Fel un na dderbyniodd ddiwrnod o addysg uwchradd yn ei fywyd, llwyddodd Robert David Griffith (1877 - 1958) i gynhyrchu gwaith o safon uwchraddol. Fe’i ganed yng Nghwm-y-Glo, ger Caernarfon ar y pedwerydd ar bymtheg o Fai, 1877 yn fab i Richard a Jane Griffith. Chwarelwr oedd ei dad wrth ei alwedigaeth ac fel y mwyafrif o deuluoedd y cyfnod hwnnw fe ddisgwylid i Robert yntau ei ddilyn i'r chwarel. Perthynai ei mam i linach o gerddorion amlwg y cyfnod. 'Roedd yn gyfnither i David Roberts, ('Alawydd') awdur y Gramadeg Cerddorol a fu’n waith chwyldroadol i gerddorion ifanc a brwdfrydig diwedd y ganrif ddiwethaf, a dechrau’r ugeinfed ganrif. Bu 'Alawydd' yn gyfrifol am sefydlu dosbarthiadau cerddorol, perfformio oratorïau a chynnal Eisteddfodau ym Methesda. Roedd ei mam hefyd yn gyfnither i’r cerddor, John Williams, ('Gorfyniawc o Arfon'), sef awdur erthyglau yn y Gwyddoniadur. Yn ogystal â bod yn gysylltiedig â’r cerddorion hyn, roedd teulu ei mam yn hanu o deulu Hen Gapel, Cae Lwyn Grydd, a leolir yn yr un ardal y bu Robert Williams, Cae Aseth, cerddor arall a fu'n gysylltiedig â Bethesda yn cynnal dosbarthiadau cerdd ynddynt ar brynhawn Sadyrnau.

Ganed pedwar mab a merch i deulu Richard a Jane Griffith, sef John, William, Richard, Jane a Robert, ac yr oedd y brodyr i gyd yn gerddorol. Roedd gan y pedwar ohonynt ran flaenllaw yng ngherddoriaeth eu hardal enedigol yn ogystal â’r ardaloedd y buont yn byw ynddynt, er enghraifft yn canu offerynnau yng Nghapel yr Annibynwyr a’r Methodistiaid yng Nghwm-y- Glo. Bu Richard yn gwasanaethu fel organydd yn y capeli hyn ac ar achlysur eu hymadawiad o'r ardal derbyniodd gasgliad o lyfrau am ei lafur. Symudodd y teulu i Fynydd Llandegai yn 1885, ond yr oedd William a John wedi marw erbyn hynny a phenodwyd Richard yn organydd yng Nghapel Shiloh, Tregarth pan oedd yn 17 oed, a dechreuodd Robert ei frawd fel arweinydd canu cynulleidfaol am y tro cyntaf yng Nghapel Hermon, Mynydd Llandegai ac yntau yn ei arddegau cynnar.

 

Yn dilyn pum mlynedd ar Fynydd Llandegai, symudodd y teulu i fyw i Fethesda yn 1890 i fod yn agosach at weithle y tad a Robert. Ond roedd y symudiad o fantais hefyd i’w frawd, Richard, oherwydd daeth yn athro cerdd yn yr ardal ac yn organydd yng Nghapel Jerusalem, Bethesda lle y bu yn ôl pob tebyg hyd ei farwolaeth. Gweithiodd R.D.Griffith gyda'i dad yn Chwarel y Penrhyn hyd at y flwyddyn 1901, sef blwyddyn wedi'r Streic Fawr (1900 -1903) ddechrau. Ni ddychwelodd R.D.Griffith i’r chwarel fel y gwnaeth sawl un arall, oherwydd derbyniodd swydd fel clerc yng nghwmni W.J.Parry, Ystâd Coetmor. Bu yn y gwaith hwn am o leiaf chwarter canrif, ac fe’i dyrchafwyd i fod yn rheolwr y cwmni, nes derbyn swydd gyda 'The Manchester Paint and Varnish Company', fel gwerthwr teithiol tua'r flwyddyn 1927. Tyfodd yr awch i ddysgu pan oedd oddeutu un ar bymtheg oed ac aeth ati i gyflawni gwaith cenhadol yn ogystal ag addysgu ei hun. Cynhaliai wersi cerdd yn yr Ystafell Genhadol yn Neuadd y Twr, Bethesda a oedd yn eiddo i'r Methodistiaid Calfinaidd. Mynychid y gwersi gan oddeutu chwedeg o blant tlawd yr ardal ac fe gyfeiliai iddynt gyda'i ffidil, oherwydd prinder yr offerynnau cerdd ym Methesda'r cyfnod hwnnw. Fel sawl cerddor arall o'i fro, aeth R.D.Griffith ati i ddysgu mwy am theori a harmoni cerdd gan feistroli’r holl reolau a chyflawnai ymarferion a nodiadau cerddorol er mwyn dod yn fwy hyddysg yn ei waith. Mewn rhai o’r ymarferion hyn, y mae wedi harmoneiddio alawon Cymreig a chyfansoddi alawon bychan, gwreiddiol.

 

 

Ymaelododd y teulu yng Nghapel Jerusalem, Bethesda, sef yr union fan yr aeth R.D.Griffith ei hun ymhen blynyddoedd i gynnal llawer o berfformiadau cerddorol. Penodwyd ef yn flaenor yno yn 1914 a bu yno am bedair blynedd ar ddeg nes ei ymadawiad o'r ardal yn 1928. Mae’n debyg mai ei uchelgais oedd astudio cerdd yn Aberystwyth dan oruchwyliaeth yr Athro David Jenkins, ond ni chafodd weld gwireddu ei obeithion o ganlyniad i’r Streic Fawr. Er hyn, ni roddodd heibio’r syniad i ddilyn gyrfa yn y byd cerddorol, a pharhaodd i ymddiddori mewn canu cynulleidfaol a hanes cerddorol Cymru, yn enwedig yn nhraddodiadau Dyffryn Ogwen.

 

 

Yn 1909, priododd â Miss Ellen Owen, merch y Parch. Owen Owens, Bethel, Bodorgan, a hynny ar brynhawn Mercher ym mis Gorffennaf ac fe gynhaliwyd y gwasanaeth yng Nghapel Jerusalem. Ar achlysur eu priodas, derbyniasant Feibl gan bobl ifanc Capel Jerusalem, ac arno ceir yr arysgrif ganlynol:

 

 

Cyflwynedig

I

Mr a Mrs R.D.Griffith

Ar yr achlysur o'u priodas,

gan garedigion Cyfarfod Gweddi

y Bobl Ieuaingc yn Jerusalem, Bethesda.

 

 

Digwyddiad mawr arall o bwys i’r hanesydd yn yr un flwyddyn, oedd sefydlu côr o 80 o leisiau yn y Capel hwnnw. Prif bwrpas côr Jerusalem oedd perfformio rhai o brif oratorïau y cyfnod a’r rheini gyda chyfeiliant cerddorfa leol. Bu R.D.Griffith yn weithgar hefyd yn hanes côr arall yn y dyffryn sef y Côr Mawr, a oedd yn cystadlu mewn cyfarfodydd cystadleuol ac a gafodd lwyddiant ysgubol wrth ennill pum cystadleuaeth yn ystod un gaeaf yn unig. Ond ymadawodd â'r côr am nad ar ganu cystadleuol yr oedd ei fryd. Ei freuddwyd oedd cael Côr Jerusalem i berfformio oratorïau, yn union fel y bu côr 'Alawydd' yn gwneud y ganrif flaenorol. Ymhen rhai blynyddoedd, dechreuodd R.D.Griffith ddysgu a pherfformio y cyfanweithiau mawr gan gyfansoddwyr megis Handel a Mendelssohn ac o ganlyniad i’w poblogrwydd, daeth y cyngherddau yn achlysuron blynyddol o bwys yn y dyffryn.

 

Yr her gyntaf a osodwyd ger bron aelodau côr Jerusalem oedd i ddysgu’r Messiah, ac fel y disgwyliwyd roedd yr ymateb yn un cymysglyd iawn. Adroddodd y North Wales Chronicle fel a ganlyn am y digwyddiad :

 

His choir now became so well established that he challenged them to tackle the Messiah. Some of the sages shook their heads and said it was too great a venture for such a small choir.

 

Un o’r pethau pwysicaf y dylid ei gofio wrth drafod y côr hwn, yw’r ffaith nad oedd yr aelodau wedi derbyn hyfforddiant nac addysg gerddorol a phrin oedd y rhai a allai ddarllen a deall elfennau a nodau cerddoriaeth. Ar y cyfan bu’r her gyntaf hon yn llwyddiant, er gwaethaf eu hamheuon ar y dechrau. Daeth perfformiadau o'r faint yn achlysur blynyddol gyda llu o wrandawyr yn tyrru i'r Capel. Bu sôn a thrafod y perfformiadau hyn yn y papurau lleol a chenedlaethol gan gynnwys Y Genedl Gymreig a'r Liverpool Daily Post lle canmolir yr arweinydd, y côr, yr unawdwyr a’r gerddorfa ar eu perfformiadau gwefreiddiol.

 

Un o’r perfformiadau cyntaf a gynhaliwyd gan y côr oedd Rhyfelwyr y Groes a hynny ym mis Hydref, 1910. Cafwyd erthygl am y cyngerdd hwnnw yn Y Genedl Gymreig :

 

Gwledd nad anghofir yn rhawg gawsom yn addoldy hardd Jerusalem, Bethesda, nos Sadwrn…Rhifa’r côr 50, yn cael eu cynorthwyo gan Gerddorfa Mr Whitehead, Bangor, a’r oll dan arweiniad y cerddor adnabyddus Mr R.D.Griffith, Tawelan.

Fel y gellir dychmygu roedd perfformio cyfanweithiau o’r safon hon, flwyddyn ar ôl ei sefydlu yn fenter fawr i’r côr gan nad darnau hawdd oeddynt i’w canu. Wrth i’r blynyddoedd a’r perfformiadau ddatblygu, anoddach fyth oedd y cyfanweithiau. Gosodwyd mwy o her iddynt a phob aelod yn ôl pob tebyg yn mwynhau'r profiad, oherwydd y cynnydd yn nifer yr aelodau. Cynorthwyai unawdwyr proffesiynol gyda'i rhanau lleisiol unawdol wrth berfformio'r cyfanweithiau a deuai aelodau’r gerddorfa o ardaloedd cyfagos gan gynnwys Bangor, Porthaethwy, Llanfairfechan, Llandudno a Bethesda, a theithiau rhai mor bell â Manceinion ac Oldham. Yr aelodau a ddaeth o Fethesda dros y blynyddoedd oedd :
 

1st Violins: Mr A.Gordon Babbridge.

2nd Violins: Dr Idwal Williams.

Clarinet: Mr H.Lambert.

Organ: Mr R.R.Griffith.

Piano: Mr Arnold Griffith.

Enwau rhai o’r unawdwyr a ymddangosai’n aml ym mherfformiadau’r côr oedd: Miss Hilda Roberts, Miss Dorothy Lloyd, Mr Evan Lewis, Mr Powell Edwards, ac yn ogystal â’u henwi, ychwanegwyd lluniau ohonynt yn y rhaglenni.

 

Dros gyfnod o bedair blynedd ar bymtheg, cynhaliwyd llawer iawn o berfformiadau o gyfanweithiau gan y côr. Cofnodwyd y rhestr fer ganlynol gan R.D.Griffith yn ei lawysgrifau, ac yn y wasg, o'i perfformiadau ganddo ym Methesda:

 

Rhyfelwyr y Groes: Hydref 1910.

 

Messiah: Mawrth 1920

 

Messiah: Rhagfyr 1920.

 

Judas Maccabaeus: Mawrth 1922.

 

Samson: Mawrth 1923.

 

Samson: Mawrth 1925.

 

Saint Paul: Mawrth 1924.

 

Yn 1921, ffurfiwyd 'Cymdeithas Gorawl Bethesda' o dan arweiniad R.D.Griffith, a hynny flynyddoedd ar ôl dechrau perfformio’r cyfanweithiau gyda chôr Capel Jerusalem. Yn unol â’r gymdeithas honno, fe gadwodd R.D.Griffith gofrestr o’r hên aelodau, ac yn ogystal â nodi eu henwau, eu cyfeiriadau a'u lleisiau, cofnododd eu datblygiad o fewn y côr, gan nodi eu gwendidau a’u cryfderau. Nodai bethau fel: V.B (Very bad), B (Bad), M (Medium), a oedd yn cael ei ddefnyddio i ddynodi safon a gallu’r unigolyn. Yn ogystal â hyn, nodai y rhai a allai ddarllen Sol-Ffa, Hen Nodiant, neu ddim o gwbl.

 

Bu R.D.Griffith yn ystod ei gyfnod ym Methesda yn ŵr a ddaeth â llawer o agweddau cerddorol yn ôl i sylw'r cyhoedd, oherwydd canmolwyd ei ymdrechion yn fawr, yn enwedig ei waith gyda’r corau. Fel y cyfeiriodd y Parch. Owen Pritchard:

 

Am y canu, yr oedd yn werth dod o bellter i’w glywed. O ran ei ansawdd a’i ysbryd, ni chawsom ei debyg yn unman ers llawer dydd.

 

Yn dilyn adolygiadau o'r fath, nid oes syndod iddo dyfu o nerth i nerth gan gyflawni sawl 'gwyrth' nad oedd un ardal arall yng Nghymru erioed wedi’i ystyried. Yn ogystal ag arwain a hyfforddi’r corau, bu R.D.Griffith yn gysylltiedig â Gwyliau Cerddorol a Chymanfaoedd Canu. Cynhaliwyd sawl un ym Methesda, oherwydd yr oedd traddodiad yn yr ardal i gynnal Cymanfa Gerddorol Dosbarth Bethesda bob dydd Gwener y Groglith. Yn ôl pob tebyg bu R.D.Griffith yn gysylltiedig â’r ŵyl hon, a bu yn ei harwain ar sawl achlysur. Yn ystod un o’r cymanfaoedd hyn yn 1915, ymwelodd Syr Henry Jones â Bethesda. Arweinydd y gymanfa y flwyddyn honno oedd R.D.Griffith. Cofnodwyd yr achlysur yn Y Goleuad, o dan y pennawd, 'Ymweliad Syr Henry Jones â Bethesda'.

 

Yn yr un cyfnod, cynhaliwyd sawl gŵyl Gerddorol yma yng Nghymru, ac mae'n debyg mai un o’r rhai cyntaf oedd Gŵyl Harlech. Bu R.D.Griffith mewn cysylltiad agos â sefydlu gŵyl debyg yng Nghaernarfon, a hynny wedi iddo fod yn bresennol yn Harlech, oherwydd yn ogystal â bod yn arweinydd yr oedd yn feirniad, ac yn ŵr a oedd yn cael ei gwahodd fel siaradwr gwadd. Yn ogystal ag ymgyrchu’n frwd o blaid Gŵyl Caernarfon, cynorthwyodd R.D.Griffith gyda’r Singing Festival a gynhaliwyd yno hefyd, a bu’n arweinydd gwadd ar sawl achlysur. Gŵr arall a oedd yn bresennol oedd y Parch. Owen Pritchard, ac fe gyfeiriodd at Fethesda fel: Un o’r ardaloedd mwyaf Methodistaidd a phoblog yn Arfon.

 

Yn ôl yr erthyglau a geir yn y papurau newydd a chylchgronau megis y North Wales Weekly News a'r Goleuad, gŵr a weithiai'n ddiwyd iawn oedd R.D.Griffith, ac roedd yn gysylltiedig â sawl gweithgaredd cerddorol fel arweinydd, gŵr gwadd, neu ysgrifennydd. Bu'n ysgrifennydd Gŵyl Gerddorol Arfon, sef yr union ŵyl y bu ef ac eraill yn brwydro'n galed i'w sefydlu, ac mae'n debyg mai'r rheswm dros hynny oedd iddo sylweddoli gwerth arbennig digwyddiad o'r fath. Rheswm arall yn ei dyb ef, oedd fod hanes cerddorol Arfon yn eithriadol bwysig a bod sefydlu gŵyl o'r fath yna angenrheidiol.

 

Er i ni feddwl bellach am R.D.Griffith fel arweinydd cynulleidfaol a hanesydd cerddorol, yr oedd hefyd yn cyfansoddi gryn dipyn. Mae'r ffaith iddo lunio unrhyw beth o gwbl yn arwydd o'i allu naturiol o gofio mai addysgu ei hunan yn y maes a wnaeth. Ceir casgliad cyfan o'i gyfansoddiadau yn Archifdy Prifysgol Cymru, Bangor, yn ogystal â'i unig ddarn cyhoeddiedig, sef yr unawd Y Sipsi. Cyfansoddodd hefyd nifer o ddarnau bychan sy'n debyg i ganeuon plant er enghraifft Hwiangerdd, sy'n osodiad o eiriau Mair Elli, ac a gyfansoddwyd tra yr oedd yn byw yn Y Fron, Carneddi. Bu R.D.Griffith hefyd yn trefnu alawon ac emyn-donau ar gyfer y cerddorfeydd y bu'n gysylltiedig â hwy. Trefnodd un o emyn-donau enwocaf Edward Stephen, ('Tanymarian'), sef 'Tanymarian' a'r dôn 'Liverpool' gan Ieuan Gwyllt.

 

Treuliodd R.D.Griffith yn agos i chwarter canrif ym Methesda, hyd at Fehefin, 1928, pan symudodd ef a'i briod i Hen Golwyn lle y bu'n byw hyd at ei farw yn 1958. Er nad oes tystiolaeth bendant ar gael i egluro pam y symudodd, rhydd nodiadau personol yn ei lawysgrifau ryw fath o eglurhad i ni. Mae'n debyg mai un rheswm oedd fod swyddogion Eglwys y Carneddi wedi penderfynu nad oeddynt am ymuno ag Eglwys y Gerlan i alw gweinidog ond yn hytrach roeddynt am alw gweinidog eu hunain. Ar y pryd, roedd R.D.Griffith a'i briod yn byw yn Y Fron, Tŷ Capel Carneddi a chyda phenderfyniad o’r fath hwn, bu rhaid iddynt adael eu cartref. Bu'r ddau'n chwilio yn ddyfal am dŷ arall ym Methesda, ond methwyd yn llwyr a chael man addas.

 

Yn ystod yr un cyfnod, roedd R.D.Griffith yn dal i weithio i gwmni paent ym Manceinion a olygai lawer iawn o deithio iddo ac roedd byw ym Methesda yn ychwanegu i'r broblem honno. Er hyn, nid oedd am dorri'r cysylltiad â chôr Jerusalem ychwaith wrth ymadael, oherwydd dros y blynyddoedd fe fu'n llwyddiannus iawn o dan ei arweiniad. Ymysg ei nodiadau personol cyfeiria R.D.Griffith at yr hyn a deimlai ynghylch â'i gyfraniad i'r ardal:

 

…bod gwasanaeth mawr i gerddoriaeth yn cael ei wneud. Nid oedd cysylltiadau a gwaith cerddorol yn rhwystr i mi wneud fy meddwl i fyny i symud o Fethesda.

 

Rhai o'r rhesymau eraill dros adael Bethesda oedd fod iechyd ei wraig wedi dechrau dirywio ac mai syniad call fyddai symud i Hen Golwyn oherwydd bod ei frawd yng nghyfraith, Y Parch. W.R.Owen yn byw yno. 'Roedd ef yn Weinidog ar Eglwys Hebron (M.C) yn y dref, ac fe fuont yn ddigon ffodus i gael tŷ ger ei gartref. Symudodd y ddau i fyw i 24, Wynnstay Road, Hen Golwyn yn 1928, ac ymhen amser fe alwodd R.D.Griffith y cartref yn Y Fron, ar ôl ei dŷ ym Methesda.

 

Pan adawodd y ddau ardal Bethesda, mae'n debyg fod llawer wedi gweld eu colli a chyn iddynt adael, cynhaliwyd cyflwyniad arbennig iddynt yng Nghapel Jerusalem. Ceir nodyn am y digwyddiad hwn yn Y Goleuad:

 

Nos Sul, Mehefin 3, cyflwynodd eglwys a chynulleidfa Jerusalem, Bethesda, walet o "Treasury Notes" i Mr a Mrs R.D.Griffith …..Bydd ein colled ni yn ennill i'w gylch newydd.

 

Yn ogystal â derbyn y walet o 'Treasury Notes’, derbyniasant gloc gan y Capel, arno ceir yr arysgrif ganlynol:

 

Gwerthfawrogiad o wasanaeth

cyflwynedig gan Eglwys Jerusalem,

Bethesda i Mr a Mrs R.D.Griffith

Ar eu hymadawiad i'r Hen Golwyn,

Mehefin, 1928.

 

Fe ddaeth tro ar fyd ym Methesda pan symudodd y teulu i Hen Golwyn, ac yn wir fe fu colled mawr ar eu hôl.

 

Wrth i un bennod ym mywyd R.D.Griffith ddod i ben ym mis Mehefin 1928, dechreuodd un newydd yn fuan wedi hynny. Ymsefydlodd y ddau yn Hen Golwyn ac ymaelodi yng Nghapel Hebron, Hen Golwyn a oedd gerllaw eu cartref yn Wynnstay Road. Parhaodd i weithio gyda 'The Manchester Paint and Varnish Company' gan deithio ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Bu gyda'm cwmni hyd ei saithdegau hwyr ac fe welir tystiolaeth o hyn yn ei lythyrau yn Archifdy Prifysgol Cymru, Bangor. Er yr holl deithio a wnaeth ef ar ran y cwmni, ni amharodd â'i ddiddordeb ym myd cerddoriaeth o gwbl.

 

Cwta flwyddyn ar ôl cartrefu yn Hen Golwyn, sefydlodd Gymdeithas Hen Golwyn a'r Cylch yn 1929 a sefydlodd gôr fel ym Methesda ar gyfer perfformio oratorïau poblogaidd y cyfnod. Dros y saith mlynedd dilynol dysgodd y côr wyth oratorio a'u perfformio'n flynyddol. Yn ogystal â bod yn gysylltiedig â'r côr, yr oedd hefyd yn weithgar gyda Cherddorfa Morfa Rhianedd, Llandudno. Wrth i R.D.Griffith â'i gôr berfformio'r oratorïau roeddynt yn gwneud hynny ar y cyd â Cherddorfa Gwynedd ac unawdwyr proffesiynol. Cyngerdd cyntaf y côr oedd yr un a gynhaliwyd ar y pedwerydd ar bymtheg, a'r ugeinfed o Fawrth, 1930. Perfformiwyd Samson (Handel) a Iesu Dyrchafedig (Bach), gyda Samson ond yn cael ei pherfformio ar y noson gyntaf yn unig oherwydd cafwyd cyngerdd a elwid yn Grand Miscellaneous ac a pherfformiad o Iesu Dyrchafedig y noson ddilynol. Yr oedd 120 o aelodau i'r côr a 32 yn y gerddorfa yn y perfformiad cyntaf. Yn y North Wales Pioneer ceir rhestr o holl aelodau'r côr a'r gerddorfa, a hefyd canmoliaeth frwd am y perfformiad:

 

Mr R.D.Griffith and his newly-formed Colwyn and District Welsh Choral Society are to be congratulated upon the successful debut they made at the Pier Pavilion on Wednesday and Thursday evenings,…

 

Dyma restr o’r holl berfformiadau y bu R.D.Griffith yn gysylltiedig â hwy yn ystod ei gyfnod gyda'r côr:

 

Gorffennaf 20, 1931 : Grand Concert.

 

Mawrth 18, 1931: Judas Maccabaeus (cynhaliwyd yn y Pier Pavillion).

 

1935 : Deucanmlwyddiant y Diwygiad Methodistaidd 1735-1935. (canu tonau amrywiol)

 

Awst 9: Samson.

 

Ebrill 13, 1932: Brahm's Requiem a Miscellaneous.

 

Rhagfyr 23, 1942; Aelwyd Hen Golwyn a Cherddorfa Morfa Rhianedd, cynnal Gwasanaeth Nadolig yn Neuadd Eglwys, Hen Golwyn.

 

Gorffennaf 15, 1942; Noson o ddrama a chân, Neuadd Eglwys, Hen Golwyn.

 

Mai 14, 1944: Grand Orchestral Concert, fel arweinydd gwadd. Fe'i cynhaliwyd yn y Pier Pavilion.

 

Yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn Hen Golwyn datblygodd ei ddiddordeb ymhellach yng ngherddoriaeth Cymru. Yr oedd eisoes wedi dechrau ymchwilio i'r maes tra yr oedd yn byw ym Methesda, ac fe barhaodd â'r gwaith yr oedd wedi'i ddechrau yno. Rhwng 1931 a 1935 cyhoeddodd ffrwyth ei waith ymchwil yn Y Cerddor a hynny ar 'Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru'. Roedd deuddeg ysgrif i'r gwaith gyda phob un yn ymdrin ag agwedd wahanol. Cyfrannodd yn aml hefyd i'r Cerddor, gan hefyd ysgrifennu erthyglau ar gyfer Y Ffordd, Y Traethodydd, Y Goleuad a'r Drysorfa. Ymhen blynyddoedd cafodd ei ddewis yn olygydd cerddorol i Trysorfa'r Plant a hynny wedi marwolaeth J.T.Rees yn 1949.

 

Yn 1934 fe’i dewiswyd yn flaenor yng Nghapel Hebron, Hen Golwyn lle y bu am bedair blynedd ar hugain. Yn ystod ei flynyddoedd yno fe fu'n weithgar iawn gyda'r ifanc, drwy fod yn gyfrifol am gynnal Cyfarfodydd Gweddi yr Ieuenctid ar fore Sul, a hynny ar rai adegau wedi iddo deithio gryn bellter gyda'i waith y diwrnod blaenorol. Bu hefyd yn athro Ysgol Sul yn y Capel am gyfnod. Tua diwedd ei oes dechreuodd R.D.Griffith gynnal seiadau yn ei gartref gyda sawl un yn nodi hyn yn eu coffa amdano yn y papurau newydd:

 

Llawer seiat gyfoethog a gawsom ar ei aelwyd y tair blynedd diwethaf, blynyddoedd ei lesgedd mawr olaf.

 

Fel y crybwyllwyd uchod bu R.D.Griffith yn weithgar iawn gyda Cherddorfa Morfa Rhianedd. Yn ogystal â bod yn un o'r sylfaenwyr, yr oedd hefyd yn trefnu gweithiau ar eu cyfer, sef cyfansoddi neu drefnu alawon a hynny gan amlaf yn donau gan gyfansoddwyr adnabyddus y cyfnod. Dyma restr o berfformiadau y bu R.D.Griffith yn gysylltiedig â hwy:

 

Mai 8, 1940: Cerddorfa Morfa Rhianedd.

 

Ebrill 23, 1941: Cerddorfa Morfa Rhianedd.

 

Ebrill 25, 1941: Cerddorfa Morfa Rhianedd.

 

Ebrill 27, 1942: Cerddorfa Morfa Rhianedd.

 

Ebrill 29, 1942; Cerddorfa Morfa Rhianedd.

 

Mawrth 31, 1943: Cerddorfa Morfa Rhianedd.

 

Mehefin 14, 1944: Cerddorfa Morfa Rhianedd.

 

In ogystal ag ysgrifennu ar gyfer gwahanol ffynonellau, bu R.D.Griffith hefyd yn darlledu rhai darlithoedd ar y radio. Yn anffodus ni recordiwyd yr un o'r rhain ar dâp sy'n awgrymu'n fawr mai darlleniadau byw oeddynt. Un o'r rhain oedd y sgwrs a ddarlledwyd o Fangor ar y testun, 'Canu Cynulleidfaol Cymru'. Seiliwyd y ddarlith ar adrannau o'r llawysgrifau, y gyfrol ei hun, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru, a'r fersiwn a ymddangosodd yn Y Cerddor. Dangosodd y darlleniadau hyn y stôr eang o wybodaeth a oedd ganddo. Ymhedwar ar bymtheg o Awst, 1947 a hynny gan Rhaglen Cymru a'r rhaglen 'Calendr y Cymro' am John Ambrose Lloyd, ar y bedwaredd ar ddeg o Awst, 1948. Ar un achlysur darlledwyd un ddarlith o Fethesda, lle trafodwyd cyfraniad Bethesda i gerddoriaeth. Ymysg ei waith ysgrifenedig fe geir dwy sgwrs radio a ddarlledwyd ar brynhawn Sul. Darlledwyd un ym mis Awst 1946 a'r llall ym mis Awst 1947.

 

Fel ym Methesda, derbyniodd wahoddiadau fel arweinydd gwadd a theithiodd i wahanol ardaloedd yn arwain cymanfaoedd canu a gwyliau cerddorol. Roedd y galw amdano fel arweinydd mor gyson nes y cofnodwyd hwy yn y papurau lleol a chenedlaethol.

 

Wedi ei weled a'i glywed yn arwain Cymanfa y dystiolaeth gyffredinol ydyw ei fod yn un wedi ei dorri yn arbennig i'r gwaith.

 

Yn ogystal â chael ei wahodd i wahanol ardaloedd fel arweinydd gwadd daeth galw amdano hefyd fel darlithydd, yn enwedig ar ôl yr hên waith a ymddangosodd yn y cylchgronau. Ar un achlysur cafodd ei wahodd i annerch cynulleidfa yng Nghymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd yn Llandrillo, Meirionydd. Ar wahân i'r anerchiad hwn, bu'n teithio’r gwahanol rannau o Gymru a chofnodwyd sawl un ym mhapurau lleol yr ardaloedd.

 

Cododd R.D.Griffith y mater o ddiffyg canu emynau a'r dirywiad mewn canu corawl mewn erthygl yn 1943, gan hefyd ymateb mewn llythyr i erthygl a ysgrifennwyd gan Owain Llew Owain ar destun tebyg yn Y Goleuad. Mae'n debyg ei fod yn destun a barodd lawer o ofid drwy iddo weld y dirywiad yn safon y canu, a hynny yn ôl pob tebyg yn ystod ei gyfnod yn arwain mewn gwahanol gapeli, cymanfaoedd a gwyliau canu. Nodwyd hyn mewn erthyglau a gofnodwyd am un cyfarfod lle y crybwyllodd R.D.Griffith y broblem a'r sefyllfa. Rhywbeth yn debyg i'r mater uchod oedd ei farn ynghylch â safon tonau a diffyg y detholiadau ar gyfer Cymanfa Ganu yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe'i gwahoddwyd ar sawl achlysur i feirniadu yn yr eisteddfodau lleol, ac yr oedd hyn yn anrhydedd mawr iddo, yn enwedig o ystyried nad oedd wedi derbyn addysg ffurfiol na cherddorol. Parhaodd R.D.Griffith i gyfansoddi alawon bychain ar ôl symud i Hen Golwyn er iddo gwblhau ei brif weithiau ym Methesda. Yn bennaf, alawon bychain yn debyg iawn i rai ar gyfer plant yw'r casgliad, ac un o'r alawon hynny yw 'Sioni Rhew', ar eiriau gan Mair Elli. Ymysg y casgliadau hyn y mae ei emyn, Gweddi Plentyn (yn yr hwyr) gyda'r geiriau, unwaith yn rhagor gan Mair Elli.

 

Un o'r prif ddigwyddiadau yn ei fywyd yn ystod ei gyfnod yn Hen Golwyn oedd cyhoeddi ei gyfrol, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru yn 1948. Yn y rhagair cyfeiriai at y ffaith iddo ddechrau ymchwilio ar ei chyfer tua phum mlynedd ar hugain cyn ei chyhoeddi. Yn yr Archifdy yng nghanol ei holl eiddo personol ceir llythyrau yn ei longyfarch, ac adolygiadau o'r gwaith o bapurau newydd lleol a chenedlaethol:

 

Dyma, o'r diwedd, gyfrol glasurol ar un o arweddau mwy nodweddiadol yn hanes ein diwylliant ysbrydol fel cenedl.

 

Yr ail ddigwyddiad yn ei fywyd oedd derbyn Gradd Anrhydedd M.A Prifysgol Cymru yn 1952 am ei gyfraniad fel ymchwilydd i hanes cerddoriaeth Cymru. Yn anffodus yr oedd ei wraig Ellen wedi marw cyn iddo dderbyn y radd hon. Ar yr achlysur hwn derbyniodd gopi o'i gyfrol Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru gan Dr Gwilym Parry Hughes, ei feddyg, ac ar y dudalen gyntaf ceir yr arysgrif ganlynol:

 

I

Mr R.D.Griffith

i'w longyfarch ar ei anrhydeddu

âg M.A Prifysgol Cymru, Gorffennaf, 1952.

 

Yn ogystal â'r arysgrifiad yn y gyfrol, roedd Dr Parry Hughes wedi llunio englyn iddo, o dan y teitl, 'Cymwynas R.D i Gymru':

 

Ei golud a ddiogeli - â'th bin Byth, byth ni ollyngi I'r gwyll i'w llwyr gyfrgolli, Salmau côr ei hallor hi. G.P.H.

 

Yn yr Archifdy ceir llythyrau sy'n nodi'r holl drefniadau a gwybodaeth ynghylch â'r seremoni, a hynny ynghyd â llythyrau ac erthyglau amrywiol yn ei longyfarch ar y faint anrhydedd:

 

Dr. D.E.Parry-Williams, at the ceremony, said the degree was conferred upon Mr Griffith for his researches into Welsh choral and instrumental music. "Mr Griffith", he said, "is a scholar by nature, and has made his country his workshop".

 

Bu R.D.Griffith yn ysgrifennydd 'Pwyllgor y Cyfundeb' hyd at 1958, sef y flwyddyn y bu farw. Fel rhan o'i gyfrifoldeb ar y pwyllgor hwnnw, bu rhaid iddo'u cynorthwyo gyda'r trefniadau ar gyfer rhaglen dathlu canmlwyddiant y Cyfundeb.

 

Ar y deuddegfed o Hydref 1958, bu farw R.D.Griffith yn ei gartref, yn Hen Golwyn yn wythdeg un oed. Fe'i claddwyd ym Mynwent Bron-y-Nant, Bae Colwyn ar y pumed ar hugain o Hydref 1958. Ceir cofnod o'i farwolaeth mewn sawl erthygl yn y papurau newydd lleol a chenedlaethol, sy'n datgan y golled a welwyd ar ei ôl yn y byd cerddorol...