“Canu'r Nefoedd” gan Caleb Rhys Jones

‘Canu’r Nefoedd’

Astudiaeth o agweddau ar darddiad canu corawl capeli ardal Bethesda, Arfon yn y 19eg Ganrif.

Caleb Rhys Jones

WXC 3277

Cyflwynir er mwyn cyflawni’n rhannol ofynion gradd Baglor yn y Celfyddydau (Cerddoriaeth)

Prifysgol Bangor 20fed Ebrill 2018

CYNNWYS

  • Rhagymadrodd                                     (i)
  • Diolchiadau                                           (ii)
  • Rhestr Ddarluniau                              (iii)
  • Nodyn ar Ffynonellau Gwreiddiol (iv-v)
  • Nodyn ar Bersonau                             (vi)

Rhagymadrodd.
Diolchiadau.
Rhestr Ddarluniau.
Nodyn ar Ffynonellau Gwreiddiol. Nodyn ar Bersonau.

Pennod Ragarweiniol. 1 - 3
Pennod 1: Cae Aseth a’r Carneddi – y cychwyn. 6 - 19
Pennod 2: Capel Jerusalem. 21 - 33
Pennod 3: ‘Alawydd’ a’i gôr, ac Undeb Corawl Bethesda.  35 - 56
Pennod 4: Pennod Glo. 58 - 59

Atodiadau. 
Llyfryddiaeth.

   



    RHAGYMADRODD

Astudiaeth o agweddau ar darddiad canu corawl capeli Bethesda, Arfon yn ystod y 19eg Ganrif a geir yn y gwaith hwn. Adnabyddir digwyddiadau a gweithgareddau uniongyrchol, yn ogystal ag ymdriniaeth o repertoire y corau a chyfraniadau unigolion penodol at y maes.

Wrth fynd ati i ymchwilio i’r maes sylweddolais nad oedd llawer o sylwedd wedi’i lunio ar ganu corawl yr ardal, yn enwedig ar gorau llewyrchus capeli’r 19eg Ganrif. Mae’n sicr fod hyn, ynghyd â’m diddordeb a gweithgaredd yn y maes, wedi fy ysbrydoli i ddarganfod gwreiddiau’r traddodiad yn ardal Bethesda - fy ardal i.

Y mae’r bennod gyntaf yn seiliedig ar gapel Methodistaidd Calfinaidd y Carneddi, ac ar sylfaen addysg gerddorol yr ardal. Rhoddir sylw penodol i Robert Williams, Cae Aseth, a adnabyddir fel tad cerddoriaeth yr ardal.

Yn yr ail bennod trafodir y côr a fu’n weithredol yng nghapel Methodistaidd Calfinaidd Jerusalem. Caiff sylw ei roi i unigolion penodol a fu’n gyfrifol am y côr yn Jerusalem, ac am y drefn a fabwysiadwyd er mwyn dysgu cyfanweithiau cerddorol.

Ymdrinnir ag ‘Alawydd’ â’i gôr yng Nghapel Cynulleidfaol Bethesda yn y drydedd bennod. Rhoddir sylw yn ogystal i Undeb Corawl Bethesda, mudiad y bu ‘Alawydd’ yn rhan flaenllaw ac allweddol ohoni.

i. DIOLCHIADAU

Hoffwn ddiolch o galon i’r canlynol am eu cariad, cefnogaeth, arweiniad a chymorth yn ystod fy ymchwil i gorau capeli ardal Bethesda.

Taid.
Fy nheulu.
Fy ffrindiau.
Mr Stephen Rees, Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Mr Wyn Thomas, Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Mrs Brenda Wyn Jones, Cae Derwen, Pen y Bronnydd, Tregarth. Mrs Morfudd Wyn Roberts, Llwyn Meurig, Rhos y Nant, Bethesda. Mr Gwyn Burgess, Bethesda.
Mr a Mrs Walter Williams, Erw Las, Bethesda.
Parchedig Ddr Huw John Hughes, Murmur Môr, Porthaethwy.
Dr John Ll. Williams, Bethesda.
Parchedig John Gwilym Jones, Peniel, Caerfyrddin.
Dr J. Elwyn Hughes, Bryn Ogwen, Bethel.
Dr Maredudd ap Huw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Staff yr Adran Gerddoriaeth, Prifysgol Bangor.
Staff Llyfrgell ac Archifdy Prifysgol Bangor.
Staff Archifdy Gwynedd, Caernarfon.
Hogiau Côr y Penrhyn, Bethesda.

ii RHESTR DDARLUNIAU

1. Capel y Carneddi, Bethesda (M. C.). Llun personol.

2. Capel Jerusalem, Bethesda (M. C.). Llun personol.

3. Cynllun seddau presennol yng Nghapel Jerusalem, Bethesda (M. C.). Llun personol.

4. David Roberts, ‘Alawydd’. (W. J. Parry, Cyfrol Jiwbili Eglwys Bethesda, Arfon (Dolgellau: W. Hughes a’i Fab, 1910), d.t.

5. Griffith Rowlands, ‘Asaph’. (W. J. Parry, Cyfrol Jiwbili Eglwys Bethesda, Arfon (Dolgellau: W. Hughes a’i Fab, 1910), d.t.

6. Capel Cynulleidfaol Bethesda (Annibynwyr). Llun personol.
7. Tudalen gynnwys Rhan 3 Gramadeg Cerddoriaeth. David Roberts, Gramadeg

Cerddoriaeth (Gwrecsam, R. Hughes a’i Fab, 1862), d.t.

8. Braslun o berfformiad y Church Choral Society yng Nghastell Penrhyn, Hydref 1859. Llun personol. Ffynhonnell Anhysbys.

iii NODYN AR FFYNONELLAU GWREIDDIOL

‘Hanes yr Achos yn y Carneddi o’i ddechreuad hyd yn bresennol (1816-1909)’

Cafwyd hyd i’r llawysgrif wreiddiol ar hanes Capel y Carneddi yn dilyn cyfeiriad at y gwaith yn y llyfr O’r Niwl a’r Anialwch gan Emlyn Evans. Daeth y llawysgrif i law trwy garedigrwydd Mrs Morfudd Wyn Roberts, merch y diweddar Emlyn Evans. Mae’r llawysgrif yn trafod hanes Capel y Carneddi ers ei agoriad yn 1816, hyd at y flwyddyn 1909. Ceir hanes pob agwedd ar fywyd y capel, gan gynnwys rhai cyfeiriadau at gerddoriaeth a chaniadaeth. Wrth ymchwilio i’r maes daethpwyd ar draws rhaglenni eisteddfodau’r Carneddi, gan gynnwys Eisteddfod Goronog 1910. Yn rhestr testunau’r eisteddfod hwn ymddangosa’r isadran ‘Traethodau’, ac mae eitem rhif 7 yn nodi fel a ganlyn:

7. “Hanes yr achos yn y Carneddi o’i ddechreuad hyd yn bresennol.” Gwobr £2 2s. (Rhoddedig gan Mr. O. Cadwaladr Roberts, Seacombe).

Ymddengys i’r llawysgrif hwn gael ei chyflwyno yn y gystadleuaeth hon. Arwyddwyd y ffug enw ‘Cofnodydd’ ar ddiwedd y llawysgrif, ond ni cheir unrhyw gyfeiriad at enw bedydd. Ceir yr ysgrifen ‘No I’ mewn llawysgrifen gwahanol liw ar ddiwedd y gwaith, a allai fod yn awgrym o fuddugoliaeth yr awdur/awdures a’i waith/gwaith yn y gystadleuaeth.

‘Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am y 50ml Cyntaf’

Daeth y llawysgrif yma i law trwy garedigrwydd Mr Walter Williams. Nid dyma’r llawysgrif yn ei ffurf wreiddiol, ond yn hytrach, llungopi o’r gwaith. Fel yn y llawysgrif ar y Carneddi, ceir yma hanes pob agwedd ar fywyd Capel Jerusalem. Sonnir am adeiladu ac agoriad y Capel, am ei swyddogion, y plant, y cyfrifon ac am gerddoriaeth a chaniadaeth y lle. Mae’r

 

page6image46052352

 

iv

llawysgrif yn cynnwys deunydd trylwyr ar gerddoriaeth a chaniadaeth, ac yn rhestru nifer o anthemau a genid gan y côr. Yn ogystal caiff dosbarthiadau hen nodiant a sol-ffa y Capel eu crybwyll yma. Nid oes unrhyw enw yn cael ei roi fel awdur y gwaith hwn. Fodd bynnag, o edrych ar gatalog Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae’n ymddangos fod copi gwreiddiol y llawysgrif hon yn cael ei chadw yn y Llyfrgell. Gellir tybio felly mai awdur gwreiddiol y gwaith, sy’n cael ei grybwyll yng nghatalog y Llyfrgell, yw Thomas G. Williams (Byrddau).

Dylid ychwanegu yma fod cynnwys y llawysgrifau wedi cael eu dyfynnu’n union fel maent yn ymddangos yn y testun gwreiddiol.

v NODYN AR BERSONAU

Fe sylwch fod enwau nifer o unigolion yn cael eu crybwyll yn yr ymchwil hwn. Nid oedd hi’n addas nac ychwaith yn ymarferol cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ar gyfer pob unigolyn mewn troednodyn, ac felly mae’r troednodiadau wedi cael eu neilltuo ar gyfer yr unigolion sydd bwysicaf.

vi

I’m teulu

PENNOD RAGARWEINIOL

Fe wyddys bellach am hanes Cymru fel ‘gwlad y gân’, a’r datblygiadau fu i faes canu corawl y genedl yn ystod y 18fed a 19eg Ganrif. Roedd Anghydffurfiaeth yn ganolog i’r holl ddatblygiadau hyn, ac mae’n amhosibl gorbwysleisio pwysigrwydd y capeli ar ddatblygiad canu corawl crefyddol yn ogystal â chanu corawl seciwlar. Y capeli oedd hefyd yn gyfrifol am ddyrchafu addysg gerddorol y genedl. Bu’r addysg hwn yn allweddol i Gymru ennill ei chydnabyddiaeth ryngwladol fel ‘gwlad y gân’. Yng ngeiriau David Jenkins:

No musician can get a footing in Wales unless he is a religious man, in sympathy with religious work.1

Roedd yna, wrth gwrs, ffactorau eraill a fu’n gyfrifol am ddyrchafu safon cerddoriaeth gorawl Gymreig. Gwelwyd llu o ddatblygiadau i’r hyfforddiant cerddorol a oedd ar gael yng Nghymru yn ystod y 19eg Ganrif. Roedd ymddangosiad gwerslyfrau a gramadegau cerddorol newydd yn yr iaith Gymraeg, fel gwaith John Mills (Llanidloes), yn dyngedfennol i godi statws addysg gerddorol. Bu’r mudiad Tonic Sol-ffa yn gyfrifol am roi llwyfan i godi poblogrwydd canu corawl y genedl, a rhoi sylfaen gadarn i’r traddodiad corawl. Llwyfan arall a ddatblygwyd ar gyfer cerddorion y genedl oedd yr Eisteddfod. Rhoes y symudiad canu cynulleidfaol o dan symbyliad John Roberts ‘Ieuan Gwyllt’ fathau gwahanol o ganu ar gyfer y genedl. Nid oes amheuaeth i’r datblygiad pwysig hwn hybu a pherswadio mwy a mwy o Gymry i ddod yn rhan o weithgaredd corawl y genedl.

Cyfeiriwyd eisoes at Lanidloes a fu, ynghyd â Merthyr Tydfil ac Aberystwyth, yn rhai o brif ganolfannau cerddorol Cymru yn ystod y 19eg Ganrif. Cydnabyddid un ardal arall

1 John Graham, A Century of Welsh Music (London: E.P. Dutton & co, 1923), t.23. 2

 

page10image45621168

 

hefyd am safon ei cherddoriaeth yn ystod y cyfnod hwn - sef ardal fynyddig Bethesda yn Arfon. Dywedai R. D. Griffith yn ei gyfrol ar Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru:

...daeth Bethesda ym mlynyddoedd canol y ganrif ddiwethaf yn un o’r canolfannau cerddorol mwyaf pwysig yng Nghymru.2

Ym Methesda y treuliodd David Roberts ‘Alawydd’,3 awdur y Gramadeg Cerddorol y rhan helaethaf o’i oes. Adnabyddir Eisteddfodau ‘clodus’4 yr 1850au ym Methesda fel rhai o’r eisteddfodau mwyaf campus, erioed. Bu’r eisteddfodau hyn yn gyfrifol am ddyrchafu rhai o gerddorion mwyaf adnabyddus y cyfnod, fel John Ambrose Lloyd,5 ‘Alawydd’ ac Owen Davies ‘Eos Llechid’.6 Roedd y cerddor a’r cyfansoddwr Edward Stephen ‘Tanymarian’,7 yn un o brif arloeswyr canu cynulleidfaol Cymru, yn enedigol o blwyf Llanllechid. Fel ‘Alawydd’, treuliodd yntau gyfnod helaeth o’i fywyd yn byw yn yr ardal.

Gwelwyd hefyd ddatblygiadau i ganu cynulleidfaol yn yr ardal. Sefydlwyd ysgolion Hen Nodiant a Sol-ffa yn y capeli, gyda’r gobaith o godi safon cerddoriaeth a chanu cynulleidfaol yr ardal. Awgryma’r dyfyniad canlynol i’r gobaith hwnnw gael ei wireddu:

Ar ddechrau hanner olaf y ganrif diwethaf, di-raen a di- drefn oedd canu cynulleidfaoedd Cymru, ac eithrio mewn ychydig o leoedd fel Merthyr, Llanidloes, Aberystwyth a Bethesda.8

Er pwysigrwydd neilltuol yr holl elfennau hyn yn dyrchafu statws cerddoriaeth o fewn ardal Bethesda, roedd un sefydliad penodol uwchlaw'r cyfan oll - sef dylanwad

2 R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru, (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), t.58. 3 David Roberts, ‘Alawydd’. 1820-1872.
4 Emlyn Evans, ‘Cerddoriaeth Gymreig yn y Ganrif Ddiweddaf’, Y Cerddor (Ebrill 1af 1901), 35.
5 John Ambrose Lloyd. 1815-1874.

6 Owen Davies, ‘Eos Llechid’. 1828-1898.
7 Edward Stephen Jones, ‘Tanymarian’. 1822-1885.
8 R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru, (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948) t.79.

 

page11image45674896

 

3

Anghydffurfiaeth Gymreig. Bu Anghydffurfiaeth yn galon i ardal chwarelyddol Bethesda, ac yn gyfrwng i fywyd cymdeithasol ac addysgiadol y gymdeithas gyfan. Prin iawn iawn oedd manteision addysg yr ardal ar ddiwedd y 18fed Ganrif hyd at ugeiniau’r 19eg Ganrif o leiaf. Nid oedd unrhyw ysgol yn bod yn ystod y cyfnod cynnar hwn, a rhaid felly oedd troi at y capeli er mwyn derbyn addysg a hyfforddiant.

Prif ffynhonnell gynhaliol yr ardal oedd cloddfeydd Chwarel y Penrhyn. Gorfododd tlodi’r ardal i fechgyn mor ifanc â 9 neu 10 oed weithio yn y Chwarel er mwyn cynorthwyo yn y gwaith o gynnal eu teuluoedd. Bu swyddogaethau’r merched ar yr aelwyd, yn rhan hanfod o’r gynhaliaeth hon. Roedd yr holl fechgyn a merched hyn wedi’u hamddifadu’n llwyr o unrhyw fanteision addysg, gan gynnwys rhai mor sylfaenol â’r gallu i ddarllen yn Gymraeg a Saesneg.

Yng nghanol anial yr amgylchiadau creulon hyn yr oedd un mudiad cyffredin yng nghalonnau ac eneidiau trigolion yr ardal - cerddoriaeth. Gwelwyd ym Methesda y gallu i ddefnyddio cerddoriaeth i’r amcan uchaf, o fewn yr addoliad.9 Aed ati i berffeithio’r gelfyddyd er mwyn gwneud cyfiawnder â’r addoliad, a chyrraedd safon ymhle gellid ymfalchïo yn y gallu corawl. Dechreuwyd yn elfennol, a thrwy fuddsoddi oriau maith a chyflawni gwaith llafur caled, cyrhaeddwyd y brig yn y pen draw.

 

page12image45853248

 

9 Gladys Lloyd-Williams, Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Ogwen, (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1965), t.10.

4

Pennod 1

Cae Aseth a’rCarneddi
– y cychwyn

‘Gorau cam, cam cyntaf.’

5

Capel cyntaf enwad y Methodistiaid i’w sefydlu’n swyddogol yn Nyffryn Ogwen oedd Capel Yr Achub,1 yn y flwyddyn 1793. Wyth oedd nifer aelodau yr eglwys hon pan agorwyd ei drysau am y tro cyntaf un.2 Nid dyma fodd bynnag y tro cyntaf i’r Methodistiaid bregethu yn yr ardal. Ceir cofnodion o bregethu cyson ganddynt hwy ym mhlwyf Llanllechid mor gynnar â 1771.3 Pregethu mewn cyfarfodydd anffurfiol ar wahanol aelwydydd trigolion y dyffryn oedd hwn.

Yn fuan iawn y teimlid bod y capel hwn yn rhy fach ar gyfer poblogaeth plwyf Llanllechid a oedd yn prysur gynyddu. Chwarel lechi Braich-y-Cafn 4 oedd y prif ffactor fu’n gyfrifol am fudiad y degau o ddynion ynghyd â’u gwragedd a’u teuluoedd i Ddyffryn Ogwen, ac felly hefyd am dwf aruthrol y boblogaeth yn yr ardal. Gwelwyd effeithiau’r tyfiant yngnghalon y gymdeithas ym Methesda yn bennaf, a sylweddolwyd bod Capel Yr Achub braidd o’r neilltu yn sgil y datblygiadau hyn. Ymhen 23 mlynedd o wasanaeth y capel penderfynwyd sefydlu capel newydd sbon mewn man mwy canolog i’r boblogaeth, yn ardal y Carneddi. Parhau i dyfu a wnaeth y boblogaeth.

Ac felly yn y flwyddyn 1816 agorwyd drysau Capel y Carneddi yn swyddogol i drigolion ardal Bethesda. Gellir dweud yn hyderus fod y capel hwn wedi bod yn gyfrifol am ddyfodiad cerddoriaeth, addysg, yn ogystal â llenyddiaeth a diwylliant i’r ardal yn gyffredinol hefyd. Chwaraeodd y capel hwn ran dyngedfennol yn niwylliant crefyddol a chymdeithasolDyffryn Ogwen a’r ‘How Gets’.

Ymhen ychydig flynyddoedd ar ôl agor y capel hwn, bu digwyddiad hollbwysig arall ar gyfer trigolion yr ardal - sef dyfodiad un dyn i Ddyffryn Ogwen, Robert Williams, Cae

1 Adnabyddir yr ardal heddiw fel Rachub.
2 William Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon: Dosbarth Bethesda [V] (Caernarfon: Cyfarfod Misol Arfon, 1910), t.38.
3 Ibid.
4 Chwarel y Penrhyn yw’r enw ar y gloddfa hon bellach.

 

page14image45789792

 

6

Aseth.5 Fe’i disgrifid fel gŵr ‘rhinweddol a defnyddiol iawn’ yn ystod y cyfnod y bu’n gwasanaethu yn y Carneddi,6 ac fel ‘Tad canu cysegredig, ac eglwysig yn Llanllechid a Llandegai.’7 Nid yw union ddyddiad ei ddyfodiad i’r ardal yn gwbl eglur,8 ond mae’r ddwy lawysgrif wreiddiol, y cyntaf ar ‘Hanes yr Achos yn y Carneddi o’i ddechreuad hyn yn bresennol’ a’r ail, ‘Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda, am y 50 ml cyntaf’ yn crybwyll y flwyddyn 1821. Mae’n debygol mai dyma’r flwyddyn y dechreuodd Robert Williams, Cae Aseth, wasanaethu gyntaf fel athro cerddorol yn y Carneddi.

Ganwyd Robert Williams, Cae Aseth, yn Llanbedr, Dyffryn Conwy yn y flwyddyn 1791.9 Pan yn fachgen ieuanc dywedir iddo dderbyn addysg fwy sylweddol na phlant cyffredin eraill y cyfnod, iddo ddangos diddordeb mawr mewn cerddoriaeth ac iddo feddu ar lais canu da. Fodd bynnag, mae’n debyg na chafodd addysg gerddorol ddigonol i allu meithrin deallusrwydd eang iawn o’r pwnc fel plentyn. Ymddengys iddo symud i weithio fel gwas fferm yng Nghoetmor yn y flwyddyn 1819,10 ac iddo ymuno â chôr Eglwys Llanllechid.11 Yn fuan wedi hynny gadawodd y fferm am y chwarel,12 a dechrau ar ei waith fel athro cerddoriaeth yng Nghapel y Carneddi.

Roedd ysgol nos wedi’i sefydlu eisoes i addysgu gramadeg yng Nghapel y Carneddi gan Griffith Williams, ‘Gutyn Peris’,13 tua’r un cyfnod. Dywedir mai ‘Gutyn Peris’ oedd ‘tad

5 Robert Williams, ‘Cae Aseth’. 1791-1828.
6 Llawysgrif Hanes yr Achos yn y Carneddi o’i ddechreuad hyd yn bresenol, t.7.
7 Ibid., t.8
8 Y mae Gladys Lloyd-Williams yn ffafrio’r flwyddyn 1819, tra bod R. D. Griffith, William Parry ‘Llechidon’ a William Hobley yn ochri gyda’r flwyddyn 1821.
9 Gladys Lloyd-Williams, Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Ogwen, (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1965), t.10.
10 R. D. Griffith, ‘Cyfraniad Meibion Arfon i Gerddoriaeth: Pum Arloeswr’, Trafodion Hanes Sir Gaernarfon (1948), 97.
11 Ernest Roberts, Ar Lwybrau’r Gwynt (Llandybie: Llyfrau’r Dryw, 1963), t.18.
12 Ibid.
13 Griffith Williams, ‘Gutyn Peris’. 1769-1838. Dechreuodd ei yrfa fel gwas fferm, cyn symud i weithio yn Chwarel y Penrhyn. Treuliodd gyfnod yn byw gyda Abraham Williams ‘Bardd Du Eryri’ ar fferm Gwaun-y- Gwiail (ardal Gerlan, Bethesda). Cafodd fenthyg llyfrau a llawer o hyfforddiant gan y ‘Bardd Du’ a dyna'r pryd y dysgodd reolau barddoniaeth. Fe’i urddwyd yn fardd gan ‘Iolo Morganwg’ yn eisteddfod Cadair Dinorwig, 1799. Bu farw 18fed Medi 1838, a chladdwyd ef ym mynwent Llandygai.

 

page15image45412960

 

7

y mudiad o’r cychwyn’14 yn yr ardal. Mae’n debyg mai dyma’r cam cyntaf un i addysgu’r ‘gangen hon o lenyddiaeth’ yn y plwyf.15 Diogelwyd y cam cyntaf a fu’n gyfrifol am ddyfodiad addysg gerddorol i’r ardal pan sefydlwyd ysgol nos gan Robert Williams, Cae Aseth, ysgol nos a roddai le i ddiwinyddiaeth a gramadeg yr iaith, fel y gallai pobl ifanc yr ardal ddarllen yr ysgrythur yn gywir.16 Yn y dosbarthiadau hyn sylweddolwyd bod awydd yn y gymdeithas am feithrin addysg gerddorol yn y fro, a bod cyfle euraidd i’r gymdeithas hon wir elwa ar yr hyn y byddai addysg gerddorol yn ei gynnig. Yr oedd hi hefyd yn amlwg iddo fod cyflwr a safon caniadaeth yn sobor o isel a di-drefn.17

Ffigwr 1: Capel y Carneddi, Bethesda (M. C.)

14 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am y 50 ml Cyntaf, t.4.
15 William Parry, Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai, (Bangor: J Mendus Jones, 1868), t.15.
16 R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth ym Methesda; I: Ddoe’, Y Cerddor (Mawrth 1930), 9.
17 Ibid.

 

page16image45500864

 

 

page16image45501072

 

8

Er nad oes llawer o sôn am gerddoriaeth a chanu corawl yn Nyffryn Ogwen cyn dyfodiad Robert Williams, Cae Aseth i’r ardal,18 mae mân gyfeiriadau at gerddoriaeth yn bodoli. Dyma werthusiad William Parry, ‘Llechidon’ yn ei gyfrol Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai:

Drigain mlynedd yn ôl, nid oedd yn y ddau blwyf nemawr i ddim canu. Yr oedd rhyw ychydig yn yr Eglwysi.19

Fe gadarnheid hyn i raddau gan Hugh J. Williams yn ei gyfrol Hanes Eglwys Llanllechid. Er nad yw’n crybwyll dyddiad penodol, y mae’n cyfeirio at y côr yn Eglwys Llanllechid yn canu anthemau yn agos at gan mlynedd cyn hyn,20 ac ymddengys y bu ychydig o ganu mewn gwasanaethau Plygain a nosweithiau llawen yn yr ‘hen amser.’21 Ymwelai’r cerddor John Williams, ‘Ioan Rhagfyr’ â’r ardal ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ac yr oedd sôn am ganu Côr Eglwys Llanllechid y dyddiau hynny.22

Nid oes yna unrhyw arwydd penodol y bu unrhyw ganu yng nghapeli’r ardal ychwaith cyn dyfodiad Capel y Carneddi. Ceir y sylwadau canlynol yng nghyfrol William Hobley ar Hanes Methodistiaeth Arfon: Dosbarth Bethesda;

Tŷb Llechidon yw nad oedd dim canu yn y gwasanaeth yn hen gapel y Rachub, ac nad oedd i’w glywed yn y gwasanaeth y pryd hwnnw yn yr ardal hon oddigerth yn y llannau plwyfol, unrhyw fath yn y byd ar ganu cyhoeddus.23

18 Gladys Lloyd-Williams, Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Ogwen, (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1965), t.10.
19 William Parry, Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai, (Bangor: J Mendus Jones, 1868), t.19.
20 Hugh J. Williams, Hanes Eglwys Llanllechid (Bangor: Jarvis & Foster, 1910), t.29.
21 William Parry, Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai, (Bangor: J Mendus Jones, 1868), t.19.
22 R. D. Griffith, ‘Cyfranaiad Meibion Arfon i Gerddoriaeth’, Trafodion Hanes Sir Gaernarfon (1948), 97.
23 William Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon: Dosbarth Bethesda [V] (Caernarfon: Cyfarfod Misol Arfon, 1910), tt.55-56.

 

page17image45649776

 

9

Fodd bynnag, ymddengys bod rhai arweinyddion eraill wedi dechrau ar eu gwaith yn y Carneddi cyn Robert Williams, Cae Aseth. Dyfynnir y canlynol o’r llawysgrif ‘Hanes yr Achos yn y Carneddi o’i ddechreuad hyd yn bresennol’:

Yr arweinydd canu cyntaf a godwyd yn rheolaidd ydoedd Edward Thomas, Coed-y-parc, (Rhiwlas Gynt) ac yr oedd yn un cymwys anghyffredin i’r swydd. Byddai yn arfer rhoddi ei law ar ei glust pan yn taro un o’r hěn fesurau anwyl a bendigedig oedd mewn arferiad y pryd hynny, - megis “Y mae’r gymdeithas yma yn gref, Ond yn y nef hi fydd yn fwy.”24

Cynhelid y dosbarthiadau25 ar brynhawn Sadyrnau, gydag elfennau cerddoriaeth yn derbyn sylw yn y gweithgareddau. Ceir disgrifiad manwl o natur dosbarth cerddorol yr hwyr yng nghyfrol R.D.Griffith, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru:

Am chwech o’r gloch nos Sadwrn deuai lliaws o’i ddisgyblion ynghyd i ddysgu’r tonau a genid yn y gwasanaeth ar y Sul, a cheid cyfarfodydd cyffelyb ar nosweithiau eraill o’r wythnos.26

Y mae hi’n bur debyg mai’r unig brofiad cerddorol ym meddiant aelodau’r dosbarthiadau oedd eu profiadau o ganu yn eu hysgolion ac ar y Sul. Llafuriodd Robert Williams, Cae Aseth i addysgu’r grefft gerddorol, gan gynnwys dysgu tonau ac anthemau cysegredig.27 Dylid cofio am ddiffyg gallu’r mwyafrif o’r disgyblion i ddarllen cerddoriaeth, a rhaid felly oedd defnyddio strategaeth wahanol er mwyn dysgu’r tonau. Penderfynodd Robert Williams, Cae Aseth fabwysiadu’r cynllun canlynol, sef bod yr athro yn canu dwy

24 Llawysgrif Hanes yr Achos yn y Carneddi o’i ddechreud hyd at yn bresenol, t.6.
25 Byddai Robert Williams, Cae Aseth yn cynnal ei ddosbarthiadau yn y ddau gapel, yn ôl cyfleustra. Fodd bynnag, yng Nghapel y Carneddi y llafurai fwyaf.
26 R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru, (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), t.55.
27 William Parry, Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai, (Bangor: J Mendus Jones, 1868), t.15.

 

page18image45479328

 

10

linell a bod y disgyblion yn ceisio ei efelychu.28 Roeddent yn llafurio yn galed er mwyn cael canu teilwng yn yr oedfaon drannoeth.

Er yr holl waith caled gwirfoddol a gyflawnwyd gan Robert Williams, Cae Aseth i addysgu elfennau cerddoriaeth, derbyniodd lawer iawn o wrthwynebiadau oddi wrth nifer o wŷr da blaenllaw y capeli. Roedd llawer un yn gwbl grediniol fod canu wrth notes yn gysylltiedig â llygredigaethau’r oes. Ond, er gwaethaf pob beirniadaeth a gwrthwynebiad,cadwodd ati, ac yn y pen draw dechreuodd dderbyn canlyniadau clodwiw am ei waith da. Capel y Carneddi oedd ei lwyddiant cyntaf, a dyma’r man dechrau ar gyfer codi safon canu gorawl cysegredig yr ardal.

Parhaodd â’r gwaith hwn o addysgu cerddoriaeth am tua wyth mlynedd. Er mai athro ydoedd, y mae’n bosib dweud ei fod hefyd wedi gwasanaethu fel noddwr ar gyfer ei ddisgyblion gan iddo brynu llyfrau iddynt, gwobrwyo’r plant ag anrhegion, a chadw cysgod ‘dros foesoldeb ac ymarweddiad yr aelodau’.29 Nodir mai dymuniad mawr Robert Williams, Cae Aseth oedd:

gweled llaw yr Arglwydd yn gweithio yn gadwedigol ar y cantorion ag oedd gydag ef yn canu, fel na byddo canurheolaidd yn mynd allan o’r eglwys.30

Y mae hi hefyd yn ddiddorol nodi gwrthwynebiad Robert Williams, Cae Aseth at unrhyw fath o ddrygioni –

dywedai gyda nerth ac awdurdod yn erbyn pob drwg, ac ni oddefai neb yn aelod o gymdeithas y cantorion os byddai yn euog o feddwdod, halogi y Saboth, a phechodau mawr ereill.31

28 Gladys Lloyd-Williams, Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Ogwen, (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1965), t.11.
29 R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth ym Methesda; I: Ddoe’, Y Cerddor (Mawrth 1930), 9.
30 Ibid.

31 R. D. Griffith, ‘Hen Gerddorion Bethesda, Llanllechid a Llandegai’, Y Cerddor (Mehefin 1914), 60. 11

 

page19image45194560

 

Ni chyfrannodd neb yn yr oes honno gymaint at gyfoethogi deallusrwydd a diwyllio trigolion y gymdeithas mewn cerddoriaeth ac addysg gerddorol ag a wnaeth Robert Williams, Cae Aseth. Llafuriodd am 8 mlynedd yn y Carneddi, gan weithio’n ddiarbed dros y gymdeithas. Roedd ei gyfraniad yn un mor bwysig i Ddyffryn Ogwen, gan iddo osod sylfaen cadarn ar gyfer addysg gerddorol a chyffredinol yr ardal. Cyflawnodd waith syfrdanol mewn cyfnod byr. Yn anffodus daeth ei fywyd i ben yn annisgwyl iawn pan yn 37 mlwydd oed, ar Hydref 30ain, 1828. Fe’i trawyd gan ddarn o graig yn tasgu oddi wrth ergyd yn y chwarel yn ystod y bore, a bu farw oddeutu 3 o’r gloch y prynhawn.32 Dyma golled enfawr i ganu crefyddol ym Methesda.

Fodd bynnag, nid dyma ddiwedd ar ei ddylanwad. Roedd ei ysbryd bellach yn nwylo ei gyfoedion a’i ddisgyblion. Ymhen pum wythnos wedi ei gladdu daeth ei ddisgyblion ynghyd, a phenderfynwyd sefydlu ‘Cymdeithas y Cantorion Crefyddol yn y Carneddi.’33 Lluniwyd rhestr o ‘Rheolau a Threfniadau Llywodraethol Y Cantorion Yng Nghapel yCarneddi, Llanllechid.’34 Y mae’r rhestr yn cynnwys 13 rheol, ac yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd caniadaeth grefyddol a syniad o’r hyn a ddisgwylid gan yr aelodau o ran ymarweddiad.

Ar noson claddedigaeth Robert Williams, Cae Aseth, penderfynodd pwyllgor Capel y Carneddi benodi Robert Moses 35 yn arweinydd y gân. Fe’i ganwyd yn Llanllechid yn y flwyddyn 1808. Fel y rhan fwyaf o ddynion y fro yn y cyfnod hwn, chwarelwr oedd Robert Moses. Dechreuodd ar ei waith yn y chwarel yn 12 oed. Roedd yntau yn ddisgybl i Robert Williams, Cae Aseth, a derbyniodd ei addysg gerddorol yn nosbarthiadau cerddoriaeth y

32 R. D. Griffith, ‘Cyfraniad Meibion Arfon i Gerddoriaeth: Pum Arloeswr’, Trafodion Hanes Sir Gaernarfon (1948), 98.
33 R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru, (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), t.56.
34 Ibid., tt.56-57. Gweler Atodiad 1 am restr cyflawn o’r rheolau.

35 Robert Moses. 1808-1883.

 

page20image45517248

 

12

Carneddi yn ystod ei arddegau.36 Dechreuodd Robert Moses wasanaethu yn y Carneddi yn ddyn ieuanc, 21 mlwydd oed. Fel rhan o’i waith, bu’n gyfrifol am arwain y Cantorion, gan barhau gyda’r gwaith da yr oedd Robert Williams, Cae Aseth eisoes wedi’i wneud fel sylfaen.

Yn fuan iawn, o dan arweiniad Robert Moses, aeth hanes canu’r Carneddi drwy’r wlad. Dywedid nad oedd un man arall yn y wlad ymhle roedd y canu yn rhagori ar ganu llewyrchus y Carneddi.37 Yr oedd teyrnged un dyn am ganu mawl y Carneddi, y Parchedig John Elias o Fôn, yn neilltuol:

Bobl, os dymunech gael cynllun o ganu da – canu a’r ysbryd ac a’r deall yna ewch i Gapel y Carneddi, yn Sir Garnarvon; nid ydwyf yn disgwyl clywed gwell canu tu yma i’r nefoedd nag a glywais i yn y Capel hwnnw. 38

Yr oedd y sylfaen gerddorol a sefydlwyd gan Robert Williams, Cae Aseth wedi’i lliwio’n bennaf gan yr hyn a oedd yn gynnwys i Gamut39 cerddorol Owain Williams o Fôn. Dywedir i Robert Williams, Cae Aseth feistroli ac yna ysgrifennu copi o bob gair o’r llyfr hwn, gan ei fod wedi mynd yn brin.40 Fodd bynnag, teimlai Robert Moses nad oedd y Gamut a ddefnyddiai ei gyn-athro yn ddigonol at ddiben addysg ei ddisgyblion yn y Carneddi.41 Fel canlyniad aeth ati i ysgrifennu Y Mynegfys Cerddorol yn 1844. Dywedir yn rhagdraeth y llawlyfr bychan hwn:

Wrth gyflwyno i’ch sylw y llyfryn newydd hwn, anghenrhaid sydd arnaf i’ch hysbysu ei fod wedi ei

36 William Parry, Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai, (Bangor: J Mendus Jones, 1868), t.61.
37 Gladys Lloyd-Williams, Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Ogwen (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1965), tt.11-12.

38 Llawysgrif Hanes yr Achos yn y Carneddi o’i ddechreuad hyd yn bresenol, t.8.
39 Cyhoeddwyd Gamut Owain Williams yn y flwyddyn 1816. Disgrifwyd rhan gyntaf y gwaith fel ‘Byr draethawd o waith yr enwog Charles Dibdin, wedi ei Gymreigio’n ofalus gan O. W.’, a’r ail ran fel ‘Rheolau Cerddoriaeth Eglwysig’.
40 R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth ym Methesda. Canu Bethesda – I. Ddoe’, Y Cerddor (Mawrth 1930), 9.
41 R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth ym Methesda. Canu Bethesda – Ddoe, Llith II’, Y Cerddor (Ebrill 1930), 36.

 

page21image45247248

 

13

gyfansoddi ar gais y Gymdeithas Gerddorol yn y gymdogaeth; eto, nid gyda’r bwriad lleiaf i’w argraffu, ond i’w holi fel pwngc ysgol yn nghapel y Carneddi a Jerusalem, ger Bethesda, Llanllechyd, swydd Gaernarfon, er dangos i’r rhai na fynnant chwilio, fod canu rheolaidd a threfnus yn ysgrythyrol a chymeradwy gan Dduw.42

Y mae’n bur debyg mai canu mewn gwasanaethau ar y Sul fyddai’r prif weithgaredd corawl yn y Carneddi, a gwnaed hynny’n dra llwyddiannus fel y gwelwyd yng nghanmoliaeth y Parchedig John Elias o Fôn i safon uchel canu’r Carneddi.

Y mae’r llawlyfr yma’n rhoi syniad da iawn am amgylchiadau’r canu yn y Carneddi yn ystod y cyfnod hwn. Gwelir fod pwyslais wedi ei roi ar ganu mawl, ac i’r dull o wneud hynny’n gywir a llwyddiannus. Er nad oes tystiolaeth bendant am yr hyn a genid yn ystod y cyfnod hwn, gellir awgrymu yn hyderus mai emynau a thonau oedd y prif fath o gerddoriaeth a arferid. Mae’r hyn a ddywedwyd gan R. D. Griffith yn Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru ynglŷn â dosbarthiadau Robert Williams, Cae Aseth yn cefnogi’r farn hon.43

Mae yna, fodd bynnag, ambell gyfeiriad at weithgarwch arall y Cantorion yn ystod yr 1840au mewn un maes yn arbennig – dirwest. Ym mis Awst 1834 sefydlwyd ‘Cymdeithas Cymmedroldeb Bethesda’. Roedd dirwest yn fater pwysig iawn ym Methesda yn ystod y cyfnod, ac mae sawl cofnod yn cyfeirio at ddigwyddiadau dirwestol yn yr ardal. Mae’r ffaith mai Bethesda oedd yr ardal fwyaf dirwestol yng Ngogledd Cymru yn ystod y cyfnod, gyda 2,804 dirwestwr cofrestredig yno erbyn diwedd 183644 yn tystio am yr holl weithgarwch a fu yn y maes.

42 Robert Moses, Y Mynegfys Cerddorol yn cynnwys Holwyddoreg ar Ganu Mawl i Dduw (Caernarfon: James Rees, 1844), ‘Rhagdrith’.
43 R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), t.55.
44 W. H. Lambert, Drink and Sobriety in Victorian Wales (Cardiff: University of Wales Press, 1983), p.62.

 

page22image42742576

 

14

Wrth neidio ymlaen bedair blynedd, ceir gohebiaeth yn Y Drysorfa ar ‘Cylchwyl Cymdeithas Ddirwestol Bethesda, Swydd Arfon’.45 Mae’n bosib mai dyma’r cyfeiriad cynharaf sy’n sôn yn benodol am y Cantorion i ymddangos yn y wasg:

Ar y 4ydd dydd o Ionawr, 1840, cynnaliwyd y cyfarfod hwn, pryd yr oedd yn gynnulledig yn agos i 1200 o ddirwestwyr, a llawer o edrychwyr. Cyfarfu yr aelodau yn y Carneddi, yn Nghapel y Trefnyddion Calfinaidd... Yna y faner fawr, yr hon a ddygid gan bedwar; pregethwyr a blaenoriaid eglwysig, a swyddogion y Gymdeithas; cantorion Bethesda; y meibion bychain a mawr ochr yn

ochr; cantorion y Carneddi...46

Arweinwyd y Cantorion gan Robert Moses yn y cyfarfod hwn. Canwyd yr eitemau canlynol ganddynt: ‘Anthem’ o waith G. Roberts (Pengrenor, Llanrug); ‘Teyrnasoedd y Ddaear’ gan John Ambrose Lloyd; ‘Temperance’ gan Haydn; a ‘tôn gyffredinol’ yn terfynu’r cyfarfod.47

Symudwyd o Gapel Cynulleidfaol Bethesda i Gapel Jerusalem y Methodistiaid Calfinaidd ar gyfer cynnal rhan nesaf y cyfarfod. Gwasanaethodd ddau gôr y tro hwn, y Cantorion a Chôr Jerusalem. At ddiben y bennod hon, rhestrir eitemau’r Cantorion yn unig: ‘Missionary Hymn’ gan L. Mason o America; ‘Wrth Afonydd Babilon’ gan ‘Tanymarian’; ‘Mor Hawddgar yw dy Bebyll Di’ gan ‘Eos Llechid’; ac yn olaf, ‘Digrifwch Dafydd’ gan R. James (Merthyr Tydfil).48

Parhâi gweithgarwch y Cantorion mewn cyfarfodydd a gwyliau dirwestol am flynyddoedd. Gellir eu darganfod yn canu yn ystod y diwygiad a fu i’r achos dirwestol yn 1849,49 ymhle roedd corau’r capeli yn weithgar iawn, yn ogystal â chorau eraill fel Côr Dirwestol Braichmelyn a sefydlwyd gan William Morris (Braichmelyn) yn gynnar yn 1849.50

45 ‘Cylchwyl Cymdeithas Ddirwestol Bethesda, Swydd Arfon’, Y Drysorfa, Rhif CXI (Mawrth 1840), 25. 46 Ibid.
47 ‘Hanesion Gogledd, Gwyl Ddirwestol Bethesda’, Yr Amserau, 11 Ionawr 1854, t.3.
48 Ibid.

49 ‘Cyfarfod Cymdeithas Ddirwestol’, Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America (Awst 1849), 254. 50 Ernest Roberts, Ar Lwybrau’r Gwynt (Llandybie: Llyfrau’r Dryw, 1963), tt.58-64.

 

page23image45304048

 

15

Mae’r enghreifftiau uchod o gerddoriaeth yn brawf o natur amrywiol repertoire y Cantorion, ac ymddengys na chyfyngwyd eu hymdrechion i un math o arddull yn unig. Treuliodd corau ardal Bethesda lawer iawn o’u hamser yn dysgu a chanu cyfansoddiadau cyfansoddwyr mawr Ewrop, gwaith Handel yn enwedig. Gwelwn gyfeiriadau at y corau’n perfformio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru hefyd – ac yn achos ‘Eos Llechid’, cerddor a gyfansoddodd ei weithiau o fewn ei blwyf genedigol, sef Llanllechid.51

Yn 1862, wedi 34 blynedd o wasanaeth tra ffyddlon, daeth cyfnod Robert Moses fel arweinydd y ganiadaeth yn y Carneddi i ben.52 Dewiswyd yn ei le Richard Roberts (Llidiart y Gwenyn) fel arweinydd dros dro. Cyfrannodd Richard Roberts lawer at ganu’r Carneddi, ac fe’i hadwaenid yn ogystal fel cerddor, cyfansoddwr ac arweinydd corawl blaenllaw o fewn ei ardal.

Er mai yn Llanrug y ganwyd Richard Roberts, symudodd i ardal Bethesda pan oedd yn fachgen lled ifanc.53 Cyfansoddodd nifer o donau ac alawon, ond fe’i hadnabyddid yn bennaf am ei waith fel arweinydd canu cynulleidfaol yn y Carneddi ac am arwain Côr yr Aelwyd. Roedd y côr yma’n cynnwys 9 o aelodau, ac roeddent oll yn perthyn i deulu Richard Roberts. Mae cofnodion yn dangos fod y côr hwn wedi cynnal cyngherddau yn ardal Bethesda, a hefyd mewn ardaloedd eraill o Ogledd Cymru. Gwasanaethodd am flwyddyn yn unig, cyn symud i Gapel Brynteg.54 Wedi ei ymadawiad:

dewiswyd dau ŵr ieuanc tra medrus a galluog, sef Morris Evans Llidiart y Gwenyn, ac Evan Parry Frondeg: bu yn un o’r Arweinwyr Canu am 30 ml... Am y brawd Morris Evans, gellir dweyd fod cerddoriaeth wedi ei lwyr

51 Ann R. Jones, Lloffion o Hanes Plwyf Llanllechid, d.c., d.d., t.14.
52 ‘Bangor a Bethesda: Anrhegu Mr R. Moses, Carneddi’, Baner ac Amserau Cymru, 27 Ionawr 1872, t.7
53 William Parry, Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai, (Bangor: J Mendus Jones, 1868), t.107.
54 Llawysgrif Hanes yr Achos yn y Carneddi o’i ddechreuad hyd yn bresenol, t.8.

 

page24image42977728

 

16

feddiannu, a gwnaeth bob ymdrech dichonadwy, i gael gân y gelf, feddiannu ei gyd-aelodau.55

Tua’r flwyddyn 1873, bu llu o ddatblygiadau ym maes canu corawl y Carneddi. Yn gyntaf, dewiswyd David Owen ac Evan Evans (Bontuchaf), a Hugh Jones (Pant) fel tri arweinydd newydd ar gyfer y ganiadaeth.56 Yn ail, ac efallai’n fwy pwysig, ‘trwy ddylanwad rhai o’r Arweinwyr Canu yn fwyaf arbennig’57 penderfynwyd gosod offeryn cerdd am y trocyntaf yn y Carneddi. Nid oes amheuaeth i’r mater o osod organ yn y capel fod yn un dadleuol. Deugain mlynedd ynghynt, condemniwyd defnyddio

offerynnau meirwon yn Addoliad Duw; megis y Delyn, a’r Organ, Pibelli a Chrythau, yn nghyd a phob offerynnau o’rfath...58

Gellir gweld bod newid amlwg iawn wedi digwydd ynglŷn â defnyddio offerynnau o fewn addoliad y Carneddi yn ystod y degawdau hyn. Mae’n bosib mai’r prif reswm am y newid hwn oedd dyrchafiad canu cynulleidfaol fel elfen newydd yn addoliad capeli Cymru. Bu newid yn natur caniadaeth wrth i’r gynulleidfa gyfan, yn hytrach na’r côr yn unig, gymrydrhan yng nghaniadaeth yr emynau a’r tonau.

Gyda’r newid hwn yn natur y ganiadaeth, mae’n bosib dadlau fod pwysigrwydd a swyddogaeth corau capeli o fewn yr addoliad wedi'i israddio. Serch hynny nid dyma ddiwedd ar y canu corawl. Bu newid yn swyddogaeth a phwrpas y corau pan welwyd mwy o bwyslais ar gerddoriaeth y tu allan i furiau’r capeli, boed y rheini yn ddigwyddiadau cystadleuol neu’n rhai adloniadol.

55 Llawysgrif Hanes yr Achos yn y Carneddi o’i ddechreuad hyd yn bresenol, tt.13-14.
56 Ibid., t.18.
57 Ibid.
58 Robert Moses, Y Mynegfys Cerddorol yn cynnwys Holwyddoreg ar Ganu Mawl i Dduw (Caernarfon: James Rees, 1844), t.9.

 

page25image42817840

 

17

Roedd oratorio’r Messiah gan Handel yn ffefryn amlwg gan gorau capeli ardal Bethesda, gan gynnwys côr y Carneddi. Yn aml iawn daeth corau o wahanol sefydliadau at ei gilydd a ffurfio’n ‘undeb’ gorawl. Digwyddodd hyn ar fwy nag un achlysur i gorau Methodistaidd y Carneddi a Jerusalem.59 Y mae cyfeiriadau lu at berfformiad o’r gwaith gan gantorion o’r Carneddi, mewn capeli,60 mewn cyngherddau cyhoeddus,61 mewn amryw wyliau cerddorol,62 ac yng Nghastell Biwmares hyd yn oed.63 Mae’n debyg mai’r perfformiad mwyaf o’r Messiah y bu Côr y Carneddi yn rhan ohono oedd yr un mawreddog a gafwyd ar lethrau Chwarel Penrhyn yn ystod Awst 1860.64

Yr oedd cymdeithasau, cyfarfodydd neu gylchwyliau llenyddol a cherddorol yn derbyn lle amlwg iawn o fewn bywyd capeli Bethesda. Dechreuwyd cynnal y cyfarfodydd hyn tuag at ddiwedd y 19eg Ganrif. Cynhelid cyfarfodydd trwy gydol y flwyddyn, o fewn gwahanol sefydliadau crefyddol. Gellir cymharu’r cyfarfodydd hyn â rhyw fath o eisteddfod neu gystadleuaeth a oedd yn perthyn i’r sefydliadau crefyddol yn uniongyrchol. Fel yr awgryma’r enw, rhoddwyd llwyfan i lenyddiaeth a cherddoriaeth o fewn y digwyddiadau hyn.

Nis gellir rhestru’r holl gyfarfodydd hyn gan fod cynifer ohonynt yn cael eu cynnal. Yn hytrach, nodir rhai enghreifftiau penodol o weithgaredd Côr y Carneddi o fewn y digwyddiadau hyn. Mewn rhai cyfarfodydd, fel yr un canlynol yn a gynhaliwyd yng nghapel y Carneddi,65 bu côr y Carneddi yn cystadlu – yn erbyn côr capel Brynteg ar yr achlysur hwn.

59 Gweler: ‘Newyddion Cymreig – Gogledd: Bethesda, Ger Bangor’, Yr Amserau, 14 Ionawr 1852, t.4; ‘Newyddion Cymreig: Bethesda’, Baner ac Amserau Cymru, 18 Mawrth 1863, t.9; ‘Bethesda: Oratorio Stephen’, Baner ac Amserau Cymru, 3 Mawrth 1858, t.10 am rai adroddiadau o’r cydweithio rhwng Carneddi a Jerusalem.

60 ‘Bethesda: Concert’, The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 28 April 1860, p.7. 61 ‘Bethesda yn Arfon: Cynghedd Mawreddog’, Baner ac Amserau Cymru, 26 Awst 1863, t.5.
62 ‘Christmas Music Festival: Carnarvon Welsh Harmonic Society’, Carnarvon and Denbigh Herald, 28 December 1850, p.8.

63 ‘Hanesiaeth Bellenig: Beaumaris’, Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America, XXIII:274 (Hydref 1860), 405.
64 ‘Y Messiah: Cyfarfod Canu Mawr yn Nghloddfa Cae Braich y Cafn’, Baner Ac Amserau Cymru, 29 Awst 1860, t.9
65 ‘Bethesda: Cyfarfod Llenyddol a Cherddorol Carneddi’, Baner ac Amserau Cymru, 28 Tachwedd 1894, t.11.

 

page26image42591376

 

18

Y dôn ‘Glanrhondda’ oedd y darn gosod, a chafwyd côr y Carneddi yn fuddugol. Droeon eraill byddai côr y Carneddi yn gwasanaethu fel côr adloniadol, fel yn y cyfarfod a gafwyd yng nghapel y Carneddi flwyddyn ynghynt.66

Yn y Carneddi felly y ganwyd traddodiad cerddorol a chorawl ardal Bethesda. Y cam cyntaf a fu’n gyfrifol am sicrhau hynny oedd yr holl oriau o waith caled a fuddsoddwyd gan Robert Williams, Cae Aseth, gan osod sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol cerddoriaeth yn y Carneddi, ac yn ardal Bethesda yn gyffredinol hefyd. Roedd yr holl gorau a cherddorion a godwyd yn ddiweddarach yn yr ardal yn destun llwyddiant i waith Roberts Williams, Cae Aseth. Amrywiol iawn oedd gweithgarwch y Cantorion yn y Carneddi, a oedd yn destun llwyddiant i wersi cerddoriaeth y Capel.

 

page27image42705856

 

66 ‘Bethesda: Cyfarfod y Carneddi’, Y Genedl Gymreig, 14 Chwefror 1893, t.8. 19

Pennod 2

Capel Jerusalem

(M. C.)

‘Bach yw hedyn pob mawredd.’ 20

 

page29image42520432

 

Ffigwr 2: Capel Jerusalem, Bethesda (M. C.)

Dyma ail sefydliad enwad y Methodistiaid Calfinaidd i gael ei grybwyll yn y gwaith hwn. Mae’n bosib fod Capel Jerusalem, Bethesda (M. C.), yn un o’r adeiladau harddaf a mwyaf gwerthfawr nid yn unig yn yr ardal, ond yng Nghymru gyfan.1 Agorwyd y Capel yn y flwyddyn 1842, yng nghanol cyfnod ymhle roedd pobl yn dylifo i Ddyffryn Ogwen2oherwydd effeithiau datblygiadau yn y diwydiant llechi yn bennaf.3 Ymhen tair blynedd wedi agor Jerusalem, roedd cymaint â 3,000 o ddynion yn gweithio yn y Chwarel ac oddeutu 15,000 o bobl yr ardal yn ddibynnol ar y diwydiant llechi.4

Yn y flwyddyn 1841 daeth anesmwythder i eglwys y Carneddi oherwydd cynnydd cyflym y boblogaeth, - am helaethu y Capel neu adeiladu Capel newydd mewn lle mwy cyfleus i’n addolwyr, bu trafodaeth faith, a dadleu brwd o bob ochr.5

1 Richard Owen, Hanes Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhlwyfydd Llanllechyd a Llandegai (Bangor: E. Williams, 1882), t.56.
2 Eglwys Bresbyteraidd Cymru Jerusalem Bethesda, Dathlu Canrif a Hanner Jerusalem (Dinbych: Gwasg Gee, 1992), d.t.
3 D. Huw Owen, Chapels of Wales (Bridgend: Seren Books, 2012), p.37.
4 J. Elwyn Hughes, Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad (Aberystwyth: Cyhoeddiadau Barddas, 2008), t.xix.
5 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am y 50 ml Cyntaf, d.t.

 

page29image42519808

 

21

Cefnoga’r dyfyniad uchod fanylion am y cynnydd cyson a fu ym mhoblogaeth yr ardal yn ystod y cyfnod hwn. Cymaint oedd y datblygiad fel nad oedd modd cadw rheolaeth ar y cynnydd eithafol mewn pobl a symudodd i’r dyffryn. Wedi cryn dipyn o bendroni, penderfynwyd codi capel newydd ar safle mwy canolog i’r boblogaeth o’i gymharu â lleoliad Capel y Carneddi. Symudodd 195 o aelodau’r Carneddi i Jerusalem 6 wedi’i agoriad ar Hydref 7fed 1842, gan adael 93 aelod ar ôl yn y Carneddi erbyn 1843.7 Roedd rhai o’r aelodau a symudodd o’r naill gapel i’r llall yn cynnwys aelodau o’r Côr yn y Carneddi.

Roedd y capel gwreiddiol yn dra gwahanol i’r capel a saif ar y lleoliad heddiw. Yn y flwyddyn 1872 atgyweiriwyd y capel, a gwnaed newidiadau i’r tu mewn ac i’r tu allan.8 Y newidiadau mwyaf oedd tynnu’r hen seddau, ac ychwanegu seddau newydd mewn cynllun hanner cylch gosgeiddig.9 Dyma ffurf bresennol y capel.

Ffigwr 3: Y cynllun seddau presennol yng Nghapel Jerusalem, Bethesda.

6 Richard Owen, Hanes Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhlwyfydd Llanllechyd a Llandegai (Bangor: E. Williams, 1882), t.57.
7 Llawysgrif Hanes yr Achos yn y Carneddi o’r ddechreuad hyd yn bresenol, t.13.
8 D. Huw Owen, Chapels of Wales (Bridgend: Seren Books, 2012), p.37.

9 Ibid.

 

page30image42292928

 

 

page30image42294800

 

22

Sonnir am Robert Williams, Cae Aseth, fel ‘tad Cerddoriaeth yr ardal’10 mewn llawysgrif ar ‘Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda, am y 50 ml cyntaf’. Y mae hi’n bwysig nodi’r dylanwad a gafodd ar gerddoriaeth yn gyffredinol yn ardal Bethesda. Nid oedd ei gyfraniad wedi’i gyfyngu i un maes neu un sefydliad crefyddol penodol yn unig, ac nidsyndod i’w waith ddylanwadu hefyd ar gapel Jerusalem.

Yr agwedd gyntaf ar addysg ffurfiol yng nghapel Jerusalem oedd addysg gramadeg. Soniwyd eisoes am wersi tebyg oedd i’w cael yn y Carneddi o dan arweiniad ‘Gutyn Peris’. Sefydlwyd dosbarthiadau wythnosol yn yr ardal:

gan feistriaid y Wyddor yma; William Williams (Gwilym Llechid)... a Hugh Tegai ac Arvonwyson yn Plwyf Llandegai, Tre’rgarth yn bennaf.11

Yr oedd athrawon eraill y grefft yn Jerusalem yn cynnwys Griffith Jones a gynhaliai ei wersi

ar ymyl y Gallery (yn front), Jns Thomas Pant Glas, a dosbarth Griffith Williams yn Coed y Parc.12

Agwedd arall ar addysg yn Jerusalem oedd astudiaethau diwinyddol. Y mae’r pwysigrwydd neilltuol a roddwyd i’r astudiaeth o briodoleddau Duw a ‘dadleuon duwinyddol diwedar’13 yn hynod amlwg wrth ddarllen cofnodion a ysgrifennwyd ar y mater:

Cymmerwyd y ddadl i fynnu yn llwyr yn yr ardal; dyna ydoedd iw glywed ym mhob man - yn y Chwarel - ar y ffordd, ac yn y capel, a chynyddodd y brwdfrydedd a’r yspryd nes y clywid dynion yn ei afael hyn yn nôd wrth orsedd gras.14

10 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am y 50 ml Cyntaf, t.5. 11 Ibid., t.41.
12 Ibid., t.42.
13 Ibid.

14 Ibid., t.43.

 

page31image42312848

 

23

Rhoddwyd rhyw fath o statws uwchraddol i arweinwyr diwinyddol yr ardal, a ‘braint fawr oedd cael bod yn aelod’15 o ddosbarthiadau’r grefft a gynhelid yn ‘ddwy Sedd Fawr congl yr oriel (Gallery)’16 Capel Jerusalem.

Yn ogystal â’r dosbarthiadau diwinyddol uchod, rhoddwyd sylw i un pwnc arall yn Jerusalem – cerddoriaeth. Codwyd côr,17 sefydlwyd Gobeithlu,18 ac fel yn y Carneddi, ffurfiwyd dosbarthiadau er mwyn addysgu’r gelfyddyd.19 Roedd hyfforddiant cerddorol yn cynnwys dosbarthiadau Tonic Sol-ffa o dan arweiniad William Parry (Tanyffrwd) a Harry G. Parry ar ei ôl.20 Arweinid dosbarthiadau ‘Yr Hen Nodiant’ gan John Davies ‘Eos Ogwen’21 a Thomas Pritchard (Cefn Capel Cwtta).22

Roedd ‘Eos Ogwen’ yn gerddor adnabyddus yn ystod ei ddydd ym Methesda. Bu ei dad, Morris Davies, yn gwasanaethu fel un o arweinyddion cyntaf y canu yn Jerusalem am flynyddoedd. Yntau oedd hefyd yn rhannol gyfrifol am sefydlu Seindorf Bres y Penrhyn, a bu’n aelod ffyddlon am 15 mlynedd.23 Bu John yn aelod o gôr perthynol i Hen GapelJerusalem gyda’i dad pan yn chwe blwydd oed, ac addysgwyd y grefft gerddorol iddo gan ei dad a thrwy hunan ddiwylliant.

Fe’i penodwyd yn gyfrifol am adran bas Côr Jerusalem pan oddeutu 20 oed, a bu’n gyfrifol am y swyddogaeth o orfod copïo cynnwys Messiah Handel ar gyfer cantorion yr adran honno.24 Cymaint oedd ei ddealltwriaeth o’r Messiah fel nad oedd angen copi o’r

15 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am y 50 ml Cyntaf, t.43.
16 Ibid.
17 William Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon: Dosbarth Bethesda [V] (Caernarfon: Cyfarfod Misol Arfon, 1910), t.138.
18 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am y 50 ml Cyntaf, t.87.
19 Ibid., t.90.
20 Ibid.
21 John Davies, ‘Eos Ogwen’. 1838-Anhysbys.
22 Ibid.
23 R. D. Griffith, ‘Ein Cerddorion (Rhif 188, Mr. John Davies ‘Eos Ogwen’, Bethesda)’, Y Cerddor (Gorffennaf 1914), 74-75.
24 Ibid.

 

page32image42238368

 

24

gwaith arno pan y’i datganwyd gan y côr.25 Cyfansoddodd amryw donau cynulleidfaol ac anthemau,26 ac amryw o ddarnau i seindorf bres.27

Yn ôl yr hyn sydd wedi’i gofnodi ar hanes Capel Jerusalem, gwelwn mai canu corawl oedd yn derbyn y sylw blaenllaw yng ngwasanaethau’r capel am y degawdau cyntaf wedi’i agoriad:

Y ganiadaeth: ffurf yr hon am y 20ml cyntaf yn Jerusalem ydoedd; y corawl: ymunai rhan o’r gynulleidfa yn gymdeithas neillduol, i ofalu am y rhan yma o’r gwasanaeth cysegredig, ac eisteddant gyda’i gilydd yn y capel - gelwid y fan hyn yn “Sedd Ganu.”28

Awgryma’r dyfyniad fod newid wedi bod i ffurf y ganiadaeth yn Jerusalem yn dilyn y cyfnod hwn. Adlewyrchir tuedd canu’n gyffredinol ar draws capeli Cymru’r cyfnod, a’r newid a fu o ganu yn ei ffurf gorawl i’w ffurf gynulleidfaol erbyn yr 1870au. Er mwyn cyfiawnhau’r newid a fu i’r ganiadaeth yn Jerusalem, addas yw rhoi ychydig o wybodaeth gefndirol ar yr elfen gorawl yn gyntaf.

Yng nghyfrol William Hobley ar Hanes Methodistiaeth Arfon: Dosbarth Bethesda [V], dyfynnir yn helaeth o erthygl ‘Eos Ogwen’ ar y canu a’r côr yn Jerusalem. Traddodwyd yr erthygl fel darlith ganddo mewn cyfarfod o Gymdeithas Lenyddol Jerusalem,29 ac ynddi geir disgrifiad manwl o natur y canu yng nghapel Jerusalem. Y mae’r deunydd hwn wedi’i

25 R. D. Griffith, ‘Ein Cerddorion (Rhif 188, Mr. John Davies ‘Eos Ogwen’, Bethesda)’, Y Cerddor (Gorffennaf 1914), 74-75.
26 W. Parry, Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai (Bangor: J. Mendus Jones, 1868), t.74. 27 R. D. Griffith, ‘Ein Cerddorion (Rhif 188, Mr. John Davies ‘Eos Ogwen’, Bethesda)’, Y Cerddor (Gorffennaf 1914), 75.

28 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am y 50 ml Cyntaf, t.49.
29 Cyhoeddwyd y ddarlith fel erthygl dwy ran, yn dwyn y teitl ‘Caniadaeth y Cysegr: Papyr a Ddarllenwyd yn Nghymdeithas Lenyddol Jerusalem gan Mr John Davies (Eos Ogwen)’. Rhan gyntaf: Y Gwyliwr, 2 Ebrill 1907, t.3. Ail ran: Y Gwyliwr, 9 Ebrill 1907, t.8.

 

page33image42466960

 

25

grynhoi mewn erthygl yn Y Gwyliwr, 2 Ebrill 1907. Cyfeiria’r erthygl at waith Robert Williams, Cae Aseth yn y Carneddi fel dechreuad caniadaeth Jerusalem. Yn nosbarthiadau cerddoriaeth y Carneddi addysgwyd cerddorion a fu’n gyfrifol am ganiadaeth Jerusalem, gan gynnwys y brodyr Richard 30 a John Parry (Llidiart y Gwenyn, Llanllechid).31

Yn fuan wedi agoriad y capel newydd, penderfynwyd codi côr yno. Penodwyd pwyllgor ar gyfer paratoi nifer o anthemau a thonau i’w canu gan y côr newydd hwn wedi agoriad y capel. Dyma’r swyddogion:

Pwyllgor: Mri Thomas Jones, Abercaseg; Robert Parry, Tanyffordd; Robert Thomas Rowlands, Nantygraen; David Morris Jones a John Morris Jones, Bodforris; William Thomas, Braichmelyn; a John Thomas, Tanysgrafell (gynt, Pantglas wedi hynny).32

Cyfyngedig iawn o ran eu natur a’u harddull oedd yr anthemau cynnar hyn, ac nid oedd llawer o weithiau Cymreig wedi’u cyfansoddi. O’r gweithiau Cymraeg a fodolai, nid oedd unrhyw un ohonynt yn gyhoeddedig, ac felly bu’n rhaid copïo’r deunydd oddi ar gopïau llawysgrifol a ellid eu cael o’r gweithiau.33 Yn ogystal, penodwyd swyddogion a fu’n gyfrifol am y côr yn Jerusalem:

Llywydd: Richard Parry, Carneddi
Ysgrifennydd: David Prichards, Braichmelyn
Trysorydd: Griffith Prichards, Braichmelyn Arweinyddion: John Parry, Carneddi; Richard Parry, Carneddi; Morris Davies, Braichmelyn; David Thomas Rowlands, Nantygraen.34

30 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am y 50 ml cyntaf, t.50.
31 Gladys Lloyd Williams, Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Ogwen (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1965), t.18.
32 ‘Caniadaeth y Cysegr: Papyr a Ddarllenwyd yn Nghymdeithas Lenyddol Jerusalem gan Mr John Davies (Eos Ogwen)’, Y Gwyliwr, 2 Ebrill 1907, t.3.
33 Ibid.
34 Ibid.

 

page34image42917392

 

26

Wedi dewis yr anthemau a thonau i’w canu, penodwyd arweinydd ar gyfer pob llais o fewn y côr.35 Bu’r arweinyddion hyn yn gyfrifol am hyfforddi’r llais a neilltuwyd ar eu cyfer, ac am drefnu dosbarthiad y gerddoriaeth o fewn eu llais. Soniwyd eisoes am benodiad ‘Eos Ogwen’ fel arweinydd ar gyfer adran bas y côr, a’r baich a ddaeth law yn llaw â’rswyddogaeth hon.36

Richard Parry oedd y cyntaf i gael ei benodi’n arweinydd ar Gôr Jerusalem, yn fuan wedi agoriad y capel yn Hydref 1842. Dywedir iddo fod ‘yn gerddor gwych, hanai o deulu oedd yn nodedig iawn am eu talent a’u hymroddiad gyda’r rhan yma o waith yr Arglwydd’.37 Ymhen ychydig amser penodwyd ei frawd, John Parry38 i’w gynorthwyo â’r gwaith o arwain y côr.

Dywedid gan rai oedd yn abl i roddi barn yn yr achos yma; nad ydoedd y diweddaf i fyny ai frawd fel cerddor ond yn llawer iawn mwy hapus ac oherwydd hynny yn meddu mantais neillduol i arwain ar gyfrif ei lais, yr hwn ydoedd yn fwy soniarus a melodaidd na’r eiddo ei frawd.39

Er mai Richard oedd y cyntaf a fu’n gyfrifol am y canu yng nghapel Jerusalem, ei frawd John a gysylltir gan amlaf â’r côr a’i lwyddiant neilltuol. Derbyniodd ran o’i addysg gerddorol gan Robert Williams, Cae Aseth yn nosbarthiadau cerddoriaeth y Carneddi. Ymunodd â Chôr y Carneddi pan yn 10 mlwydd oed.40 Golygodd marwolaeth Robert Williams, Cae Aseth yn 1828 mai blwyddyn yn unig o addysg gerddorol a dderbyniodd John Parry o dan ei hyfforddiant. Serch hynny, dechreuodd John hunan hyfforddi’r gelfyddyd iddo’i hun, nes iddo ddatblygu’n gerddor medrus.41 Cyfansoddodd ambell i dôn, fel ‘Cryd

36 R. D. Griffith, ‘Ein Cerddorion (Rhif 188, Mr. John Davies ‘Eos Ogwen’, Bethesda)’, Y Cerddor (Gorffennaf 1914), 74.
37 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am 50 ml cyntaf, t.50.
38 John Parry. Medi 25ain 1814 – Mawrth 22ain 1876.

39 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am 50 ml cyntaf, t.50.
40 William Parry, Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai (Bangor: J Mendus Jones, 1868), t.64.
41 R. D. Griffith, ‘Hen Gerddorion Bethesda, Llanllechid a Llandegai’, Y Cerddor (Ionawr 1915), 3.

 

page35image42375056

 

27

Gwag Fy Mhlentyn Yw’. Cafwyd y dôn yma’n fuddugol yn Eisteddfod Cymreigyddion Bethesda, 1864.42

Penodwyd John yn arweinydd ar y canu yn Jerusalem pan yn 28 oed, swydd a lenwodd yn hynod lwyddiannus. Nid oes unrhyw amheuaeth mai John Parry oedd yr arweinydd canu mwyaf dylanwadol yng Nghapel Jerusalem. Roedd ei ddylanwad cymaint nes iddo gael ei adnabod fel John Parry ‘Jerusalem’.43 Un o’r prif resymau y tu ôl i’w ddylanwad fel arweinydd oedd ei awydd am gyflwyno cerddoriaeth o fath newydd i gantorion Jerusalem. Un enghraifft o hyn oedd penderfyniad John Parry i fynd ati i ddysgu cydganau Messiah Handel i’r côr yn Jerusalem. Dywedir mai ef oedd yr arweinydd cyntaf i ddechrau dysgu cydganau’r Messiah i gôr ym Methesda.

Dysgid ‘tonau ar gyfer Emynau arferedig’44 ac anthemau gan Gôr Jerusalem. Ymysg yr anthemau mwyaf poblogaidd oedd ‘Par i Mi Wybod dy Ffyrdd’ gan Dafydd Harries, a adnabyddid fel ‘Anthem Fawr Llanllechid’.45 Anthemau poblogaidd eraill oedd ‘Gwledd yr Eglwys’ a ‘Cofia yn Awr dy Greawdwr’ gan William Owen, ‘Prysgol’46, ‘Duw Sydd Noddfa’ gan Richard Mills, ‘Clodforwch yr Arglwydd’ gan John Williams ,‘Ioan Rhagfyr’, ac amryw anthemau angladdol. Roedd yr anthemau ‘Job Onid Oes Amser Terfynedig’, a ‘Dyn a Aned o Wraig’ o waith Robert Davies, ‘Asaph Llechid’47 yn anthemau poblogaidd arall. Arferid canu anthem cyn y bregeth, neu wrth i’r gynulleidfa adael y gwasanaeth. Rhoddwyd sylw mawr i

42 Gweler Atodiad 2.
43 R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth ym Methesda – Ddoe: Llith IV’, Y Cerddor, (Mehefin 1930), 100.
44 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am 50 ml cyntaf, t.51.
45 Ibid.
46 William Owen, ‘Prysgol’. 1813-1893. Adnabyddwyd ‘Prysgol’ fel un o brif cyfansoddwyr ardal Bethesda. Dysgodd am gerddoriaeth yng ngwersi Robert Williams, Cae Aseth, a gan William Roberts (Tyn y Maes), awdur y dôn ‘Andalusia’. Fe gofir am ‘Prysgol’ fel awdur y dôn boblogaidd ‘Bryn Calfaria’.
47 Robert Davies, ‘Asaph Llechid’. 1834-1858. Dywedwyd i ‘Asaph Llechid’ fod yn un o’r cerddorion mwyaf athrylithgar ym Methesda. Derbyniodd ei wersi cerddorol cyntaf yn nosbarthiadau Robert Moses, ond buan yr aeth y disgybl yn fwy na’i athro. Wedi hynny cafodd wersi gan ‘Eos Llechid’. Cyfansoddodd lawer o donau ac anthemau cyn ei ben-blwydd yn 16 oed. Arferid canu ‘Dyn a Aned o Wraig’ trwy Gogledd Cymru fel anthem angladdol. Fel Robert Williams, Cae Aseth, fe’i trawyd gan ddarn o graig yn y chwarel, a bu farw’n 44 mlwydd oed.

 

page36image42072704

 

28

ddirwest ym mlynyddoedd cyntaf Jerusalem. Cynhelid gŵyl fawr ddirwest yn yr ardal ar ddydd Calan, ymhle ymgynullai miloedd ynghyd i orymdeithio. Cenid tonau a chaneuon yn bwrpasol at ddiben yr ŵyl gan gorau capeli’r ardal, yn cynnwys Côr Jerusalem.

Ymhen amser penderfynodd y côr amrywio’r hyn roeddent yn ei ganu, a cheisio gweithiau cyfansoddwyr mawr Ewropeaidd, fel Haydn, Beethoven, Bach, Mozart, Mendelssohn a Weber.48 Y ffefryn oll, fodd bynnag, oedd Handel. Dysgid gweithiau fel Messiah, Judas Maccabeus, Israel in Egypt, Samson, Solomon, Jeptha ac eraill ganddo.49 Y mae’r duedd o ganu’r gweithiau hyn i’w darganfod yn amlwg iawn yng nghapeli eraill yr ardal hefyd.50

Fodd bynnag, gyda’r awydd newydd hwn am ganu campweithiau cyfansoddwyr mawr Ewrop, cododd rhwystrau sylfaenol a sylweddol i aelodau Côr Jerusalem. Yn gyntaf, anallu rhai o aelodau’r côr i ddarllen Saesneg yn rhugl. Yn ail, anallu aelodau’r côr i ariannu pryniant copïau o gerddoriaeth. Ac yn olaf, anallu holl namyn dau o aelodau’r côr, Richard a Morris Davies (tad ac ewythr ‘Eos Ogwen’) i ddarllen hen nodiant.51 Golygai hyn fod y gwaith o ddysgu unrhyw ddarn o gerddoriaeth yn amhosib. Er mwyn goresgyn y rhwystr yma bu’n rhaid addysgu unigolion y côr yn y gwaith sylfaenol o sut i fynd ati i ddarllen a deall cerddoriaeth. Roedd y gwersi cerddoriaeth a gynhaliwyd yn Jerusalem yn gyfryngauychwanegol o sicrhau fod yr hyfforddiant priodol yn cael ei gwblhau gan aelodau’r côr.

Edrychir ar broses y côr o ddysgu’r Messiah fel un enghraifft o natur dysgu gwaith cerddorol newydd. Pan ddysgid gweithiau newydd, anfonwyd at gwmni Novello yn Llundain am un copi ‘plygiad mawr’ o’r gerddoriaeth.52 Cost copi ‘plygiad mawr’ o’r Messiah oedd 1s

48 ‘Caniadaeth y Cysegr: Parhad’, Y Gwyliwr, Ebrill 9fed 1907, t.8.
49 William Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon: Dosbarth Bethesda [V] (Caernarfon: Cyfarfod Misol Arfon, 1910), tt.138-139.
50 Gweler gweithgarwch côr Capel Cynulleidfaol Bethesda (Pennod 3).
51 R. D. Griffith, ‘Hen Gerddorion Bethesda, Llanllechid a Llandegai’, Y Cerddor (Ionawr 1915), 3.
52 ‘Caniadaeth y Cysegr: Papyr a Ddarllenwyd yn Nghymdeithas Lenyddol Jerusalem gan Mr John Davies (Eos Ogwen’, Y Gwyliwr, 2 Ebrill 1907, t.3. Roedd ‘plygiad mawr’ yn gopi mwy o’r gerddoriaeth, i’w osod ar offeryn fel organ.

 

page37image41981008

 

29

1c.53 Fe’i cludwyd ar y Goets Fawr, a oedd yn danfon llythyrau o Lundain i Gaergybi. Dilynai’r Goets lwybr yr A5,54 a thrwy bentref Bethesda ar ei thaith. Golygai hyn fod y gwaith o archebu cerddoriaeth newydd ychydig mwy hwylus ar gyfer corau’r capeli. Wedi i’r copi ‘plygiad mawr’ gael ei derbyn, roedd angen i bwyllgor Côr Jerusalem gytuno ar ddull effeithiol o fynd ati i ddysgu’r gerddoriaeth. Cytunwyd ar gynnig un aelod i ddysgu rhan benodol o’r cyfanwaith, sef corws y Hallelujah.

Cynigodd Richard Parry, y Llywydd, i arweinydd pob llais cyfatebol fynd ati i gopïo’r gerddoriaeth at ddefnydd y llais hwnnw o fewn y côr - copi i’r soprano, alto, tenor ac i’r bas.55 Gofynnwyd i David Prichard ysgrifennu geiriau Cymraeg ar un corws penodol. Wedi iddo gyfieithu’r corws, a cholli oriau o gwsg o ganlyniad i hynny, rhoddai’r llyfr i arweinydd pob llais er mwyn iddynt ddechrau ar y gwaith copïo. Byddai Thomas Jones yn ‘pricio’56 y corws ar gyfer y bas, cyn anfon y sgôr ymlaen at William Thomas i bricio rhan y tenor. Wedi i William Thomas gwblhau ei waith copïo, byddai’n anfon y sgôr plygiad mawr ymlaen i Daniel Thomas bricio rhan yr altos. Wedi i Daniel Thomas orffen ei waith, dychwelwyd y sgôr i’r pwyllgor.

Y cam nesaf fyddai cynnal cyfarfodydd canu, i ddechrau’n brydlon am 7 o’r gloch yn y Capel.57 Dechreuid yr ymarferion gyda darlleniad o’r Beibl a gweddi. Wedi cyhoeddiad y llywydd o’r bwriad i ddechrau ar y gwaith o ddysgu’r Messiah, ymwahanai pob llais ac ymarfer ar eu pennau hunain mewn gwahanol rannau o’r Capel.58 Byddai’r soprano yn

53 ‘Caniadaeth y Cysegr: Papyr a Ddarllenwyd yn Nghymdeithas Lenyddol Jerusalem gan Mr John Davies (Eos Ogwen’, Y Gwyliwr, 2 Ebrill 1907, t.3. Yn yr erthygl dywedir i gopi ‘plygiad mawr’ gostio 1c 1s – mae’n debyg mai gwall oedd hyn.
54 Gair pobl Bethesda am ffordd yr A5 trwy’r pentref oedd y ‘Lôn Bost’.

55 Ni soniai ‘Eos Ogwen’ am arweinydd llais y soprano yn yr erthygl, a dynion hŷn oedd yn canu rhan yr alto yn ystod y cyfnod hwn.
56 Ystyr y term ‘pricio’ ydoedd i gopïo holl nodau’r gerddoriaeth i lyfr neu sgôr arall/glân.
57 ‘Caniadaeth y Cysegr: Papyr a Ddarllenwyd yn Nghymdeithas Lenyddol Jerusalem gan Mr John Davies (Eos Ogwen’, Y Gwyliwr, 2 Ebrill 1907, t.3.

58 Ibid.

 

page38image42042384

 

30

ymarfer mewn un ystafell, a’r alto, tenor a bas wedi’u gosod i ymarfer mewn gwahanol gorneli o’r Capel.

Gellir dychmygu’r gwahanol leisiau a’u harweinyddion yn ceisio cystadlu yn erbyn ei gilydd, golygfa sy’n ymddangos braidd yn gythryblus a di-drefn - ond roedd i bob adran ei fusnes ei hun, gyda phawb yn canolbwyntio ar gwblhau’r dasg. Ymhen amser byddai’r lleisiau’n dod ynghyd er mwyn ceisio cyfuno eu hymdrechion. Dyma un enghraifft o’r strwythur a fabwysiadwyd wedi’i roi ar waith, wrth i’r côr fynd ati i ddysgu cerddoriaeth newydd. Ni anghofiwyd am weithiau Cymreig, a pharheid i ddysgu a chanu anthemau ac oratorios o eiddo ‘Tanymarian’ a William Owen, ‘Prysgol’ hefyd.59

Ymdrinnir uchod â chanu Jerusalem yn ei ffurf gorawl. Fel sydd eisoes wedi’i awgrymu, newidiodd ffurf y canu yn Jerusalem ar ôl yr 20 mlynedd gyntaf, a fu’n gyfnod o ganu corawl llewyrchus yn y lle. Gyda’r datblygiadau grymus a fu i ganu’r capeli yng Nghymru yn ystod yr 1860au, daeth newid hefyd i natur y ganiadaeth yn Jerusalem. Amcan y symudiad hwn yn mhlith Methodistiaid ydoedd cael y cynulleidfaoedd oll i gydganu mawl y cysegr ac nid rhan o’r gynulleidfa.60

Yn sgil y datblygiadau hyn, aed ati i ddiddymu’r cymdeithasau canu, neu’r corau - gan gynnwys y côr yn Jerusalem. Awgrymai awdur y llawysgrif ar ‘Hanes Jerusalem, Bethesda am y 50 ml cyntaf’ ei siom wrth weld:

...côr mawr Jerusalem wedi chwalu yr anthemau peraidd a melus wedi peidio, a’r gynulleidfa fel wedi ei pharlysu.61

59 William Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon: Dosbarth Bethesda [V] (Caernarfon: Cyfarfod Misol Arfon, 1910), t.139.
60 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am y 50 ml cyntaf, t.89.
61 Ibid.

 

page39image113060208

 

31

Roedd baich ac enw da canu Jerusalem bellach yng ngofal y gynulleidfa. Gan wybod fod safonau côr y Capel hwn yn hynod uchel, roedd hi’n bwysig sicrhau fod y ffurf newydd ar ganu cynulleidfaol hefyd yn cyrraedd y safonau hyn. Er mwyn i ganu’r gynulleidfa gyrraedd y safonau uchel hyn penderfynwyd codi arweinyddion ar y ganiadaeth a oedd i’w gosod yn sedd fawr y Capel.

Yn dilyn y newidiadau syfrdanol hyn, penderfynodd Richard Parry roi gorau i’w waith fel un o’r rhai a oedd yn gyfrifol am y canu. Camodd John Parry a Morris Davies (Tanrhiw),62 dau o arweinyddion y côr i’r adwy gan gymryd gofal am y canu cynulleidfaol cynharaf a fu yn Jerusalem. Ar eu hôl hwy apwyntiwyd Henry G. Parry i’r swydd, ac yn ei ddilyn ef:

Bu y brodyr canlynol [wrth] y gwaith, rhai am dymor ac eraill yn parhau William Jns Roberts Tanybryn, Robert Jones Parry, John S. Williams, William Roberts Braich Melyn, John Davies (Eos Ogwen), John Roberts Braich Melyn, Hugh Ll. Roberts Pant.63

Er na chaiff dyddiadau pendant eu rhoi yma, bu’r arweinyddion uchod yn gweithredu rhwng yr 1860au ac 1893.64 Gellir adnabod enw Robert Parry fel aelod o bwyllgor Côr Jerusalem, a Henry G. Parry fel athro’r dosbarthiadau Tonic Sol-ffa. Mae enw ‘Eos Ogwen’ hefyd yn adnabyddus am ei waith fel arweinydd adran bas Côr Jerusalem, ac fel athro’rdosbarthiadau Hen Nodiant.

Cafwyd cyfnod llewyrchus o ganu corawl yng Nghapel Jerusalem yn ystod ei blynyddoedd cynnar. Bu gwaith John Parry, ‘Jerusalem’ yn arwyddocaol gan iddo gyflwyno cerddoriaeth newydd a mwy uchelgeisiol i’r côr, a dechrau ehangu gorwelion cerddorol ei

62 Llawysgrif Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am y 50 ml cyntaf, t.89. Dylid nodi yma mai’r un person yw Morris Davies (Braichmelyn) [a restrir ar dudalen 26] a Morris Davies (Tanrhiw).
63 Ibid., t.90.
64 Gellir cyfiawnahu’r blynyddoedd hyn oherwydd mai yn yr 1860au datblygodd canu cynulleidfaol, ac mai yn 1893 yr ysgrifenwyd y llawysgrif ar Jerusalem.

 

page40image113237312

 

32

aelodau. Cafwyd gwybodaeth arbennig yma ynglŷn â’r cynllun a fabwysiadwyd i ddysgu cerddoriaeth newydd yn Jerusalem, a oedd yn gyfuniad medrus o hyfforddiant y gwersi cerddoriaeth, a gwirfodd unigolion i gynorthwyo’r achos. Gwelwyd newid amlwg yng nghaniadaeth Jerusalem o’r corawl i’r cynulleidfaol, a’r golled enbyd bu i’r côr a’i swyn yngNghapel Jerusalem.

33

Pennod 3

‘Alawydd’ a’i gôr, ac Undeb Corawl Bethesda

‘Gorau arf, arf dysg.’ 34

Gwelwyd yn ystod y cyfnod hwn ym Methesda dwf mawr yn nifer cyfansoddwr a cherddorion yr ardal. Magwyd y cyfansoddwyr a’r cerddorion hyn ar aelwydydd cerddorol a oedd yn fannau allweddol ar gyfer gweithgaredd corawl yr ardal.

Y mae enw Robert Williams, Cae Aseth, yn ymddangos unwaith eto fel yr unigolyn a fu’n gyfrifol am y twf hwn mewn cerddorion a chyfansoddwyr. Y dosbarthiadau cerddoriaeth a sefydlwyd ganddo oedd yn gyfrifol am roi sylfaen gerddorol gadarn ar gyfer trigolion yr ardal. Yn ôl R. D. Griffith:

...a chodwyd to o gerddorion ynddi, fel William Owen, Prysgol (awdur y dôn “Pen Calfaria”), John Parry, Jerusalem, David Roberts (Alawydd), Asaph Llechid ac eraill, a thrwy eu llafur hwy a Thanymarian ac Eos Llechid, daeth Bethesda yn un o’r canolfannau cerddorol mwyaf pwysig yng Nghymru.1

Rhestrir uchod rhai enwau adnabyddus ym maes cyfansoddi Cymru, fel William Owen, ‘Prysgol’ ac ‘Eos Llechid’. Y mae enw un dyn o ddiddordeb penodol i’r ymchwil hwn, am ei waith mawr yn arwain a hyfforddi’r côr a fu’n weithredol yng Nghapel Cynulleidfaol Bethesda (Annibynwyr) - David Roberts, ‘Alawydd’.2

Cysylltir enw ‘Alawydd’ yn bennaf gyda’i waith fel cerddor a chyfansoddwr Cymreig amlwg yn y 19eg Ganrif. Bu ei enw ynghlwm â rhai o emynau mwyaf adnabyddus ein cenedl, fel Catherine sy’n parhau i ymddangos mewn llyfrau emyn-donau hyd heddiw.3 Cyfansoddodd sawl o anthem gysegredig, a beirniadwyd nifer ohonynt yn fuddugol yn eisteddfodau clodus 1851, 1852 ac 1853 Bethesda.4 Yn 1867 cyhoeddwyd Llyfr y Psalmau: yn nghydau Psalm-dônau Hen a Diweddar ganddo. Yn y gyfrol hon yr oedd tonau a

1 R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tt.57-58. 2 Mehefin 16eg 1820 – Mai 26ain 1872.
3 Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol, Caneuon Ffydd (Llandysul: Gwasg Gomer, 2001), t.856.
4 Gweler Atodiad 3 am enghraifft o ‘Anthem’ buddugol ‘Alawydd’ yn Eisteddfod Bethesda, 1851.

 

page43image113148528

 

35

gosodiadau o waith ‘Alawydd’ ei hun.5 Mawr hefyd oedd ei ddylanwad am ei gyfraniad i faes addysg gerddorol Cymru. Cyhoeddodd ddau argraffiad o’i Gramadeg Cerddoriaeth,6 cydymaith cerddoriaeth werthfawr a oedd wedi’i lunio yn y Gymraeg.

Dechreuodd ‘Alawydd’ fynychu’r gwersi cerddoriaeth a gynhelid yn y Carneddi yn 1832,7 pan yn 13 oed. Dywedir iddo ennill ychydig o fanteision addysg yn ysgol Llandegai pan yn 6 oed. Wedi hynny symudodd y teulu i fyw i Gae’r Berllan,8 a derbyniodd ‘Alawydd’ ei addysg yn ysgolion Carneddi a Llanllechid.9 Bychan oedd cyflog y tad fel gof yn Chwarel y Penrhyn a gorfu i ‘Alawydd’ ddechrau gweithio yn y chwarel yn 11 oed.10

Ymddengys nad oedd ‘Alawydd’ yn gerddor naturiol pan yn ifanc. Dywedodd Griffith Rowlands ‘Asaph’11 amdano:

Ni welem yn y dechreu fawr o arwyddion cerddor ynddo; lled araf ac anniben oedd i ddysgu am amser maith; gwelsom aml un yn tra-ragori arno.12

Serch hynny, roedd ‘Alawydd’ yn ŵr penderfynol. Roedd yr elfen hon yn fawr yn ei ymdrechion a’i lwyddiannau. 13 Dywedir iddo ymdrechu cymaint ar brydiau ‘nes byddai ei chwys yn disgyn yn ddafnau oddiwrtho i’r llawr’.14 Y natur ddiwyro i’w bersonoliaeth oedd yn gyfrifol am ei ‘fath fuddugoliaeth fel cerddor.’

5 M. O. Jones, Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig, (Caerdydd: D. Duncan, 1890), tt.108-109. 6 David Roberts, Gramadeg Cerddoriaeth (Gwrecsam: Hughes a’i Fab, 1848).
7 Griffith Rowlands, ‘Alawydd Bethesda’, Y Dysgedydd (1875), 100.
8 Yr enw ar y rhes o fythynod hyn erbyn heddiw yw Caerberllan.

9 R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth ym Methesda – Ddoe: Llith II’, Y Cerddor (Ebrill 1930), 36. 10 R. D. Griffith, ‘Hen Gerddorion Llanllechid a Llandegai’, Y Cerddor (Chwefror 1915), 16. 11 Griffith Rowlands, ‘Asaph’. 1807-1889.
12 Griffith Rowlands, ‘Alawydd Bethesda’, Y Dysgedydd (1875), 100.
13 Ibid.
14 Ibid.

 

page44image112822720

 

36

 

page45image113128032

 

Ffigwr 4: David Roberts, ‘Alawydd’.

Ffigwr 5: Griffith Rowlands, ‘Asaph’.

Aelodau o Gapel Cynulleidfaol Bethesda (Annibynwyr) oedd David Roberts, ‘Alawydd’ a’i rieni. Yn ogystal â derbyn hyfforddiant yn nosbarthiadau cerddoriaeth y Carneddi, dechreuodd fynychu dosbarthiadau cerddoriaeth ‘Asaph’ yng Nghapel Bethesda.15

15 R. D. Griffith, ‘Hen Gerddorion Llanllechid a Llandegai’, Y Cerddor (Gorffennaf 1914), 76. 37

 

page45image113123664

 

 

page45image113124288

 

Arweinydd y canu a chôr y capel ydoedd ‘Asaph’, cerddor da a gŵr craff a charedig, ac yn fwy na pharod i gynorthwyo cerddorion ifanc.

‘Asaph’ oedd y person cyntaf i gydnabod a gwerthfawrogi gallu a dawn ‘Alawydd’ fel cerddor ifanc, yn sgil y dosbarthiadau a gynhelid ganddo yn y Capel. Fel canlyniad, erfyniodd yn daer ar ‘Alawydd’ i’w gynorthwyo, a chyd-arwain y canu. Yn y dechrau roedd ymgais yr athro i berswadio ei ddisgybl yn ofer,16 gan fod ‘Alawydd’ yn gyndyn o gymryd yr awenau fel arweinydd y canu tra bod gŵr ‘o allu Asaph’17 yn llenwi’r swydd.

Yn y pen draw llwyddodd ‘Asaph’ i berswadio ‘Alawydd’ helpu arwain côr y capel. Fodd bynnag, parhâi’r disgybl i wrthod y swydd o arwain y canu, a chadwyd yr athro yn ei swydd. Roedd ‘Alawydd’ yn ddyn ifanc 22 mlwydd oed pan ymgymerodd â’r gwaith o arwain Côr Capel Bethesda.18

His first great engine of advancement was the Bethesda Chapel Choir, which became the working man's choir of North Wales, and all know that this same body of singers was the means of relieving many chapels, schools, &c., of hundreds of pounds' debt, without taking a penny-piece for its servioes, merely being paid its expenses.19

Yn fuan iawn gellid darganfod tystiolaeth am natur ‘Alawydd’ fel cerddor gweithgar a phenderfynol. Sefydlodd ysgol nos gerddorol a gynhelid ddwywaith yr wythnos,20 a lluniodd gyfres o ymarferion cerddorol21 at wasanaeth disgyblion ei ddosbarthiadau. Y mae’n debyg iawn mai cyfuniad o natur benderfynol a fu’n gyfrifol am lwyddiant ‘Alawydd’ a’r côr yng Nghapel Bethesda.

16 William Parry (Llechidon), Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai (Bangor: J. Mendus Jones, 1967), tt.64-65.
17 R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth ym Methesda – Ddoe: Llith II’, Y Cerddor (Ebrill 1930), 37.
18 Ibid.

19 ‘Mr David Roberts “Alawydd” of Bethesda’, North Wales Chronicle, 3 Mai 1890, p.3.
20 R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth ym Methesda – Ddoe: Llith II’, Y Cerddor (Ebrill 1930), 37. 21 R. D. Griffith, ‘Hen Gerddorion Llanllechid a Llandegai’, Y Cerddor (Chwefror 1915), 16.

 

page46image112770496

 

38

 

page47image113128448

 

Ffigwr 6: Capel Cynulleidfaol Bethesda (Annibynwyr).

Ychydig iawn o arweiniad cerddorol oedd ar gael yn ardal Bethesda yn ystod y cyfnod hwn, oddeutu 1842. Gwyddys am yr ymdrechion i gynnal dosbarthiadau yn y Carneddi, yng Nghapel Bethesda, ac yn Jerusalem wedi sefydlu y capel hwnnw yn Hydref 1842. Tua’r adeg yma, ar ddechrau’r 1840au, penderfynodd ‘Alawydd’ ddechrau llunio ei wersi cerddorol. Roedd ei wersi yn gyfryngau a ddaeth i ddysgu theori ac elfennau cerddoriaeth i’r gymdogaeth leol.22 Ni fyddai ‘Alawydd’ erioed wedi dychmygu wrth lunio’r gwersi hyn pa mor allweddol fu ei waith yn yr ymdrech i ddysgu cerddoriaeth i gymdogaeth a chenedl gyfan.

22 R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth ym Methesda – Ddoe: Llith II’, Y Cerddor (Ebrill 1930), 37. 39

 

page47image113123872

 

Dangoswyd y gwersi i ddau o feistri cerddorol Cymru’r cyfnod, John Ambrose Lloyd a ‘Tanymarian’, yn ystod eu hymweliad â’r ardal. Roedd y gwŷr hyn yn hynod eu clod am wersi a gwaith ‘Alawydd’ fel hyfforddwr cerddorol, ac anogodd y ddau’n frwd arno i gyhoeddi’r gwersi mewn cyfrol. Gweithredodd ‘Alawydd’ ar yr awgrymiad, acymddangosodd ffrwyth ei lafur yn 1848 pan gyhoeddwyd y gyfrol Gramadeg Cerddoriaeth. Yn rhagymadrodd yr argraffiad cyntaf dywed ‘Alawydd’:

Cymerwyd y gorchwyl o gyfansoddi y Gramadeg Cerddoriaeth hwn, heb un bwriad i’w gyhoeddi; ond i fod yn wersi ysgrifenedig i wahanol ddosbarthiadau cantorion Bethesda... Cyhoeddwyd ef ar gais cantorion Bethesda.23

Rhennid y gyfrol yn dair rhan, a phob rhan yn canolbwyntio ar un elfen benodol: Rhan 1 – Nodiant cerddoriaeth; Rhan 2 – Cynghanedd; Rhan 3 – Cyfansoddiant. Dywedodd ‘Alawydd’:

Yn y drydedd ran, eglurwyd pynciau cywreiniaf ac ardderchocaf cerddoriaeth, y rhai na chafwyd un eglurhad arnynt yn yr iaith Gymraeg o’r blaen.24

Yn y gwaith ceir brawf o feistrolaeth ‘Alawydd’ ar ei faes fel cerddor dawnus a gwybodus. Wrth ymdrin â’r elfennau cerddorol, cyfeiriai ‘Alawydd’ yn dragwyddol at brif weithiau meistri’r cyfnod. Defnyddid enghreifftiau o’u gweithiau fel sail i hyfforddiant y Gramadeg oherwydd:

Meddyliwyd am ddefnyddio yr esiamplau oll yn wreiddiol er eglurio y sylwadau; ond dewiswyd yn hytrach gymeryd llawer o weithiau ein prif feistriaid cerddorol, am y byddant, yn ddiameu, o uwch awdurdod a dylanwad...25

23 David Roberts, Gramadeg Cerddoriaeth (Gwrecsam: Hughes a’i Fab, 1862), ‘Rhagymadrodd. 24 Ibid.
25 Ibid.

 

page48image112884144

 

40

 

page49image112904224

 

Ffigwr 7: David Roberts, ‘Alawydd’, Gramadeg Cerddoriaeth. Tudalen gynnwys Rhan 3.

41

 

page50image112528848

 

Eng 3.1: Tudalen o gynnwys Gramadeg Cerddoriaeth. Gellir gweld yma enghreifftiau o weithiau’r cyfansoddwyr a restrwyd yn flaenorol.

Gwelir uchod yn yr adran ‘Defnyddiad y Cordiau’26 nifer o enghreiffitau cerddorol gan y cyfansoddwyr canlynol – Bach, Mozart, Beethoven, Handel, Haydn, Cherubini ac A. B. Marx. Defnyddiwyd yn ogystal rhai enghreifftiau o Ystorm Tiberias ‘Tanymarian’. Nid oedd ‘Alawydd’ am i’r unig oratorio Gymreig gael ei esgeuluso o’i gyfrol.27

26 David Roberts, Gramadeg Cerddoriaeth (Gwrecsam: Hughes a’i Fab, 1862), t.67. 27 Ibid., ‘Rhagymadrodd’.

 

page50image112529056

 

42

 

page51image112562448

 

Eng 3.2: Tudalen arall o gynnwys Gramadeg Cerddoriaeth. Gellir gweld enghreifftiau o waith Ystorm Tiberias yn cael eu defnyddio yma.

Dechreuodd yr hyfforddiant cerddorol a gynigodd ‘Alawydd’ ar raddfa fach, yn ei ymdrechion i ddysgu’r gelfyddyd yn ei ddosbarthiadau cerddoriaeth yng Nghapel Bethesda. Yn dilyn cyhoeddiad y Gramadeg Cerddoriaeth lledaenodd ei enw a’i ddylanwad ar draws Cymru gyfan, a daeth ei wybodaeth yn arlwy cerddorol ar gyfer cerddorion y genedl. Derbyniodd y cyhoeddiad cyntaf cylchrediad eang iawn,28 ac o ganlyniad i’r gofyn mawr am y gwaith cyhoeddwyd ailargraffiad yn 1862.

28 Gareth Williams, Valleys of Song (Cardiff: University of Wales Press, 1992), t.23. 43

 

page51image112562656

 

Y prif reswm am lwyddiant y gwaith oedd y diffyg gwerslyfrau cerddoriaeth a fodolai yn yr iaith Gymraeg, yn enwedig ym mhellafoedd gwledig Gogledd Cymru. Yr unig lawlyfr cerddorol arall i’w gyhoeddi gan frodor o ardal Bethesda oedd Mynegfys Cerddorol Robert Moses yn y flwyddyn 1844. Fodd bynnag, nid yw’r llawlyfr hwn yn llwyddo i ymdrin agunrhyw ddeunydd ar theori ac elfennau cerddoriaeth. Yn hytrach, trafodir cerddoriaeth mewn cyd-destun diwinyddol gan gyfeirio at rannau o’r Beibl er mwyn cyfiawnhau dadleuon ynglŷn â sut dylid canu mawl - ac am hynny gellir dadlau mai cynnwys diwinyddol yn unig sy’n sail i’r gyfrol.29 Roedd diffyg unrhyw fath o ddeunydd cerddorol yn golygu nad oedd modd ystyried y Mynegfys Cerddorol o fod yn waith a oedd yn cynnig hyfforddiant cerddorol. Mae’n sicr i ‘Alawydd’ sylweddoli ar ddiffyg llawlyfr cerddorol at wasanaeth ei ardal, ac nid oes amheuaeth i hyn fod yn ffactor amlwg yn ei benderfyniad i gyhoeddi’i Ramadeg. Dywedodd Emlyn Evans yn rhifyn Ebrill 1901 Y Cerddor fod Gramadeg Cerddoriaeth ‘Alawydd’:

...yn rhoddi i’r Cymro wybodaeth a chyfarwyddyd mewn pyngciau na chyffyrddid â hwy o’r blaen o gwbl yn ei iaith ei hun.30

Cyfrol arall, er ychydig yn llai llwyddiannus o waith ‘Alawydd’ oedd Llyfr y Psalmau a gyhoeddwyd ganddo yn 1867. Cynhwysa’r gyfrol 150 o psalmau, gyda 28 o’r tonau hynny o waith ‘Alawydd’ ei hun, a 38 wedi’u trefnu ganddo. Fel yr awgrymir yn llythyrau rhwng ‘Alawydd’ a ‘Tanymarian’, y prif reswm am fethiant Llyfr y Psalmau ‘Alawydd’ oedd ygystadleuaeth a fodolai rhwng gwahanol gyfansoddwyr i gyhoeddi casgliadau o donau. Cyhoeddodd ‘Tanymarian’ ddetholiad o alawon yn ei gyfrol Roedd yn y gyfrol nifer o psalmau eraill, rhai wedi’u cyfansoddi gan gyfansoddwyr Cymreig fel John Ambrose Lloyd,

29 Gweler Atodiad 4 am enghraifft o gynnwys y llawlyfr.
30 Emlyn Evans, ‘Cerddoriaeth Gymreig yn y Ganrif Ddiwethaf: Rhan II’ yn Y Cerddor (Ebrill 1901), 34.

 

page52image112486352

 

44

‘Tanymarian’ ac ‘Asaph Bethesda’.31 Caiff tonau eraill gan gyfansoddwyr Ewropeaidd eu cynnwys yma hefyd, fel gwaith Handel, Mendelssohn a Haydn. Diddorol yw nodi hefyd bod tôn o waith ‘Ap Alawydd’, mab mae’n debyg, yn ymddangos yn y gyfrol.32 Mae holl eiriau’r tonau yn y Gymraeg, ac yn dystiolaeth o benderfyniad ‘Alawydd’ i lunio cyfrol arall at ddefnydd Cymry Cymraeg.

Roedd cyhoeddiad y Gramadeg Cerddoriaeth a’r Llyfr Psalmau yn brawf o benderfynoldeb ‘Alawydd’ i rannu ei wybodaeth, a chefnogi cerddorion oedd wedi’u hamddifadu o hyfforddiant cerddorol. Roedd yr agwedd yma’n fawr ym mhersonoliaeth ei athro, ‘Asaph’, hefyd. Rhoddodd gyfle gwerthfawr iawn i ‘Alawydd’ gael arwain y côr yng Nghapel Bethesda. Yn yr un modd â’i athro, roedd ‘Alawydd’ yn awyddus i gynnig cyfleoedd ar gyfer cerddorion ifanc yr ardal.

Cynhaliwyd cyngerdd yng Nghapel Jerusalem ym Medi 1850 er mwyn cynorthwyo cyfansoddwr o’r ardal, William Owen, ‘Prysgol’, i gyhoeddi ei gyfansoddiadau mewn cyfrol. Yn bresennol roedd corau Capel Bethesda, Engedi (Caernarfon) a Rehoboth (Llanberis).33 Roedd côr Bethesda, o dan arweiniad ‘Alawydd’, yn niferu 90. O ystyried hyn, mae’n bosib iawn fod Côr Bethesda wedi cynnwys aelodau sawl côr o’r ardal. Rhoddwyd holl dderbyniadau’r cyngerdd at gynorthwyo achos ‘Prysgol’.

Gyda chymorth ‘Alawydd’, ei gôr a thrigolion Bethesda, cyhoeddwyd y gyfrol, Y Perl Cerddorol: yn cynnwys tonau ac anthemau, cysegredig a moesol, yn 1852. Gwerthwyd 3,000 copi o’r argraffiad hwn, a 4,000 copi ychwanegol o’r argraffiad Sol-ffa a gyhoeddwyd yn 1886.34 Yn achos y cyngerdd uchod gwelwyd parodrwydd ‘Alawydd’, a chymdeithas yr

31 Cyfeirid at Griffith Rowlands ‘Asaph’ fel ‘Asaph Bethesda’ ar brydiau.
32 David Roberts, Llyfr y Psalmau yn Nghyd â Psalmdonau Hen a Diweddar (Bethesda: D. Roberts, 1867). Gweler Psalm 133 (Myfanwy).
33 ‘Bethesda’, Carnarvon and Denbigh Herald, 28 September 1850, p.4.
34 M. O. Jones, Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig, (Caerdydd: D. Duncan, 1890), tt.88-89.

 

page53image112486768

 

45

ardal, i ddod ynghyd a chefnogi cerddorion eu hardal. Rhoddwyd llwyfan i ‘Prysgol’ a’i gerddoriaeth o ganlyniad i garedigrwydd ac anogaeth y trigolion, agwedd wych iawn a fu ar y gymdeithas gerddorol, arbennig hon.

Ymddengys i ‘Alawydd’ gymryd gofal arbennig o’r anthemau a genid gan Gôr Capel Bethesda yn ystod y 30 mlynedd bu’n gyfrifol am ei rhengoedd. Fel yng Nghapel Jerusalem, dysgid nifer fawr o gampweithiau clasurol Ewropeaidd y cyfnod, gan gynnwys unwaith eto, y Messiah, Samson, Judas Maccabeus, Israel in Egypt a’r Creation (Haydn). Er i’r côr ddysgu’r Creation, ymddengys na chafodd y gwaith erioed ei berfformio’n gyhoeddus.35 Yn ogystal â dysgu’r gweithiau adnabyddus hyn, fe berfformiwyd gan y côr rai anthemau ac oratorios a gyfansoddwyd gan gyfansoddwyr brodorol o Gymru, fel ‘Cantawd Llys Arthur’ (Joseph David Jones), Ystorm Tiberias (‘Tanymarian’), ‘Cantawd Tywysog Cymru’ (‘Owain Alaw’) a ‘Gwarchaead Gwyr Harlech’ (‘Eos Llechid’).

Y cyngerdd cyntaf gan Gôr Capel Bethesda i gael ei gofnodi yn y wasg oedd cyngerdd blynyddol y côr a gynhaliwyd ar Mai 17eg 1849.36 Roedd y cyngerdd yn gymysgedd o gerddoriaeth – rhai o weithiau’r meistri, gan gynnwys corws y Hallelujah gan Handel ac ‘O! How Delightfully’ gan Mozart, a gweithiau eraill gan gyfansoddwyr Saesneg fel ‘The Mariners’ a ‘From This Roof my Shepeard Went’ (Dr John Callcott) a ‘Here in Cool Grot’ (Iarll Mornington).

Yn ogystal, rhoddodd ‘Alawydd’ ddarlith ar yr arddull ffiwg. Traddodwyd y ddarlith mewn 4 rhan – ‘I: Subject, II: Answer, III: Groundwork, IV: Essential Division’ neu ‘viz; I: Exposition, II: Episode, III: Stretto, IV: Cannon.’37 Defnyddiwyd ganddo’r gerddoriaeth

35 W. J. Parry, Cyfrol Jiwbili Eglwys Bethesda Arfon (Dolgellau: W. Hughes a’i Fab, 1900), t.96. 36 ‘North Wales: Bethesda – Concert’, The Principality, 1 Mehefin 1849, p.8.
37 Ibid.

 

page54image112903808

 

46

ganlynol i egluro elfennau’r arddull – ‘And He Shall Reign’ o gorws y Hallelujah, a ‘Non Nobis’ gan Byrd.

Y mae hi’n addas tynnu sylw at y ddarlith hon a roddodd ‘Alawydd’ oherwydd ei bod hi’n ymddangos braidd yn annisgwyl i’r math yma o destun dderbyn sylw manwl mewn cyngerdd blynyddol. Yn ogystal, mae’r ddarlith yn adlewyrchiad o allu cerddorol ‘Alawydd’ i egluro’r math yma o wybodaeth i aelodau cyffredin o’r gymdeithas, ac hefyd yn brawf o ddiddordeb a gallu cerddorol y gymdeithas ym Methesda i feithrin gwybodaeth ynglŷn â gwahanol arddulliau cerddorol. Traddodwyd y ddarlith hon flwyddyn wedi i ‘Alawydd’ gyhoeddi argraffiad cyntaf y Gramadeg Cerddoriaeth yn 1848.

Rhaid sôn yma ynglŷn ag arloesedd Côr Capel Bethesda o dan arweiniad ‘Alawydd’. O dan ei arweiniad perfformiodd y côr nifer o anthemau ac oratorios, y rhai mwyaf adnabyddus ohonynt wedi’u rhestru’n flaenorol. Mewn rhai achosion ymddengys i Gôr Bethesda berfformio gweithiau am y tro cyntaf erioed yng Nghymru. Dywedid mai dyna oedd yr achos pan rhoddodd ‘Alawydd’ a’i gôr berfformiad o oratorio y Messiah ar Chwefror 27ain 1859, mewn cyngerdd 3 awr o hyd yng Nghapel Bethesda.38 Amcangyfrifwyd bod 2,000 o gynulleidfa’n bresennol. Cyflwynwyd oriawr aur gwerth 20 ceiniog i ‘Alawydd’ yn y cyfarfod am ‘ei lafur gyda chaniadaeth y cyssegr am yr ugain mlynedd a aethant heibio’.39Dywedwyd amdano:

Mr Roberts deserves praise for his labours and ability. The choruses “He trusted in God," and" Lift up your heads," were far above mediocrity, and show what may be done by an intelligent country choir, conducted by an energetic leader.40

38 ‘Handel’s Oratorio “The Messiah” at Bethesda, The North Wales Chronicle, 29 Ionawr 1859, p.8.
39 ‘Cyfarfodydd Crefyddol, Lleynddol &c: Bethesda – Y Messiah Oratorio, Baner ac Amserau Cymru, 26 Ionawr 1859, t.11.
40 ‘Handel’s Oratorio “The Messiah” at Bethesda, The North Wales Chronicle, 29 Ionawr 1859, p.8.

 

page55image112283504

 

47

Ymddengys hefyd mai Côr Bethesda o dan arweiniad ‘Alawydd’ oedd y côr Cymreig cyntaf i roi perfformiad o’r oratorio Samson gan Handel. Cynhaliwyd y cyfarfod yng nghapel cynulleidfaol Bethesda ar Gorffennaf 25ain 1861.41

Byddai’n anaddas trafod corau ardal Bethesda heb fynd i sôn am un oratorio arbennig. Cafodd yr oratorio Ystorm Tiberias ei pherfformio’n gyson gan gorau’r ardal. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan ‘Tanymarian’, ac roedd y gwaith yn hynod o arwyddocaol yng Nghymru gan mai dyma’r oratorio gyntaf i gael ei gyfansoddi gan gyfansoddwr Cymreig.42 Ar lawysgrif wreiddiol o law ‘Tanymarian’ nodir i’r gwaith cyfansoddi ddechrau ar Ionawr 28ain 1851, a gorffen ar Mai 28ain 1852.43

Y cofnod cynharaf o berfformiad y gwaith yn ardal Bethesda yw mewn cyngerdd ar Ionawr 28ain 1853, yng nghapel cynulleidafol Bethesda.44 Cynhaliwyd y cyngerdd dim ond 7 mis wedi i ‘Tanymarian’ gwblhau’r cyfanwaith, ac nid oedd y gwaith eto wedi’i chyhoeddi.45 Arweinwyd y perfformiad gan ‘Tanymarian’, a datganodd yntau ‘Bass Air’ a ‘Tenor Air’. Roedd cyfanswm 32 eitem y rhaglen cyngerdd yn cynnwys: 10 eitem unawdol ar gyfer Tenor, 4 eitem unawdol ar gyfer Bas, 10 eitem ar gyfer y Corws (gan gynnwys 1 Coral), 3 eitem ar gyfer Unawydd a Chorws, 2 Bedwarawd, 1 Trio, 1 Deuawd ar gyfer Trebles ac 1 Recit.46 Datganwyd yr oratorio ar sawl achlysur yn ystod ail hanner y 19eg Ganrif wedi’rperfformiad cyntaf yma.

41 Cyfarfodydd Crefyddol, Llenyddol &c: Bethesda’, Baner ac Amserau Cymru, 31 Gorffennaf 1861, t.10.
42 ‘Ystorm Tiberias – A Welsh Oratorio’, The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, p.28 January 1853, p.3.
43 Llawysgrif BMSS III 2212, Archifdy Prifysgol Bangor.
44 ‘Ystorm Tiberias – A Welsh Oratorio’, The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 28 January 1853, p.3.
45 Ibid.
46 Gweler Atodiad 5.

 

page56image112687536

 

48

Soniwyd eisoes am gôr perthynol i Gapel Bethesda yn canu anthemau ac oratorios o dan arweiniad ‘Alawydd’. Er i’r côr ymgymryd â’r gweithiau hyn, bu’r côr hefyd yn rhan o gymdeithas gorawl a sefydlwyd ym Methesda yng nghanol y 19eg Ganrif. Yr enw ar y gymdeithas oedd Undeb Corawl Bethesda. Fel y bu’r achos yn nosbarthiadau cerddoriaeth yCarneddi, ni chyfyngwyd gweithgaredd corawl yr Undeb i un capel neu un eglwys yn unig. Bu nifer lluosog o gorau capeli ac eglwysi Bethesda a’r ardal yn rhan o’r gymdeithas gorawl grefyddol yma, o bob enwad crefyddol. Roedd y rhain yn cynnwys corau Jerusalem, Carneddi, Brynteg, Carmel, Siloam, Shiloh, eglwysi Llanllechid, Glanogwen, St Ann’s a Llandegai. Fel canlyniad roedd yr aelodau’n cynnwys cerddorion a chantorion mwyaf safonol yr ardal. Dywedid am y gymdeithas hon:

Pan y bydd cantwr yn cynnig ei hun fel aelod o'r côr, ni ofynnir byth i ba enwad y mae yn perthyn. Os bydd yn feddiannol ar lais a thalent gerddorol, derbynnir ef yn aelod ar unwaith.47

Bu ‘Alawydd’ yn weithredol iawn yn y gwaith o hyfforddi corau Annibynwyr y Gymdeithas hon. Roedd ‘Eos Llechid’, John Parry ‘Jerusalem’ a William Griffith (Tregarth) hefyd yn gyfrifol am hyfforddi corau’r Gymdeithas - ‘Eos Llechid’ yn hyfforddi corau’r eglwys, John Parry yn hyfforddi corau’r Methodistiaid Calfinaidd a William Griffith yn hyfforddi corau’r Wesleaid.

Nid yw Undeb Corawl yma i’w chymysgu â’r Church Choral Society. Roedd y Church Choral Society wedi’i llunio o gorau eglwysi’r ardal - Llanllechid, Glanogwen, St Ann’s a Llandygai. Perfformiodd y Gymdeithas, o dan arweiniad ‘Eos Llechid’, oratorio'r Messiah ar gyfer y Frenhines Fictoria yng Nghastell Penrhyn ar Hydref 16eg 1859. Yn dilyn

47 ‘Dadganiad Mawreddog ar Dreithalaw y Parch E. Stephens (Tanymarian) – “Ystorm Tiberias”, Baner ac Amserau Cymru, 30 Hydref 1872, t.5.

 

page57image112422688

 

49

y perfformiad cyflwynodd Fictoria gwpan arian wedi’i chyflwyno i Gymdeithas Gorawl Chwareli y Penrhyn.48 Nid oedd Fictoria’n ymwybodol o’r ddwy gymdeithas gorawl (y capeli a’r eglwysi) a fodolai ym Methesda yn ystod ei hymweliad â’r ardal. Fel canlyniad cyflwynwyd y gwpan arian hon fel arwydd o ffafr frenhinol i’r gymdogaeth gyfan am ddiwyllio’r gelfyddyd i’r fath raddau eithriadol.

Mae’n debyg mai’r cyflwyniad hwn oedd yn gyfrifol am achosi corau’r capeli a’r eglwysi i ddod at ei gilydd i ffurfio fel Undeb Corawl Bethesda. Cyflwynwyd y gwpan arian mewn cyfarfod yng Nghapel Cynulleidfaol Bethesda ar y 7fed o Ragfyr 1859.49 Roedd y corau’n cynnwys St Ann’s, Llanllechid, Glanogwen a Llandygai (yr eglwysi), Bethesda (Annibynwyr), Jerusalem a’r Carneddi (M.C.), Siloam a Shiloh (Wesleaid). Yn llywio’r cyfan roedd ‘Eos Llechid’ ac ‘Alawydd’. Dywedir i gynulleidfa o 2,500 ymgynnull ar gyfer yr achlysur. Fe berfformiwyd gan yr Undeb y darnau canlynol – ‘And the Glory of the Lord’, ‘And He Shall Purify’, ‘For unto us a Child is Born’, ‘Behold the Lamb of God’ a chorws y Hallelujah.50

Dyma felly blannu hedyn y Gymdeithas, a fu fwyaf gweithredol yn ystod hanner olaf y 19eg Ganrif. Er mai corau’r addoldai oedd yn sylfaen i’r Gymdeithas, mewn digwyddiadau a chyngherddau cyhoeddus y gwelwyd hi’n perfformio gan amlaf. Cynhaliwyd un o’i chyngherddau cyntaf ar Ebrill 19eg 1860, yng Nghapel Cynulleidfaol Bethesda.51 Nid oedd y côr unedig yn gyflawn, gan mai corau Bethesda, Jerusalem, y Carneddi a Shiloh yn unig oedd yn bresennol. Arweinwyd y côr gan ‘Tanymarian’. Cenid gweithiau a oedd yn prysur dyfu i

48 ‘Arwydd o Ffafr Frenhinol i Gymdeithas Gorawl Chwareli y Penrhyn’, Baner ac Amserau Cymru, 14 Rhagfyr 1859, t.9
49 ‘A Mark of Royal favour to the Choral Societies of the Penrhyn Slate Quarry’, The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 10 December 1859, p.8

50 Ibid.
51 ‘Bethesda: Concert’, The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, 28 April 1860, p.7.

 

page58image112357776

 

50

fod yn rhai poblogaidd ymysg corau ardal Bethesda - darnau detholedig o’r Messiah gan Handel ac o Ystorm Tiberias, o waith ‘Tanymarian’.

Ffigwr 8: Braslun o berfformiad y Church Choral Society yng Nghastell Penrhyn, Hydref 1859.

 

page59image112357568

 

51

Mae’n debyg mai’r perfformiad mwyaf syfrdanol y bu Undeb Corawl Bethesda yn gyfrifol amdano oedd y datganiad mawreddog o’r Messiah ar lethrau Chwarel y Penrhyn yn Awst 1860. Menter newydd oedd hon, ac o ystyried y tywydd braf, y mynediad am ddim ac enwogrwydd yr ardal am ei chorau, roedd y disgwyliadau’n uchel. Cyfrifwyd bod cyfanswm o 10,000-15,000 o bobl wedi ymgynnull yn y chwarel i dystio’r cyfan, yn blant ac yn oedolion. Dywedwyd nad oedd un bwthyn yn yr ardal nad oedd wedi’i gynrychioli ymysg y gwrandawyr, a chaewyd holl siopau’r ardal er mwyn galluogi i bawb fod yn bresennol yn yr achlysur arbennig hwn. Yn ôl y papur, cafodd holl weithwyr y Penrhyn ddiwrnod o’u gwaith, ac arian ychwanegol ar ben eu cyflog i ddathlu’r achlysur. Yn bresennol hefyd roedd y Penhyn Volunteers, tua 200 ohonynt yn eu gwisg filwrol. Ychwanegodd eu presenoldeb yn fawr at yr adloniant.

Roedd y côr wedi’i ffurfio o gorau eglwysi Llanllechid, St Ann’s Glanogwen a Llandegai, ynghyd a chorau capeli Carmel, Llan,52 Jerusalem, Bethesda, Shiloh, Carneddi a Siloam. Rhifai’r côr arferol 500 mewn nifer, ond ychydig dros 400 oedd yn bresennol y prynhawn hwnnw. Gwasanaethodd Evan Thomas (St Ann’s)53 a Thomas Jones (Llandegai)54 ar yr harmoniwm, a chyfeiliwyd y cyfan gan Seindorf Bres y Penrhyn.

Gosodwyd y côr mewn ffurf sgwâr, gyda’r ‘treble voices’ ar un ochr, a’r alto, tenor a bas yn cwblhau’r sgwâr. Safai’r harmoniums y naill ochr a’r llall i’r arweinyddion, a’r seindorf wedi’i lleoli y tu ôl i’r sgwâr o gantorion. Eisteddai’r gynulleidfa ar dair ponc amgylchynol. Yr arweinyddion oedd ‘Eos Llechid’, John Parry ‘Jerusalem’, William

52 Enw arall ar Gapel Llan oedd Capel Peniel, Llanllechid.
53 William Parry, Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai (Bangor: J. Mendus Jones, 1868), t.74.
54 Ibid., t.69.

 

page60image112585696

 

52

Williams ac ‘Alawydd’. Cyfanswm yr eitemau oedd 16, ac arweinid 4 eitem gan bob arweinydd fel hyn:

Eos Llechid - And the Glory of the Lord, And He Shall Purify, O Thou That Tellest, For Unto Us a Child is Born. John Parry - Glory to God, Behold the Lamb of God, All we Like Sheep, Lift up Your Heads.

William Williams - "Let all the Angels of God, The Lord Gave the Word, Their Sound is Gone Out, Let us Break Their Bonds Asunder.
Alawydd - Since by Man Came Death, Worthy is the Lamb, Amen Chorus, Hallelujah Chorus.

Ar gais Y Cyrnol Anrhydeddus Douglas-Pennant’ canodd y côr ‘The Old Hundred’ gan Louis Bourgeois, o dan arweiniad ‘Alawydd’, a dywedid i’r gân hon fod yn deilwng ac addas i ddod â’r gweithgareddau i ben.

Roedd y perfformiad yma’n uchafbwynt priodol iawn i waith arweinyddion canu ardal Bethesda. O ystyried nad oedd yna unrhyw ganu yn yr ardal tan yr 1820au mae’n anodd credu’r holl oriau o waith caled a fuddsoddwyd gan y cerddorion i’w galluogi i ganu cerddoriaeth o safon y Messiah. Roedd yr achlysur ei hun hefyd yn olygfa arbennig iawn, ac mae’n sicr ei bod hi heddiw’n amhosib dychmygu’r holl waith ac ymdrech yr oedd ei angen i gyflwyno’r perfformiad eithriadol hwn o’r Messiah yn Chwarel y Penrhyn.

Gwyddys bellach am berfformiadau Côr Capel Bethesda yn canu’r oratorio Ystorm Tiberias gan ‘Tanymarian’. Roedd y gwaith yma’n ffefryn amlwg hefyd o fewn repertoire Undeb Corawl Bethesda, a rhoddwyd sawl perfformiad o’r oratorio gan yr Undeb ar sawl achlysur. Rhoddwyd un perfformiad o’r gwaith ar Fedi 20fed 1858, ymhle ymgynullodd dros 2,000 o gynulleidfa yng nghapel y Tabernacl ym Mangor.55 Roedd corau Llanllechid,

55 ‘Cyfarfodydd Crefyddol, Llenyddol &c: Bangor’, Baner ac Amserau Cymru, 29 Medi 1858, t.11. 53

 

page61image112585488

 

Glanogwen, St Ann’s, Jerusalem, Carneddi a Bethesda yn gwasanaethu’r tro hwn, wedi’u harwain gan ‘Tanymarian’. Dywedwyd mai dyma’r cyfarfod cerddorol mwyaf a gynhaliwyd ym Mangor erioed.56

Bu dau berfformiad mawreddog o’r gwaith yng nghapel cynulleidfaol Bethesda yn ystod y 19eg Ganrif, y cyntaf ar Mai 20fed 1858.57 Dywedwyd i’r cantorion rifo 300 mewn nifer, a’r cantorion hyn wedi’i ffurfio’n bennaf o 3 chôr yr ardal, gydag 8 prif unawdydd a ‘Thanymarian’ yn gyfrifol am bawb. Rhoddwyd clod uchel iawn i’r ‘Double Chorus’

The storm in its height is painted in a grand Double Chorus, the words of which are well fitted for musical description.58

a osodwyd ar y geiriau canlynol gan ‘Gwalchmai’.

Dyna’r gwyntoedd yn ymosod/Nes cynhyrfu’r môr i’w waelod/Curwalw’r nefoedd yn ymarllwys/I gyfarfod trochion diffwys/Eigion erchyll yn gynddeiriog/Lluchia’r rhuthrwynt, is y cerrynt yn wasgarog;/“Y llong yn nghanol y lli - ymsiglodd/A tharanodd pob peth ei thrueni.”59

Talwyd teyrnged yn ogystal i allu a dawn gerddorol ‘Tanymarian’ fel cyfansoddwr y campwaith gan ohebydd The North Wales Chronicle:

The music shows a surprising degree of native talent, improved by the study of the greatest of all masters - Handel. The Welsh have always been deemed as a musical people, and certainly the have shown on this occasion how well they have deserved that character.60

56 ‘Bangor’, Y Gwladgarwr, 2 Hydref 1858, t.5.
57 ‘Stephen’s Oratorio of the Storm of Tiberias’, The North Wales Chronicle and Advertiser for thr Principality, 22 May 1858, p.8.
58 Ibid.
59 Ibid.
60 Ibid.

 

page62image112221504

 

54

Rhoddwyd canmoliaeth arbennig yn ogystal i’r rheini a fu’n rhan o’r côr:

...considering that the performers on the above occasion were nearly all hard working quarrymen and day-labourers, deficient of early education, we may fairly challenge any class or people occupying the same position in society to exhibit a greater amount of musical ability and perseverance than the above humble operatives in the evening of Thursday last.61

Cafwyd ail berfformiad mawreddog o’r gwaith gan yr Undeb, o dan arweiniad H. B. Jones, ‘Garmonydd’, yng Nghapel Bethesda ar Hydref 18fed 1872.62 Amcangyfrifwyd unwaith yn rhagor nad oedd dim llai na 2,000 o gynulleidfa’n bresennol. Rhoddwyd enillion y cyngerdd, £15.40, at achos adeiladu Ysgol Frytanaidd y Carneddi. Dywedwyd gan rai o’r cerddorion a chyfeillion a oedd yn bresennol na chlywsant y ‘fath ganu corawl godidog yn eu hoes.’63

Nis gellir anwybyddu’r hyn sy’n gyffredin rhwng yr holl berfformiadau hyn o Ystorm Tiberias. Y mae holl adroddiadau’r wasg yn unfryd eu clod o’r datganiadau, boed nhw’n cyfeirio at y canu, y gerddoriaeth, neu’r cyfarfod cerddorol yn gyffredinol. Y mae’r tri digwyddiad uchod yn dystiolaeth o Fethesda fel ardal a oedd wedi’i thrwytho’n gyfan gwbl mewn cerddoriaeth.

Mae hi’n amlwg fod ‘Alawydd’ wedi bod yn ffigwr hynod amlwg o fewn cymdeithas Bethesda, am ei waith fel cyfansoddwr, hyfforddwr ac arweinydd corawl. Gwnaeth lawer ffafr â’i gymdeithas, ac roedd ei ymdrechion i sicrhau fod y bwlch mewn anwybodaeth

61 ‘Stephen’s Oratorio of the Storm of Tiberias’, The North Wales Chronicle and Advertiser for thr Principality, 22 May 1858, p.8..
62 ‘Dadganiad Mawreddog ar Dreithalaw y Parch. E Stephens (Tanymarian) – Ystorm Tiberias’, Baner ac Amserau Cymru, 20 Hydref 1872, t.5.

63 Ibid.

 

page63image112220464

 

55

gerddorol yn cael ei llenwi yn allweddol a hynod arwyddocaol. Gwelwyd tystiolaeth am safonau uchel Côr Capel Bethesda, ac am feistrolaeth y côr wrth iddynt berfformio ystod eang iawn o gampweithiau mwyaf heriol y cyfnod. Roedd yr hyn a gyflawnwyd gan Undeb Corawl Bethesda yn torri tir newydd yn gyfan gwbl, ac yn glod enfawr i’r arweinyddion ac i’r cantorion. Gellir ymfalchïo’n fawr yn ei safon gan nad oes unrhyw amheuaeth mai dyma uchafbwynt canu corawl ardal Bethesda.

56

Pennod 4

Pennod Glo

57

Wrth grynhoi’r astudiaeth yma ar darddiad corau capeli Bethesda, gellir dweud yn ddi-os nad oes unrhyw amheuaeth i ganu corawl yr ardal gyrraedd a safonau eithriadol o uchel. Y mae’r holl ddeunydd sydd wedi’i gasglu a’i werthuso yn cefnogi’r datganiad fod Bethesda wedi bod yn un o’r ‘lleoedd mwyaf cerddorol yng Nghymru’64 yn ystod ganol y 19eg Ganrif.

Amlygwyd yn yr ymchwil hwn mai o fewn capeli’r ardal y derbyniai’r rhan fwyaf o gymdogaeth Bethesda eu gwersi cyntaf mewn cerddoriaeth. Nid cerddorion proffesiynol nag lled-broffesiynol ychwaith oedd yn gyfrifol am gynnig hyfforddiant cerddoriaeth gynharaf yr ardal, ond yn hytrach, cerddorion amatur fel Robert Williams, Cae Aseth. Cyfeillgarwch oedd y prif rym y tu ôl i’w ymdrechion i hyfforddi’r gymdeithas yn ardal Bethesda.

Dylid cydnabod yma Robert Williams, Cae Aseth fel yr unigolyn a fu’n gyfrifol am gyflwyno cerddoriaeth i ardal Bethesda ym mlynyddoedd cynnar y 19eg Ganrif. Er bod cerddoriaeth wedi bodoli yn eglwysi’r plwyf cyn ei ymddangosiad i’r ardal, cerddoriaeth yn ei ffurf symlaf ac o’r natur fwyaf sylfaenol ydoedd hwn. Y mae hi’n gwbl amlwg mai trwy gyfrwng ei ddosbarthiadau cerddoriaeth yng nghapeli Yr Achub a’r Carneddi yr addysgwyd cerddoriaeth i gymdogaeth yr ardal yn safonol a swyddogol am y tro cyntaf erioed. Ymwreiddiwyd holl lwyddiannau cerddorol ardal Bethesda, boed nhw’n gorawl neu’n offerynnol eu natur, yn yr hyfforddiant cynharaf hwn.

Addas yw rhoi sylw teilwng yn ogystal i’r gwaith yng Nghapel Jerusalem. John Parry, ‘Jerusalem’ oedd yn gyfrifol am gyflwyno oratorio fel Messiah Handel am y tro cyntaf i gôr yn yr ardal. Roedd hyn yn arwydd o lwyddiant gwersi cerddoriaeth Robert Williams, Cae Aseth, yn y Carneddi. Er mai hanfodion cerddoriaeth oedd yn derbyn sylw yn y gwersi hyn, galluogodd yr hyfforddiant a roddwyd yno i drigolion yr ardal ddod i ddeall a pherfformio

64 Idris Lewis, Cerddoriaeth yng Nghymru (Lerpwl: Hugh Evans a’i Feibion, 1945), t.19. 58

 

page66image109999312

 

cerddoriaeth o’r safon uchaf posib. Roedd gwaith ‘Alawydd’ yng Nghapel Bethesda yn allweddol i hyn, gan i’w hyfforddiant adeiladu ar sylfaen dosbarthiadau’r Carneddi. Bu’r Gramadeg Cerddoriaeth mor arwyddocaol gan i ‘Alawydd’ grynhoi cyfoeth ei wybodaeth gerddorol mewn testun a oedd wedi’i llunio’n arbennig at wasanaeth trigolion yr ardal.

Y mae hi hefyd yn amlwg mai canu corawl fu’n bennaf gyfrifol am ddyrchafu statws y gelfyddyd yn ardal Bethesda yn ystod y 19eg Ganrif. Gwyddys am fodolaeth cerddoriaeth yn ei ffurf offerynnol yn ardal Bethesda trwy law Seindorf Bres y Penrhyn, y Penrhyn Loyal Oddfellows Brass Band, y Bethesda Brass Band, yr Ogwen Brass Band,65 y BethesdaStringed Band a’r Ogwen String Band.66 Fodd bynnag, adnabyddwyd yr ardal yn bennaf am ei chanu rhagorol. Bodolaeth y dwsiniau o gorau, cymdeithasau corawl a phartïon glee oedd yn gyfrifol am ddyrchafu’r statws hwnnw. Roedd y corau a’r cymdeithasau hyn llawer pwysigach nac bod ganolbwynt i fywyd cerddorol y gymdeithas yn unig gan iddyntwasanaethu, ynghŷd â’r capeli, fel calon i fywyd cymdeithasol ardal Bethesda’n gyffredinol.

Gwelwyd datblygiadau amlwg i natur canu corawl ardal Bethesda yn negawdau’r 19eg Ganrif. Yn ystod cyfnod cynharaf yr 1820/30au rhoddwyd pwyslais ar ddysgu elfennau cerddoriaeth, a dysgu sut i ganu tonau syml. Adeiladwyd ar y sylfaen hwn yn ystod yr 1840/50au wrth i gorau ddechrau ymgymryd â cherddoriaeth mwy heriol, o natur anthemau Cymreig cynnar. Erbyn blynyddoedd yr 1850au a’r 1860au dechreuwyd perfformio cerddoriaeth o safon llawer uwch, gan gynnwys cyfanweithiau campus Cymreig ac Ewropeaidd. Yn ystod y cyfnod yma, ail hanner y 19eg Ganrif, roedd y bri pennaf ar ganu corawl Bethesda.

65 Y mae hi’n debyg iawn fod yr enw ar y Bethesda Brass Band wedi cael ei newid i’r Ogwen Brass Band yn ystod y cyfnod hwn (1885).
66 Eto, y mae hi’n debyg iawn fod yr enw ar y Bethesda Stringed Band wedi cael ei newid i’r Ogwen String Band yn ystod y cyfnod hwn (1889).

 

page67image109653376

 

59

ATODIAD 1

page69image109653168
page70image109650880
page71image109822160
page72image109822992

ATODIAD 2

page74image109590336
page75image109591168

ATODIAD 3

page77image109805568

ATODIAD 4

page79image109807648

ATODIAD 5

No. 1. Solo for a Tenor voice, very nicely sang, and full of melody. No. 2. Air, Bass, sung by Mr, Stevens himself; to this succeeded the first chorus, this was very good in the Fugato style. 4. Air, Tenor- 5. Chorus, lively and spirited the finish very abrupt, on the words, Hai! How! 6. Air, Bass. 7. Chorus a short fuge to commence with, ending in a full chorus the Ps and Fs to this very nicely marked. 8. Recit. Tenor. 9. Duett for two trebles; this in our opinion was taken too fast, and one of the singers (females) was evidently very nervous. 10. Recit. Tenor. II. Double Quartett; this suffered severely from the want of an instrument - the singers being all astray. 12. Recit. Tenor. 13. Solo, taken much too fast. 14. Double Chorus - "The Storm;" this is certainly a fine composition; it is divided into sections, each part good, and with full instrumental accompaniments must be very imposing. 15. Recit, Tenor recitatives can never tell well without an accompaniment. 10. Chorale, on an old Welsh Air, very nicely introduced. 17. Full Chorus. 18. Recit. 19. Chorus Gweddi'r Dysgyblion;" very good, but in our opinion much too fast for a prayer; the finish, unique in the minor. 20. Air, Tenor; slightly out of tune. 21. Air, Bass. 22. Trio, very artistic. 23. Solo and Chorus; the solo sung unsteadily; the chorus still good. 24. Recit. Tenor. 25. Chorus, on the lines

Oh! Pwy yw hwn lywyddai’r gwynt a'r mor Oil! pwy yw hwn? Ai hwn yw'r Dwyfol lor?

A perfect gem. 26. Recit. Bass. 27. Quartett. 28. Chorus the arrangement of this truly beautiful. 29. Air, Tenor; sang by Mr Stevens in a spirited and energetic manner, expressive of the captain of the vessel seeing land after a storm. 30. Solo and Chorus, on a Welsh Air extremely good, but we think Mr. Stevens quite capable of introducing something original in its place. 31. Air, Tenor, a pleasing melody, and well sung. 32. Chorus; a chorus of great merit; the commencement slow and piano, - fine throughout; artistically worked up, leading well into the Finale, the Amen Chorus; these two latter and the Storm Chorus, may rank with, and indeed, reminded us of some of Haydn's splendid descriptive choruses, and in fact are worthy of any composer.
 

LLYFRYDDIAETH

CYFEIRLYFRAU

JONES, M. O., Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig, (Caerdydd: D. Duncan, 1890).

LLYFRAU

EVANS, Emlyn, O’r Niwl a’r Anialwch (Dinbych: Gwasg Gee, 1991).

GRAHAM, John, A Century of Welsh Music (London: E.P. Dutton & co, 1923).

GRIFFITH, R. D., Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948).

HOBLEY, William, Hanes Methodistiaeth Arfon: Dosbarth Bethesda [5] (Caernarfon: Cyfarfod Misol Arfon, 1910).

HUGHES, J. E., Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad (Aberystwyth: Cyhoeddiadau Barddas, 2008).

LAMBERT, W. H., Drink and Sobriety in Victorian Wales (Cardiff: University of Wales Press, 1983).

LEWIS, Idris, Cerddoriaeth yng Nghymru (Lerpwl: Hugh Evan’s a’i Feibion, 1945). LLOYD-WILLIAMS, Gladys, Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Ogwen (Caernarfon:Llyfrfa’r Methodistiaid, 1965).

MOSES, Robert, Y Mynegfys Cerddorol yn cynnwys Holwyddoreg ar Ganu (Caernarfon: James Rees, 1844).

OWEN, D. Huw, Chapels of Wales (Bridgend: Seren Books, 2012).
OWEN, Richard, Hanes Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Mhlwyfydd

Llanllechid a Llandegai, (Bangor: Evan Williams, 1882).
PARRY, W. J., Cyfrol Jiwbili Eglwys Bethesda, Arfon (Dolgellau: W. Hughes a’i Fab,1900).

PARRY, William, Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai (Bangor: J Mendus Jones, 1868).

PWYLLGOR y Llyfr Emynau Cydenwadol, Caneuon Ffydd (Llandysul: Gwasg Gomer, 2001). ROBERTS, David, Gramadeg Cerddoriaeth (Grecsam: Hughes a’i Fab, 1862).

ROBERTS, David, Llyfr y Psalmau yn Nghyd â Psalmdonau Hen a Diweddar (Bethesda: D. Roberts, 1867).

ROBERTS, Ernest, Ar Lwybrau’r Gwynt (Llandybïe: Llyfrau’r Dryw, 1963). WILLIAMS, Gareth, Valleys of Song (Cardiff: University of Wales Press, 1992). WILLIAMS, H. J., Hanes Eglwys Llanllechid (Bethesda: Jarvis & Foster, 1910).

 

ERTHYGLAU

‘Cylchwyl Cymdeithas Ddirwestol Bethesda, Swydd Arfon’, Y Drysorfa, Rhif CXI (Mawrth 1840), 25.

‘Cyfarfod Cymdeithas Ddirwestol’, Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America (Awst 1849), 254. ‘Hanesiaeth Bellenig: Beaumaris’, Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America (Hydref 1860), 405.

Emlyn Evans, ‘Cerddoriaeth Gymreig yn y Ganrif Ddiwethaf: Rhan II’ yn Y Cerddor (Ebrill 1901), 34-36.

Griffith Rowlands, ‘Alawydd Bethesda’, Y Dysgedydd (1875), 99-100.
R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth ym Methesda – Ddoe: I’, Y Cerddor (Mawrth 1930), 9-11.

R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth `ym Methesda. Canu Bethesda – Ddoe: Llith II’, Y Cerddor (Ebrill 1930), 36-38.

R. D. Griffith, ‘Cerddoriaeth ym Methesda – Ddoe: Llith IV’, Y Cerddor, (Mehefin 1930), 100-103.

R. D. Griffith, ‘Cyfraniad Meibion Arfon i Gerddoriaeth: Pum Arloeswr’, Trafodion Hanes Sir Gaernarfon (1948), 96-100.

R. D. Griffith, ‘Ein Cerddorion (Rhif 188, Mr. John Davies ‘Eos Ogwen’, Bethesda)’, Y Cerddor (Gorffennaf 1914), 74-75.

R. D. Griffith, ‘Hen Gerddorion Bethesda, Llanllechid a Llandegai’, Y Cerddor (Mehefin 1914), 60-61.

R. D. Griffith, ‘Hen Gerddorion Llanllechid a Llandegai’, Y Cerddor (Chwefror 1915), 16- 17.

PAMFFLEDI

Eglwys Bresbyteraidd Cymru Jerusalem Bethesda, Dathlu Canrif a Hanner Jerusalem (Dinbych: Gwasg Gee, 1992), d.t.

Ann R. Jones, Lloffion o Hanes Plwyf Llanllechid, d.c., d.d.
Rhestr Testunau Eisteddfod goronog y Carneddi, Bethesda, 1910 (Bethesda: J. F. Williams,

1910).

NEWYDDIADURON

Yr Amserau
Baner ac Amserau Cymru
Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent Y Genedl Gymreig
Y Gwladgarwr
Y Gwyliwr
The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality The Principality

LLAWYSGRIFAU

Archifdy Prifysgol Bangor. Llawysgrif BMSS III 2212.

‘Hanes yr Achos yn y Carneddi o’i ddechreuad hyd yn bresenol (1816-1909)’. Rhodd gan Mrs Morfudd Wyn Roberts, Llwyn Meurig, Rhos y Nant, Bethesda.

‘Hanes yr Achos yn Jerusalem, Bethesda am y 50 ml cyntaf’. Rhodd gan Mr Walter Williams, Erw Las, Bethesda.