HANES CÔR Y PENRHYN
Mae gwreiddiau Côr y Penrhyn ym mhentref chwarelyddol Bethesda, a gall y côr olrhain ei wreiddiau yn ôl i'r 1880au pan ffurfiwyd côr unedig gan nifer o grwpiau llai oedd yn bodoli ar y gwahanol bonciau neu lefel yn Chwarel y Penrhyn. Yn wir, teithiodd y côr i Chicago ar gyfer Ffair Fasnach y Byd yn 1893 o dan yr enw Côr Meibion ​​y Penrhyn.

Mae'r côr yn ffodus iawn i gael Cyfarwyddwr Cerdd talentog iawn, Owain Arwel Davies, cyfeilydd medrus, Frances Davies, ac Arweinydd Cynorthwyol ifanc, talentog a brwdfrydig, Caleb Rhys Jones.

 Ar ddiwedd 2018 fe ruddhawyd CD newydd gan y côr, sef “Gwlad”, sydd nawr ar werth yn ein siop , cliciwch YMA, a trwy gwefannau ffrydio, sydd yn cynnwys dau ddarn a recordiwyd gyda band pres Black Dyke, yn ogystal a cherddorion lleol.

 Yn 2018/19 bu’r côr yn gweithio ac yn recordio gyda band byd enwog The Good, The Bad and the Queen, eu prif leisydd yw Damon Albarn a chafwyd y pleser o ganu yng ngwyl Glastonbury, Palladium Llundain, Somerset House ac ar pier y Gogledd, Blackpool.

 Yn ddiweddar mae’r côr wedi bod yn recordio darnau i’r cyfansoddwr byd enwog Bear McCready, bydd y darnau a recordiwyd yn cael eu defnyddio mewn gêm cyfrifiadurol newydd.

 Bydd y côr yn cael nifer o gyngerddau yn ystod y flwyddyn, gan ddiddanu cynulleidfaon mewn amrywiaeth o leoliadau yng Nghymru a thu hwnt. Byddent yn perfformio mewn nifer o gyngerddau yng Nghadeirlan Bangor, ac yn flaenllaw mewn casglu arian i nifer o wahannol elusennau yn cynnwys yn flynyddol i Hosbis Dewi Sant.

 Yn 2025 mae’r côr yn perfformio yn y “North America Festival of Wales” sydd yn cael ei gynnal yn Ottawa, Canada. Yn ystod y daith bydd y côr hefyd yn perfformio yn Toronto.
 
Fe gyhoeddwyd llyfr o hanes y côr yn 1984 dan y teitl “Côr Meibion y Penrhyn - Ddoe a Heddiw”, yr awdur oedd Elfed Jones, gallwch ddarfllen y llyfr drwy glicio YMA
Arweinydd: Owain Arwel Davies
Cafodd Arwel ei fagwriaeth ym Mae Penrhyn ger Llandudno, a thra’n ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn roedd yn aelod o Gôr Maelgwn. Fe raddiodd o Ysgol Gerdd Prifysgol Cymru, Bangor gydag anrhydedd yn 1999, cyn gwneud cwrs ymarfer dysgu, a derbyn swydd fel Pennaeth Cerdd Ysgol y Moelwyn yn y flwyddyn 2000. Mae erbyn hyn yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Glan Clwyd. Fe’i penodwyd yn Arweinydd Côr Meibion y Penrhyn yng ngwanwyn 2004. Cafodd yr anrhydedd o gynhyrchu, a perfformio ar nifer o recordiau, yn enwedig CD diwddaraf y côr - Gwlad. Mae wedi derbyn clod am ei waith fel cynhyrchydd sioeau cerdd mewn theatrau, recordiau a theledu.
Cyfeilyddes: Frances Davies
Magwyd Fran yn Nihewyd, Ceredigion. Graddiodd o Brifysgol Bangor yn 1988 â B.Mus (Hons). Yn dilyn hyn, bu’n athrawes gynradd am 17 mlynedd, pan yr astudiodd am MA (Addysg). Fel myfyriwr hŷn, darllenodd Ieithyddiaeth, eto ym Mhrifysgol Bangor. Arweiniodd hyn iddi dderbyn ysgoloriaeth ESRC i astudio am PhD ar y defnydd o iaith yng Nhaernarfon. Graddiodd â doethuriaeth yn 2013. Yn fwy diweddar, derbyniodd Dip ABRSM (2018) am chwarae’r piano ac ar hyn o bryd,mae’n gweithio’n rhan amser fel tiwtor piano.