galw Alwyn am weddill y trip!

 

Canada 2025

Diwedd mis Awst 2025, ymwelodd y Côr â Chanada eto. Isod mae adroddiad gan Dafydd Jones-Morris, ail fas, am y daith:

“Gellir gweld cysylltiadau Cymreig ledled y byd. O bryd i’w gilydd, mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni fel côr dderbyn gwahoddiad i ddathlu’r cysylltiad. A dyna ddigwyddodd i ni eleni fel côr pan deithiasom i Ganada (Ottawa) ar wahoddiad Cymdeithas Gymreig Gogledd America. Maent yn trefnu cyfarfod blynyddol sy’n denu Gogledd Americanwyr sydd â diddordeb yng Nghymru neu sydd â chysylltiad teuluol â’u mamwlad. Dyma’r trydydd tro i ni gymryd rhan yn yr ŵyl. Mynychon ni Cincinnati yn 2006 a Columbus yn 2015.

Gan mai dim ond dros gyfnod o bedwar diwrnod y mae’r ŵyl, trefnodd y côr amser ychwanegol trwy ymweld â Toronto (prifddinas Ontario) ychydig ddyddiau cyn i ni orfod bod yn Ottawa. Manteisiwyd ar y cyfle i gysylltu â Chymdeithas Gymreig Toronto ac i wneud ymholiadau ynghylch canu mewn lleoliadau eraill.

Fel rhan o’r trefniadau, gofynnwyd i’r awdurdodau a allem ganu fel côr y tu allan i fwyty ‘Table Rock’ ger Rhaeadr Niagara. A dyna ddigwyddodd. Ar ôl dau ddiwrnod o ymlacio a dod i adnabod rhannau o Toronto, cawsom ni’r pleser o deithio i Raeadr Niagara a gweld popeth. Aeth rhai am drip ar gwch i fynd yn agos at Raeadr y Bedol a mynd i lawr mewn twnnel i weld llif y dŵr wrth ochr a thu ôl i’r rhaeadr.

Yn ddiweddarach yn y dydd, aeth rhai i weld rhan o’r hen orsaf bŵer a cherdded trwy dwnnel i gyrraedd lleoliad wrth ymyl y rhaeadr – golygfa ysblennydd i ddweud y lleiaf. Uchafbwynt y diwrnod oedd y cyfle i ganu o flaen ‘Table Rock’ gyda’r rhaeadr y tu ôl. Cawsom ni’r cyfle i ganu am tua hanner awr a chael cynulleidfa groesawgar a gwerthfawrogol.

Mae Toronto yn ddinas brysur sydd wedi datblygu dros yr hanner can mlynedd diwethaf, ac sydd bellach yr un faint â Chicago. Mae yna sawl atyniad i'w gweld, rhy niferus i'w crybwyll, ond digon i fodloni unrhyw un. Yr uchafbwynt i mi oedd cael yr amser i gerdded a mwynhau'r atyniadau ar yr ynysoedd gyferbyn â'r harbwr. Mae'r daith fferi yn cymryd tua phymtheg munud. Gerddi glân a threfnus gyda golygfeydd gwych o nendyrau Toronto. Atyniad arall oedd Tŵr CN. Adeiladwyd hwn gan gwmni trafnidiaeth o Ganada, 'Canadian National' rhwng 1973 a 1976. Uchder 553m. Bwyty ar 351m. Llawr gwydr 342m.

Cawsom gyngerdd yn 'Eglwys Goffa Timothy Eaton' gyda Chymdeithas Gymreig Toronto. Adeiladwyd yr eglwys ym 1915. Roedd y trefnwyr yn rhan o'r capel Cymraeg olaf yng Nghanada a gaeodd dair blynedd yn ôl. Erbyn hyn, maent yn rhan o gynulleidfa'r eglwys, ac maent yn dal i gynnal gwasanaethau yn y Gymraeg yno. Fe'i hadeiladwyd fel cofeb i Timothy Eaton, gan ddechrau gyda rhodd o'r tir ac yna cyllid gan ei wraig, Margaret Wilson Eaton, a'i fab, John Craig Eaton. Timothy Eaton oedd sylfaenydd y gadwyn fanwerthu ‘Eatons’. Cyngerdd gwych gyda chynulleidfa werthfawrogol a chynnes. Mae ein diolch yn fawr i'r trefnwyr a gwnaed elw sylweddol er budd yr eglwys.

Ymlaen wedyn i Ottawa, lleoliad llywodraeth Canada. Dinas lai na Toronto a heb fod mor brysur. Dinas hardd a chyfeillgar gyda sawl adeilad hanesyddol. Cawsom ddigon o amser i archwilio'r ddinas a manteisio ar y cyfle i gael taith dywysedig o gwmpas y senedd-dy ac i fynd am dro gwych ar hyd yr afon. Talaith Québec ar y naill ochr ac Ontario ar y llall. Lle diddorol arall oedd amgueddfa hanes Canada lle'r oedd pwyslais cryf ar dreftadaeth genedlaethol a'r bobl frodorol a oedd wedi byw yno. Dyma oedd lleoliad digwyddiadau NAFOW, h.y. Gŵyl Gogledd America Cymru.

Cynhaliwyd sawl digwyddiad yn ystod yr ŵyl gan gynnwys noson lawen, eisteddfod, gwersi telyn, datganiadau barddoniaeth ac ati. Roedd Rhys Meirion yno i hyrwyddo digwyddiad y mae'n ei drefnu ar gyfer taith i Batagonia y flwyddyn nesaf. Ynghyd â ni, cymerodd ran yn y gymanfa ganu a gynhaliwyd ar ddiwedd yr ŵyl. Roedd Llywodraeth Cymru wedi noddi'r ŵyl a gellid gweld sawl baner ar hyd Stryd Spark ger y gwesty a oedd yn ganolfan i'r ŵyl.

Stryd Spark oedd lleoliad yr hyn a elwid yn 'WelshFest' ar y dydd Iau. Cyngerdd awyr agored am ddim yn arddangos yr hyn a oedd ar gael drwy gydol yr ŵyl. Yr artistiaid a gymerodd ran oedd Band Pres Llareggub, Pedair (Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym, Sian James) a Chymry'r West End. Yn anffodus, er bod y tywydd hyd at hynny wedi bod yn braf a chynnes, cawsom law trwm, a bu'n rhaid i'r gynulleidfa wneud eu gorau i gysgodi. Yna cafwyd noson o gomedi gyda Tudur Owen. Roedd yr ystafell lle cynhaliwyd y digwyddiad yn llawn dop a chawsom noson ddifyr iawn. Y noson ganlynol, diddanodd grŵp bach o aelodau’r côr fynychwyr yr ŵyl. Noson hwyliog a diddorol.

Nos Sadwrn cynhaliwyd y prif gyngerdd lle diddanodd y côr y gynulleidfa yng nghwmni Meinir Wyn Roberts fel y prif unawdydd a Gwyn Owen yn cyfeilio i rai o ganeuon y côr ar yr utgorn. Roedd cymaint o alw am docynnau nes i’r ŵyl benderfynu defnyddio’r lle ar gyfer y côr (y gangell) i wneud lle i bawb. Noson lwyddiannus iawn, ac un a fydd yn aros yn y cof am amser hir.

Cawsom amser da ar y daith, ac rydym yn ddiolchgar i’r trefnwyr a wnaeth yr ymchwil a’r paratoadau mor drylwyr. Dim ond crynodeb byr o’r daith sydd yma, roedd cymaint o bethau’n digwydd bob dydd, mwy na digon i blesio unrhyw un.